成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Diwrnod
y llyfr

Pob math o ddigwyddiadau ar hyd a lled Cymru

Dydd Iau, Mawrth 9, 2000

Mae yfory, dydd Gwener Mawrth 10, yn ddiwrnod mawr I bawb sy鈥檔 mwynhau llyfrau.

Ac fe fydd yna lu o ddigwyddiadau ledled Cymru i ddathlu Diwrnod y Llyfr.

Gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn trefnu a鈥檙 Cynulliad Cenedlaethol yn talu bydd y digwyddiadau yn amrywio o sesiynau 'cwrdd ag awdur' ar drenau bach Cymru, i ddarlleniadau mewn canolfannau siopio a danfon pytiau o lyfrau ar y rhyngrwyd.

Yn ystod y bore bydd nifer o awduron plant, gan gynnwys Si芒n Lewis a Julie Rainsbury, yn darllen i blant ysgol ar Reilffordd Dyffryn Tawe, Rheilffordd Llyn Tegid, Rheilffordd Llyn Llanberis, a Rheilffordd Dyffryn Teifi.

Yng Nghaerdydd, bydd gweithgareddau yn y Ganolfan Celfyddydau Gweledol 芒鈥檙 Llyfrgell Ganolog. Bydd y prifathro a'r bardd Neil Nuttall yn cynnal sesiynau barddoniaeth, yr artist, Jackie Morris, a beintiodd ddarluniau ar gyfer llyfr y diweddar Ted Hughes, How the Whale Became, yn cynnal gweithdy paentio, a'r awdur, Gillian Clarke, yn cynnal sesiynau dweud stori.

Yn y Ganolfan Celfyddydau Gweledol bydd y Cyngor Llyfrau yn lansio llyfryn arbennig ar gyfer rhieni,Helpu eich plentyn i ddarllen, ac o bencadlys y Cyngor yn Aberystwyth gweithredir cynllun uchelgeisiol i ddanfon pytiau byr o lyfrau dros y rhyngrwyd i gynulleidfa o 25,000.

Yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr bu gwahanol bapurau dros y wlad yn argraffu tocynnau llyfrau arbennig i'w defnyddio ar Ddiwrnod y Llyfr ei hun a'r diiwrnod wedyn, Mawrth 11. Bydd y tocynnau yn caniatau 拢1 i ffwrdd ar bob llyfr a brynir gwerth 拢2.99 neu fwy.

Bydd gwahanol weithgareddau stryd hefyd gydag actorion yn rhoi darlleniadau yng Nghaerfyrddin a Llanelli, tra yng Nghanolfan Siopa Fictoria, Llandudno, bydd dwy artist yn creu cerfluniau anferth ar thema llyfrau.

Darlledir yn fyw o siop lyfrau Ottakar yn Aberystwyth yn y bore ar Radio Ceredigion gydag awduron yn cynnal gwahanol sesiynau.

Gydol yr wythnos mae'r diwrnod wedi bod yn cael sylw ar raglenni Radio Cymru.

Bydd disgyblion ysgol o bob cwr o'r wlad hefyd yn dathlu gydag Ysgol Uwchradd Llanrhymni, Caerdydd, yn cynnal ffair lyfrau a sillafu a darllen noddedig , tra bo staff Ysgol Gynradd Penllwyn, Pontllanfraith, wedi dyfeisio g锚m fwrdd anferth, yn seiliedig ar agweddau o lenyddiaeth blant, ar gyfer disgyblion.

Meddai Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru:

"Rydyn ni wedi cael ymateb penigamp i Ddiwrnod y Llyfr. Mae brwdfrydedd y cyhoedd, sydd wedi ymgymryd yn llwyr 芒 dibenion y diwrnod, yn galonogol iawn ac yn dangos bod llyfrau yn parhau i danio'r dychymyg yn wyneb cystadleuaeth gemau fidio, ffilmiau a theledu."
Wythnosau Blaenorol:


Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy