成人快手


Explore the 成人快手

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



成人快手 成人快手page

Cymru'r Byd
Adolygiadau
» Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Fy Nghawl Fy Hun Fy Nghawl
fy Hun


Adolygiad Gwyn Griffiths
Hwyrach i mi fod yn ffodus yn y man y cefais fy addysg uwchradd. Ni fedraf achwyn am ddiffyg awyrgylch Gymreig Ysgol Sir Tregaron, er mai Saesneg oedd iaith y dosbarth. Ond tros y blynyddoedd clywais gwyno mawr gan gynifer o gyfeillion, rhai yn bobl amlwg iawn, a gawsant eu haddysg yn Ysgol Tytandomen. Mawr fu鈥檙 lladd arni, ei diffyg Cymreictod a phrinder cydymdeimlad a thraddodiadau鈥檙 ardal.

Mae tipyn o labyddio, hefyd, ar yr hen ysgol gan y bardd a鈥檙 gwr hynod aml-ddoniau hwnnw, Gerallt Lloyd Owen, yn ei hunan-gofiant, Fy Nghawl Fy Hun. Ar gychwyn y drydedd bennod mae鈥檔 cofnodi digwyddiad mewn gwers hanes, ac yntau, erbyn hynny, yn y chweched dosbarth. Mae鈥檙 athro鈥檔 gofyn iddo pa mor bell y medrai olrhain ei achau. Atebodd Gerallt, "yn fy Saesneg fy hun", y medrai eu holrhain i Lywarch Hen yn y chweched ganrif. Chwerthin yn goeglyd wnaeth yr athro. "But seriously, boy, how far can you really trace your ancestors?"

Eglurodd Gerallt wrtho iddo gael y sicrwydd fod yr hyn ddwedodd yn wir yn 么l neb llai na Bob Owen Croesor. Am yr athro, tebyg na wyddai pwy oedd Bob Owen ac ni chlywsai am Lywarch Hen er i hwnnw - yn 么l traddodiad - farw filltir neu ddwy o Ysgol Tytandomen.

Mae鈥檙 stori fach yna鈥檔 cyfleu llawer am gynnwys y gyfrol gyfoethog hon. Y bachgen a godwyd yng nghanol "y pethe" yn y Sarnau lle鈥檙 oedd Bob Lloyd yn frenin - "llond ty o ddiwylliant oedd". Meddyliwch amdano鈥檔 sgrifennu am R. Williams Parry a fu鈥檔 ysgol-feistr yn y Sarnau yn 1912-13. "Roedd Williams Parry wedi ymadael a鈥檙 Sarnau ddeng mlynedd ar hugain cyn fy ngeni ac eto, nid gormodiaeth yw dweud ei fod yn llechu ym mhob twll a chornel o鈥檓 plentyndod," meddai Gerallt. Ac yr oedd yn amlwg fod Williams Parry dipyn o flaen ei oes fel athro hanes - lawer mwy na鈥檙 gwr gafodd Gerallt yn chweched dosbarth Tytandomen. A鈥檙 dylanwad hwnnw wedi goroesi degawdau.

鈥橰oedd barddoni i Gerallt, mor naturiol ag anadlu. Mor naturiol fel pan gyfarfu Waldo Williams mewn Ysgol Haf yn Harlech daethant yn gyfeillion a pharhau i lythyra鈥檔 achlysurol ar 么l hynny. Waldo oedd y tiwtor a Gerallt yn yr ysgol o hyd.

Nid cyfrol am feirdd a barddoni mo hon o bell fordd. Mae鈥檔 llawn asbri鈥檙 pethau鈥檔 sy鈥檔 diddori pobl ifanc. Helyntion carwriaethol yn y coleg a ph锚l-droed, er enghraifft. Ceir hanes rhai o鈥檌 gampau ef ei hun ar y maes - a鈥檌 frawd Geraint, hefyd. Ac ambell dim caletach na鈥檌 gilydd, fel Cwm Tirmynach. "Roedd y rheiny mor ffyrnig nes eu bod yn cadw o gyrraedd ei gilydd," meddai.

"Yn ddiweddarach, un a fu鈥檔 chwarae dros Gwm Tirmynach am lawer blwyddyn oedd Elwyn Edwards a ddaeth wedyn yn brifardd ar 么l ffeirio clec asgwrn am glec cynghanedd."

I ganol hyn i gyd daw dicter oherwydd Tryweryn. A dicter at ambell ddarlithydd o Sais fu鈥檔 dan ar ei groen yn ei gyfnod yn y Coleg Normal. Cyfeiria at bennaeth yr Adran Saesneg, gwr sarhaus ac anghynnes o鈥檙 enw Croker. Gresyn na fuasai, os yw鈥檔 fyw, fedru Cymraeg i ddarllen yr hyn sydd gan Gerallt i ddweud amdano. Ond 鈥檙oedd eraill mwy hynaws o lawer yn ddarlithwyr yn y coleg, fel y dramodydd Huw Lloyd Edwards.

Mae鈥檔 gwneud i rywun dristau, weithiau, o ganfod athrawon a darlithwyr sy鈥檔 analluog i ddygymod 芒 disgyblion sy鈥檔 amlwg yn alluocach a mwy disglaer na nhw. Yr oedd Gerallt, fe gofiwn, wedi ennill Cadair yr Urdd cyn cyrraedd y coleg.

Mae鈥檙 gyfrol yn gorffen yn 1968 pan sefydlodd y comic Cymraeg Yr Hebog ac yntau ar fin troi tua鈥檙 de i fod yn athro yn Ysgol Glyndwr, yr ysgol breifat Gymraeg a sefydlwyd gan y dyn busnes a鈥檙 cenedlaetholwr tanbaid, Trefor Morgan. Mae鈥檔 amlwg fod llawer mwy i ddod a chawn edrych ymlaen am gyfrol arall ddifyr a blasus.

Cyhoeddwyd Fy Nghawl Fy Hun - Gerallt Lloyd Owen gan Gwasg Gwynedd, Pris 拢6.95.
Wythnosau Blaenorol:

Adolygiadau TeleduSteddfod 2003
Lluniau a straeon o Feifod
Adolygiadau Theatr
Theatr

Straeon ac adolygiadau o'r theatr Gymraeg

Adolygiadau Ffilm
Ffilm

Pwyso a mesur ffilmiau o Gymru a'r byd
Llais Llen
Llais Llên

Holi awduron ac adolygu y llyfrau diweddaraf
Y Sin
C2
Cynnwrfa chyffro y S卯n Roc Gymraeggyda chriw C2



About the 成人快手 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy