³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyfri Pennau

Vaughan Roderick | 09:59, Dydd Gwener, 14 Rhagfyr 2012

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur rhwng y Cyfrifiad a phopeth arall. Rwy'n cymryd eich bod wedi clywed neu weld hen ddigon o fy nadansoddi i ynghylch y Cyfrifiad dros y dyddiau diwethaf ond mae gen i ambell i bwynt ychwanegol i wneud.

Nodwedd fwyaf amlwg y cyfrifiad eleni oedd nad oedd y cynnydd bychan yn nifer siaradwyr ifanc y Gymraeg yn y dwyrain yn ddigon i wneud iawn am golledion y broydd Cymraeg traddodiadol.

Dyw hynny ddim yn golygu bod twf addysg Gymraeg mewn ardaloedd di-gymraeg wedi arafu neu wedi methu mewn rhyw ffordd. Mae'r ysgolion yn dal i dyfu a rhai newydd yn agor bob blwyddyn. Gellir disgwyl i'r broses honno gyflymu wrth i ddyletswydd statudol gael ei gosod ar ysgwyddau cynghorau i fesur y galw o flaen llaw a darparu'n ddigonol.

Yr hyn wnaeth ddigwydd yn y dwyrain, mae'n ymddangos, oedd bod rhieni plant y sector addysg Saesneg yn fwy realistig am sgiliau ieithyddol eu plant.

Mae hynny'n codi cwestiwn difrifol wrth gwrs ynghylch safon dysgu'r Gymraeg yn y sector Saesneg. Oni ddylai pob plentyn 16 oedd bod a'r gallu i gynnal sgwrs syml yn y Gymraeg erbyn hyn? Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen yn y gwersi 'Cymraeg' os mai'r ateb mwyaf tebygol i gyfarchiad Cymraeg yw "is that Welsh?"

Mae 'na broblemau yn yr ysgolion Cymraeg hefyd, problemau ynglŷn â'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth ac ar ôl gadael ysgol. Pe bai'r Gymraeg yn gadarn yn y Gorllewin fe fyddai'n bosib byw gyda'r problemau hynny, gan gymryd y rheiny oedd yn defnyddio'r iaith ar ôl gadael ysgol fel bonws i'r iaith. Yn ffodus neu'n anffodus fedrwn ni ddim fforddio gwneud hynny.

Mae hynny'n dod â fi at sefyllfa yn y bröydd Cymraeg traddodiadol.

Y peth cyntaf i ddweud am y rhain yw bod y sefyllfa hyd yn oed yn waeth nac mae'n ymddangos ar y wyneb. Mae cyfundrefnau addysg yr ardaloedd hyn, yn enwedig rhai'r gogledd, yn llwyddo i sicrhau bod nifer sylweddol o blant mewnfudwyr yn gadael yr ysgol yn ddwyieithog. Canlyniad hynny yw bod y canran o siaradwyr Cymraeg sy'n ei siarad fel ail iaith yn cynyddu'n gyson. Mae'n bosib y gallai hynny arwain at newid ym mha iaith a ddefnyddir o ddydd i ddydd yn yr ardaloedd hyn os nad yw hi wedi gwneud hynny'n barod.

Yr ail bwynt sy gen i yw bod cynghorau yn gallu gwneud gwahaniaeth. Ydy hi'n syndod mai mewn sir oedd yn fodlon ystyried benthyg dros chwarter miliwn o bunnau i Eglwys Saesneg godi canolfan fowlio tra'n torri cyllidebau ei Mentrau Iaith y gwelwyd y cwymp mwyaf? Cewch chi farnu.

Beth sydd i wneud felly? Wel, dyw hwn ddim yn gyfnod i anobeithio na llaesu dwylo. Fe fyddai'r sefyllfa heddiw llawer iawn yn waith pe bai pobol wedi gwneud hynny dros yr hanner canrif ddiwethaf.

Erbyn hyn mae gennym yng Nghymru'r grymoedd a'r pwerau i sicrhau dyfodol yr iaith. Mae sefyllfa'r Gymraeg llawer yn gryfach na'r ieithoedd Celtaidd eraill. Dyw eu caredigion nhw ddim am roi'r gorau i'w brwydrau. Pam ddylen ni?

Mae'r tŵls yn y bocs. Oes gan ein gwleidyddion yr ewyllys i'w defnyddio?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:20 ar 14 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd FiDafydd:

    Does neb yn gallu dweud wrtha i a ydi holl fyfyrwyr Aberystwyth a Llanbed ynghanol ystadegau a chanrannau Ceredigion. Wyt ti'n gwybod, Vaughan?

    Mae'n argyfyngus o hyd, ond o leia' mae'n gosod yr ystadegau a'r canrannau yn eu cyd-destun cywir wedyn.

  • 2. Am 17:18 ar 14 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Iwan:

    Ond yn y bon, "it's the economy, stupid". Os nad oes swyddi a thai i bobl ifanc yn yr ardaloedd priodol does dim ots os mai Cymry ail iaith neu iaith gyntaf ydyn' nhw, na pha iaith mae nhw'n siarad bob dydd - fydd dim dewis ganddyn' nhw ond gadael, a di-Gymreigio fydd canlyniad anochel hynny.

  • 3. Am 17:44 ar 14 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Dewi:

    Dwi'n gweld ysgolion Cymraeg y De lot yn debygl i ysgolion eglwys gatholig/CofE ayyb.

    Ysgolion da, felly mae rhieni yn gyrru plant yna.... ond eto dydy nhw ddim yn mynd i'r eglwys ar y Sul- neu ddim yn siarad Cymraeg. Dyma yw'r broblem. A da chin gweld hyd yn oed hefo "celebs" y byd gymraeg- mae lot fawr ohonyn nhw yn siarad saesneg hefo'i gilydd. Felly angen cael y iaith yn rhywbeth tu allan i'r ysgol sydd yn bwysig. Yng Nghymru danin lwcus, dani hefo 2 air a fedrith newid hyn: Yr Urdd. Pam ddim rhoi lot fawr o arian i'r Urdd i gael clybiau chwaraeon, clybiau ar ol ysgol ayyb i gael sefyllfa lle mai ond y Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio?

    Yn yr cadarnleoedd mae yna broblem wahanol. Da ni'n dysgu Cymraeg. Methu cael swydd a felly yn symud i Lloegr. Mae na ddyletswydd ar y sector gyhoeddus (Llywodraeth Cymru, ³ÉÈË¿ìÊÖ, S4C ayyb) i symud swyddi (a heini yn rhai da) fyny i'r gogledd. Yna gyda mewnfudwyr- dydy yr ysgolion ddim digon llym. Rhaid i brifathrawon mynnu bod ffrindiau yn siarad cymraeg hefo'i gilydd (a ddylsa Chelsea o Cheshire ddim newid hyn i grwp o ffridniau). Dwi hefyd yn teimlo y dylsa unrhywbeth fel Wylfa gael rheolau iaith wrth fynd trwy planning e.e rhaid i x% o'r gweithwyr fod yn allu siarad Cymraeg. Fe fysa hyn yn sicrhau gwaith i bobl leol.

    Mae na sefyllfa gwbl wahanol rhwng wahanol ardaloedd yng Nghymru felly pam dani hefo un mesur iaith ar gyfer yr holl o Gymru? Ydio ddim yn amser nawr i gael deddf iaith cryf i'r Gogledd Orllewin ag un ychydig yn wan i weddill Cymru? Un sydd yn hybu iaith a'r llall sydd amddiffyn iaith?

  • 4. Am 09:11 ar 15 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Dai Twp:

    Roeddwn i'n rhyw obeithio y galle ti ddweud os yw'r gwleidyddion yn enwedig Carwyn Jones, Leighton Andrews a Meri Huws am ddefnyddio'r twls hynny!

    Oes unrhyw unrgency yno, neu ydi Carwyn yn gwrthod deall gwleidyddiaeth iaith a gwleidyddiaeth pwer un iaith dros y llall?

    Ydy Carwyn dal am fynnu fod 320,000 o dai newydd am cael eu hadeiladu = 1 miliwn o bobl newydd yng Nghymru; ydy ni dal am sybsideiddio brain drain o Gymru; ydy'r Blaid Lafur yn Sir Gaerfyrddin am barhau i ladd yr iaith; ydy ni am gael rhyw fersiwn arall ar yr anobeithiol 'Iaith Pawb' a gwneud yr un camgymeriad eto; ydy Carwyn Jones am ddefnyddio'r un penderfyniad dros y Gymraeg ag mae ei arweinydd, Miliband, dros yr iaith Saesneg - a phaid gadael iddo ddweud nad yw'n cytuno gyda Milband, achos mae holl weithredoedd ei blaid yn dweud fel arall; pam fod y Gymraeg yn llai pwysig na'r Saesneg i'r Blaid Lafur?

    Mae'r Gymraeg yn dibynnu arnat ti a newyddiadurwyr eraill i beidio gadael i ddosbarth rheoli Cymru cael get awê gyda siarad mewn cliches, neu hoff dacteg Carwyn Jones a Rhodri Morgan sef siarad am yn rhy hir fel fod y cyfweliad wedi ei orffen heb i ddim o sylwedd cael ei ddweud.

  • 5. Am 16:41 ar 15 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Neilyn:

    Petai Ed Milliband wedi bod yn ddigon cwrtais (heb unrhyw angen i ddisgyn yn ol ar ei egwyddorion cydraddoldeb honedig) i son am sefyllfa arbennig ac eithriadol iaith frodorol Cymru yn ei araith ddoe yng nhyd destun y pwysigrwydd o gael newydd-ddyfodiaid i Brydain i ddysgu'r Saesneg, mi fuasai wedi gwneud cymwynas enfawr i ni. Ond na, chafwyd dim gair am y sefyllfa gwahanol yng Nghymru oddiwrth "darpar Prif Weinidog" Y DU, er fod Cymru yn Y DU. Distawrwydd llethol.

    Yn amlwg felly, mae'r baich yn disgwyn ar sgwyddau Mr Jones lawr yn y bae. Felly, a fydd Ein Llyw Cyfredol yn gwneud yr un fath o ddatganiad cyhoeddus agored parthed "iaith frodorol swyddogol" y wlad y mae ef yn Brif Weinidog arni? Dim on arweinydd yr wrthblaid yw Mr Millband, wedi'r cyfan! Mae Mr Jones mewn grym!! Son am gyfle euraidd!! Mae'r drws ar agor led y pen man uffar i!!

    Carwyn?!

  • 6. Am 18:41 ar 15 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Eirwen:

    Yn Sir Gar yn arbennig mae'r Cyngor yn gwastraffu arian ar gyflogau agos i £200k i'w prif weithredwr a'i gyfeillion ac yn
    torri cyfleusterau ac adnoddau i'r werin. Mae'n sgandal fel ma nhw'n gwario er lles eu hunain mewn ardal sy'n dlawd, gwledig ac o dan bwysau. Sdim rhyfedd bod siaradwyr Cymraeg y sir yn gadael am diroedd brasach. Mewn dau etholiad nawr ma nhw wedi llwyddo i wthio Plaid Cymru allan, er taw Plaid enillodd y mwyafrif o seddi ar y ddwy achlysur er mwyn creu 'clymblaid' rheng dau barti nag oedd wedi cael y mwyafrif o bledleisiau sy'n sgandal yn ei hun. Ma neb yn y cyfryngau lleol yn fodlon eu herio. Vaughan, dyma'ch cyfle chi i weithio ar 'expose' o weithgareddau'r Cyngor gwarthus hwn a sut ma nhw'n gwastraffu arian pobol y sir ac yn helpu i'r Gymraeg i farw yn y fro.

  • 7. Am 18:44 ar 15 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Eirwen:

    Yn Sir Gar yn arbennig mae'r Cyngor yn gwastraffu arian ar gyflogau agos i £200k i'w prif weithredwr a'i gyfeillion ac yn
    torri cyfleusterau ac adnoddau i'r werin. Mae'n sgandal fel ma nhw'n gwario er lles eu hunain mewn ardal sy'n dlawd, gwledig ac o dan bwysau. Sdim rhyfedd bod siaradwyr Cymraeg y sir yn gadael am diroedd brasach. Mewn dau etholiad nawr ma nhw wedi llwyddo i wthio Plaid Cymru allan, er taw Plaid enillodd y mwyafrif o seddi ar y ddwy achlysur er mwyn creu 'clymblaid' rheng dau barti nag oedd wedi cael y mwyafrif o bledleisiau sy'n sgandal yn ei hun. Ma neb yn y cyfryngau lleol yn fodlon eu herio. Vaughan, dyma'ch cyfle chi i weithio ar 'expose' o weithgareddau'r Cyngor gwarthus hwn a sut ma nhw'n gwastraffu arian pobol y sir ac yn helpu i'r Gymraeg i farw yn y fro.

  • 8. Am 15:13 ar 16 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd ³§¾±Ã´²Ô:

    VR: "Mae sefyllfa'r Gymraeg llawer yn gryfach na'r ieithoedd Celtaidd eraill."

    Pwyntiau da Vaughan, ond wn i ddim bellach faint yn gryfach ydym ni chwaith na'r ieithoedd Celtaidd eraill.

    Rwy'n trefnu Râs Iaith Glyndwr gyda Menter Iaith Ceredigon, Cered, sef râs relay hwyl fydd yn cychwyn yn Senedd-dy Glyndwr ar bnawn Gwener 14 mis Medi 2013 a gorffen yn Aberteifi bnawn Sul 16 Medi. Bydd baton yn cael ei basio pob km gyda clybiau, ysgolion, sefydliadau etc yn noddi km.

    Mae'r ras wedi ei seilio ar rasus tebyg yng Ngwlad y Basg, Llydaw a'r Iwerddon. Daeth trefnwyr y ras Wyddeleg, 'an Rith' draw i Gymru yr wythnos yma i roi cyngor i ni.

    Mae'r Iwerddon yn enwog wrth gwrs am fethiant ei pholisi iaith, ond cyn ymosod ar yr Iwerddon mae'n werth cofio hyn. Mewn sawl ffordd roedd yr iaith Wyddeleg mewn sefyllfa wannach yn 1922 nag y mae y Gymraeg heddiw. Y cwestiwn dylid gofyn yw a fyddai'r Gymraeg yn gryfach heddiw petai Cymru wedi cael annibyniaeth yn 1922? Yr ateb yn ddigamsyniol yw 'byddai'. Mae tranc y Gymraeg yn syrthio'n drwm ar ysgwyddau'r Wladwriaeth Brydeinig a Phrydeindod fel athroniaeth wleidyddol. Mae araith Miliband ond yn ategu hynny'n onest. Mae polisi ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru o hyrwyddo Prydeindod yn niweidio'r Gymraeg a thanseilio cynulleidfa darged Radio Cymru. Hynny yw, Prydain a Phrydeindod sy'n gyfrifol yn y bôn am gwymp niferoedd gwrandawyr Radio Cymru ac S4C.

    Mae sawl gwendid yn strategaeth iaith yr Wyddeleg, un oedd dilyn strategaeth addysg debyg i'r un mae Sir Gaerfyrddin wedi ei ddilyn, sef, yn fras dim strategaeth a dysgu Gwyddeleg fel pwnc. Ers rhai degawdau bellach mae caredigion y Wyddeleg wedi gweld methiant yr hen agwedd ac wedi datblygu ysgolion cyfrwng Gwyddeleg fel rhai cyfrwng Cymraeg yma. Mae hynny'n dechrau newid sefyllfa'r iaith.

    Mae'r Wyddeleg felly yn 'dal fyny' efo'r Gymraeg ym maes addysg.

    Yn ail, does dim mewnlifiad cyson o Saeson i'r Iwerddon. Mae'n anhebygol y bydd y mewnlifiad diweddar o Ddwyrain Ewrop yn digwydd eto chwaith. Mae hynny'n golygu fod gan y Gwyddelod boblogaeth gyson, sefydlog, i gyd wedi ei haddysgu o fewn ei gwlad. Dydy hynny ddim ganddom ni.

    Mae'r Gwyddelod nawr yn trefnu ras dros yr iaith a estynodd 700km eleni (gyda 600km yn y flwyddyn gyntaf). Er gwaetha 'cryfder' honedig a cymharol y Gymraeg, wedi 4 mlynedd o geisio, dim ond eleni yr ydwyf wedi cael y maen i'r wal ar syniad y ras - diolch i Cered a Menter Iaith Maldwyn. Bydd y Râs Gymraeg felly rhyw 180km, neu 400km yn llai na'r un gyntaf i'r Wyddeledg.

    Jyst un ras, un digwyddiad yw hwn wrth gwrs ac mae sawl ffactor ar waith. Ond peidied neb â meddwl bellach mai'r Gymraeg sy'n arwain y 'râs' o ran y ieithoedd Celtaidd.

    Dydy popeth ddim yn dda yn yr Iwerddon ond mae dau beth ganddynt mewn lle; addysg cyfrwng Gwyddeleg a phoblogaeth sefydlog. Dydy addysg heb ei sortio efo ni ac yn sicr does ganddom ni ddim poblogaeth sefydlog.

    Wn i ddim am ba hyd y Gymraeg fydd y 'brif iaith' Geltaidd. Dylem peidio cymryd hyn yn ganiataol. Cysur ffug yw cymharu ein hunain â'r Cenywiaid, LLydaweg a Manaweg neu Gaeleg - rydym bell tu ol y Basgiaid bellach (beth am i griw o'r ³ÉÈË¿ìÊÖ fynd i Wlad y Basg am dro gan gwrdd â phobl sianel deledu Basgeg ETiB? Mae wastad yn dda rhannu profiadau).

    Dyma'r math o laesu dwylo bodlon a arweiniodd at 'Iaith Pawb' a diogi deallusol yr 20 mlynedd ddiwethaf gan y dosbarth rheoli Cymraeg. Mae'n hen bryd i ni gyd fod yn onest â'n gilydd ac mae'n dda gweld fod hynny'n dechrau digwydd.

    Gwybodaeth am râs dros yr iaith:

  • 9. Am 12:06 ar 18 Rhagfyr 2012, ysgrifennodd Steffan Webb:

    Oes gan y gwleidyddion yr ewyllys i ddefnyddio'r twls? Nac oes!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.