Gwaed ar eu dwylo
Roedd ddoe yn ddiwrnod rhwystredig yn Uned Wleidyddol ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru. Roedden ni'n clywed gan ffynonellau dibynadwy iawn bod Stephen Crabb i'w benodi'n weinidog yn Swyddfa Cymru. Roedd ffynonellau eraill, a'r rheiny'r un mor ddibynadwy, yn mynnu mai'r Farwnes Randerson fyddai'n ddirprwy i David Jones. Pwy i gredu felly?
Wnaeth neb feddwl am eiliad y gallai'r ddwy stori fod yn wir. Wedi'r cyfan Ysgrifennydd Gwladol rhan amser ac un dirprwy yn Swyddfa Cymru fu'r patrwm am y rhan fwyaf o'r cyfnod ers sefydlu'r Cynulliad - a dydw i ddim yn cofio Don Touhig yn cwyno am y pwysau gwaith.
Y cwestiwn amlwg yw beth ar y ddaear y mae tri gweinidog am wneud a'u hamser? Roedd tri yn ddigon i redeg y cyfan o'r hen Swyddfa Gymreig - go brin fod angen yr un nifer i ofalu am ei gweddillion.
Y peryg mawr yw i'r triawd newydd botsio ym mhriod waith y Cynulliad er mwyn llenwi'r oriau hesb. Gallai hynny achosi pob math o broblemau a gwrthdaro. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gobeithio bod 'na ddigon o gardiau chwarae a setiau Monopoli yn NhÅ· Gwydyr!
Mae'n debyg mai Mike German fu'n ymgyrchu dros gael Democrat Rhyddfrydol yn Swyddfa Cymru ac i fod yn deg roedd y ffaith bod yr adran un o lond dwrn lle nad oedd gan y blaid gynrychiolaeth yn ymddangos braidd yn rhyfedd o'r cychwyn.
Yr adran ddiwylliant oedd un o'r adrannau eraill lle'r oedd gan y Torïaid fonopoli o'r swyddi. Am y rheswm hynny roedd y blaid Gymreig yn teimlo'n rydd i ymosod ar y ffordd y gwnaeth Jeremy Hunt ddelio ac S4C. Anodd fyddai wedi gwneud hynny pe bai 'na Ddemocrat Rhyddfrydol yn weinidog yn yr adran.
Mae 'na fanteision amlwg i'r Democratiaid Rhyddfrydol o gael llais a chlust yn Swyddfa Cymru. Ar y llaw arall mae'n gwneud hi'n anoddach i'r grŵp yn y Cynulliad esgus bod a wnelo penderfyniadau Swyddfa Cymru a'r glymblaid yn San Steffan ddim byd a nhw.
Fe fydd gallu cyhuddo Kirsty Williams o fod a gwaed ar eu dwylo yn fêl ar fysedd Carwyn Jones.
SylwadauAnfon sylw
Fydd yr is weinidogion yn derbyn cydnabyddiaeth ychwanegol am eu dyletswyddau? Roeddwn yn meddwl mai'r Toriaid oedd eisiau lleihau biwrocratiaeth.