³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2012

Byw ar y radio

Vaughan Roderick | 13:11, Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2012

Sylwadau (8)

Mae'n anodd anghytuno a gosodiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod 'dirywiad sylweddol yn y ddarpariaeth Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol' wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r dyddiau pan oedd gorsafoedd mewn ardaloedd cymharol ddi-gymraeg fel Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe yn cael eu gorfodi i ddarlledu oriau lawer o raglenni Cymraeg wedi hen ddiflannu. Cwffio i gael rhyw faint o'r iaith ar orsafoedd mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg mae ymgyrchwyr erbyn hyn.

Deddf Gyfathrebu (2003) yw'r drwg yn y caws. Canlyniad y ddeddf honno oedd rhoi'r gwaith o reoleiddio radio masnachol a chymunedol i gorff newydd sef OFCOM. Roedd gallu y corff hwnnw i osod amodau ar wasanaethau radio llawer yn llai na'i ragflaenwyr yw Awdurdod Radio a'r Awdurdod Darlledu Annibynol .

Teg yw gofyn a wnaeth Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iaith neu grwpiau protest sylweddoli'r peryg i wasanaethau radio Cymraeg ar y pryd?

Os naddo fe, pam? Os do fe, pam na gafwyd stŵr ynghylch y mesur ar y pryd?

Y naill ffordd neu'r llall mae pasio deddf 2003, o ystyried ei sgil effeithiau ar y Gymraeg, yn tueddu cryfhau dadl Richard Wyn Jones ac eraill sydd wedi awgrymu bod angen grŵp newydd i fonitro deddfwriaeth yng Nghaerdydd a San Steffan a lobio dros y Gymraeg.

Os am weld pwysigrwydd lobio ar ddeddfwriaeth does ond angen edrych yn fanwl ar ddeddf 2003. Yn sgil lobio gan y llond dwrn o grwpiau mawrion sy'n berchenogion ar y mwyafrif llethol o orsafoedd radio masnachol mae'r rheoleiddio ar y sector yn rhyfeddol o ysgafn. Mae'n ffaith rhyfedd fod y rheolaeth ar orsafoedd radio cymunedol llawer yn fwy llym.

Canlyniad hynny yw bod y cwmnïau mawrion yn cael gwneud mwy neu lai beth a fynnant a'u gorsafoedd tra bod grwpiau lleol fyddai'n dymuno cystadlu â nhw a'u dwylo wedi clymu.

Mae un rheol yn arbennig sydd yn bron yn amhosib ei ddeall. Gwaherddir gorsafoedd cymunedol rhag derbyn mwy na hanner eu hincwm o hysbysebion a noddi rhaglenni. Mae'r cymal yn bodoli i amddiffyn buddiannau gorsafoedd masnachol lleol - hyd yn oed oes ydy'r rheiny'n bethau swllt a dimau sy'n gwneud fawr mwy nac ail-ddarlledu rhaglenni rhwydwaith.

Heddiw mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y Gweinidog Iaith Leighton Andrews ei fod yn bwriadu "arfer pwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 14(5) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg (1993) i osod cynllun iaith sy'n cynnwys mesur wedi'i eirio'n briodol am yr ystyriaeth i'w rhoi gan Ofcom i'r Gymraeg wrth gyflawni ei swyddogaethau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, yn gyffredinol yn ogystal ag fel agwedd ar "ddeunydd lleol" yn y Canllawiau Lleolrwydd".

Yr hyn mae'r gweinidog yn ceisio gwneud, yn sgil pwysau gan Gymdeithas yr Iaith a'r Bwrdd Iaith, yw defnyddio Deddf yr Iaith Gymraeg i osod cyfrifoldebau ar OFCOM yn ychwanegol at y rhai sy'n gynwysedig yn y Ddeddf Gyfathrebu.

Mae'n debyg mai barn cyfreithwyr OFCOM yw bod Leighton yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau trwy wneud hynny ac y byddai OFCOM yn gweithredu y tu hwnt i'w bwerau pe bai'n ceisio gosod amodau ieithyddol wrth ystyried caniatáu trwydded i orsaf leol.

Nid fy lle i yw barnu pwy sy'n gywir.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'r datganiad yn 'arwyddocaol iawn'. Efallai ei fod e, efallai ddim. Mae'n debyg y bydd unrhyw newid yng nghynllun iaith OFCOM yn rhy hwyr i effeithio ar y ras am drwydded i ddarparu gwasanaeth radio yng Ngheredigion ac
mae'n annhebyg iawn y bydd unrhyw drwydded arall yn cael ei gynnig yng Nghymru cyn i Glymblaid San Steffan gyflwyno ei Mesur Cyfathrebu hi yn 2013.

Efallai bod y Gweinidog yn gosod marc ei fod am weld cymal iaith yn y Mesur Cyfathrebu nesaf - ond fe fydd angen mwy na marc i sicrhau hynny. Fe fyddai angen pwyso a lobio cadarn i sicrhau nad yw peiriant lobio'r gorsafoedd masnachol yn cael rhwydd hynt unwaith yn rhagor.

Emlyn

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Mae un arall o ffigyrau gwleidyddol amlwg ail hanner yr ugeinfed ganrif wedi ein gadael.
Bu farw Emlyn Hooson ar ôl bywyd llawn a gweithgar fel aelod o'r llynges, bargyfreithiwr, ffarmwr, Aelod Seneddol ac Arglwydd.

Etholwyd Emlyn Hooson yn aelod Maldwyn yn 1962 yn yr isetholiad a ddilynodd marwolaeth Clem Davies.

Rwyf wedi dadlau o'r blaen ar y blog hwn bod Clem yn ffigwr pwysig ond anghofiedig braidd yn hanes gwleidyddol Prydain. Oni bai am ei wrthwynebiad, penstiff braidd, i glymbleidio a'r Ceidwadwyr mae'n debyg y byddai'r Blaid Ryddfrydol wedi colli eu hannibyniaeth ymhell cyn ei dadeni yng nghyfnod Grimond a Thorpe.

Ond os oedd Clem wedi achub y blaid Brydeinig tasg ei olynydd oedd achub Rhyddfrydiaeth Gymreig.

Er bod y blaid yn Lloegr wedi cychwyn ar y broses hir o fagu grym yn 1962 gyda buddugoliaeth Eric Lubbock yn Orpington roedd cyflwr y blaid Gymreig ar ddechrau'r chwedegau yn drychinebus. Dwy sedd oedd yn weddill gan y blaid ac fe gollwyd un o'r rheiny, Ceredigion / Sir Aberteifi yn 1966.

Am wyth mlynedd hir Emlyn Hooson oedd arweinydd ac 'un dyn bach ar ôl' Rhyddfrydwyr Cymru. Doedd nemor ddim arian a nemor ddim trefniadaeth ac roedd yn well gan yr hynny o aelodau oedd ar ôl rannu atgofion am Lloyd George nac mynd allan i ymgyrchu!

Ymateb Emlyn i'r bygythiad o Lafur ac, ar ôl isetholiad Caerfyrddin, Plaid Cymru oedd lansio 'Plaid Ryddfrydol Cymru' fel plaid annibynnol o fewn y blaid Brydeinig. Roedd ganddi ei strwythurau, ei henw a hyd yn oed ei logo ei hun. Oni bai am y penderfyniad hwnnw mae'n bosib na fyddai'r blaid wedi goroesi'r ddegawd.

Hyd heddiw mae statws Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn wahanol iawn is statws canghennau Cymreig y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Emlyn sy'n gyfrifol am hynny.

Fe gollodd Emlyn ei sedd mewn amgylchiadau braidd yn rhyfedd yn 1979. Yn ôl chwedloniaeth wleidyddol Maldwyn roedd y Rhyddfrydwyr yn poeni mwy am drefnu dathliadau i nodi'r ffaith eu bod wedi dal y sedd am ganrif gyfan nac am ymgyrchu yn y flwyddyn honno.

Beth bynnag oedd y rheswm ar y meinciau cochion y treuliodd Emlyn bron i ddeng mlynedd ar hugain gan chwarae rhan amlwg yng ngweithgaredd y 'blaid Gymreig' answyddogol sy'n un o nodweddion y siambr uchaf.

Trwy hyn oll roedd Emlyn yn ddyn anodd iawn ei ddrwglicio. Roedd e'n fonheddwr yn ystyr gorau'r gair, yn ddyn galluog a chwrtais gydag ymroddiad dwfn i wasanaeth cyhoeddus.

Fe fyddai'n gor-ddweud i honni bod Emlyn yn un o gewri gwleidyddol Cymru ond roedd ei rôl yn hanes ei blaid yn allweddol. Fe gyflawnodd llawer dros bobol Maldwyn a Chymru dros gyfnod o ddegawdau.

Efallai mai fel "gwas da a ffyddlon" i'w blaid, ei ddaliadau a'i gydwybod y mae gweld Emlyn. Dyw hynny ddim yn ddrwg o beth i fod.


Cariad at y cwm

Vaughan Roderick | 14:54, Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012

Sylwadau (3)

Deugain mlynedd yn ôl i'r wythnos hon bu farw un o gymeriadau mwyaf lliwgar hanes gwleidyddol Cymru.

Fe fyddai'n deg i ddadlau, rwy'n meddwl, mai S.O yw'r Aelod Seneddol mwyaf asgell chwith yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.

Cafodd ei ddiarddel o'r blaid Lafur seneddol o leiaf bump o weithiau am wrthryfela ac roedd ganddo fwy o feddwl o bolisi tramor Moscow nac un Whitehall. Roedd hefyd yn un o'r ychydig aelodau seneddol i gefnogi'r ymgyrch dros Senedd i Gymru yn y pumdegau. Ar ôl colli'r enwebiad Llafur ym Merthyr yn 1970 fe safodd fel ymgeisydd annibynnol ac yn groes i bob disgwyl fe lwyddodd i drechu'r peiriant lleol a chadw'r sedd.

Bu farw S.O prin ddwy flynedd yn ddiweddarach ac yn yr isetholiad a ddilynodd ei farwolaeth cafwyd ras agos rhwng Llafur a Phlaid Cymru gyda'r cenedlaetholwyr yn honni mai eu hymgeisydd nhw, Emrys Roberts, oedd gwir etifedd radicaliaeth genedlaetholgar yr hen rebel.

Mae gen i fat cwrw yn rhywle ac arno'r slogan "Henry Richard - Keir Hardie - S.O - Emrys - Let's give Merthyr the Grand Slam!" - neu rywbeth felly. Beth bynnag oedd yr union eiriau - chi'n deall y neges

Merthyr oedd yr olaf o dri isetholiad nodweddiadol yn y cymoedd yn chwedegau a saithdegau'r ganrif ddiwethaf lle ddaeth Plaid Cymru o fewn trwch blewyn i drechu Llafur. Fe esgorodd y rheiny ar ganfyddiad yn rhengoedd Plaid Cymru mai'r ffordd i'r blaid sicrhau mwyafrif a thrwy hynny annibyniaeth oedd trwy drechu Llafur yn y cymoedd ac mae'r ffordd orau i wneud hynny oedd trwy ymosod arni o'r chwith.

Mae ambell i lwyddiant mewn etholiadau lleol ers hynny ac ennill Islwyn a'r Rhondda yn 1999 wedi bod yn ddigon i ddarbwyllo nifer o fewn y blaid bod y strategaeth yn un realistig a rhesymol o hyd. Mae'r gred honno yn rhan o apêl Leanne Wood fel arweinydd posib i nifer o bleidwyr.

Mae'n ddigon posib hanner canrif yn ôl bod y fformiwla 'Y Fro Gymraeg + y cymoedd = annibyniaeth' yn cynrychioli'r unig lwybr at lwyddiant i Blaid Cymru. Yn sicr doedd fawr ddim tystiolaeth ar y pryd y gallai'r blaid apelio yn yr hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd fel "British Wales".

Ond ydy hynny o hyd yn wir? Ydy hi'n bosib bod breuddwydio breuddwydion mawr ynghylch y cymoedd wedi dallu Plaid Cymru i strategaethau posib eraill?

Wedi'r cyfan ers degawdau bellach bu gan y blaid bresenoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg ac yn etholiad cynulliad y llynedd fe enillodd bron cymaint o bleidleisiau yng Ngorllewin Caerdydd.

Hyd y gwelaf i does un o'r tri ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi bod yn sôn rhyw lawer am sut mae apelio at y Gymru ddinesig. Oni ddylen nhw wneud neu ydy S.O yn dal i daflu ei gysgod dros y blaid?


i

Mae'r gwanwyn wedi dod

Vaughan Roderick | 11:18, Dydd Gwener, 17 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Mae tymor y cynadleddau Cymreig wedi cyrraedd - o'r diwedd!

Roedd e i fod i gychwyn wythnosau yn ôl gyda chynhadledd Ceidwadwyr Cymru, wrth gwrs. Efallai na ddylwn i darfu ar alar preifat trwy drafod honno!

Y cyfan ddywedaf i yw hyn. Mae sawl Aelod Cynulliad o hyd yn gynddeiriog am yr hyn ddigwyddodd a llai na blwyddyn ar ôl ei ethol mae arweinyddiaeth Andrew Davies yn edrych braidd yn simsan.

"A fydd 'na bleidlais o ddiffyg hyder?" oedd y cwestiwn cellweirus y gwnes i ofyn un AC. "O dan y rheolau dyw hynny ddim yn bosib tan yr haf" oedd yr ateb. Dydw i ddim yn disgwyl i'r fath bleidlais ddigwydd ond mae'n adrodd cyfrolau bod rhyw un a manylion cyfansoddiad y blaid ar flaen ei fysedd!

Heb os fe fydd 'na lawer o dynnu coes am y Gynhadledd na fu yn sesiynau'r Blaid Lafur yn stadiwm SWALEC dros y Sul. Fe ddylai hon fod yn llawer mwy hwyliog na chynadleddau diweddar y blaid. Mae hi ar y blaen yn y polau - gan amlaf ac yn sgil crasfa 2008 fe fyddai'n rhyfeddod pe 'na bai'n cipio llwyth o seddi ac o leiaf llond dwrn o gynghorau ym Mis Mai.

Eto i gyd rwy'n synhwyro bod 'na rhyw faint o nerfusrwydd ymhlith mawrion y blaid ac nad ffug bryder er mwyn rheoli disgwyliadau sy'n cael ei arddangos.

Mae 'na ddau reswm am y pryder hwnnw, dybiwn i.

Yn gyntaf mae 'na deimlad y dylai'r blaid fod yn bellach ar y blaen yn yr amgylchiadau gwleidyddol ac economaidd presennol. Yn gysylltiedig â hwnnw mae amheuon rhai ynghylch arweinyddiaeth Ed Milliband.

Mae'r ail reswm yn dipyn o hen bregeth ar y blog hwn sef y cysylltiad rhwng cynghorwyr a threfniadaeth leol pleidiau gwleidyddol. Y gwir amdani'r dyddiau hyn yw bod hi'n anodd iawn i unrhyw blaid gynnal trefniadaeth leol ar unrhyw lefel is nac etholaeth heb gnewyllyn o gynghorwyr a'u rhwydweithiau teuluol a chymdeithasol. Mewn sawl ardal a ward felly fe fydd yn rhaid i Lafur ddibynnu ar ogwydd cenedlaethol i fynd a'r maen i'r mur.

Ar hyn o bryd dyw hi ddim yn sicr y bydd Llafur yn elwa o hyd yn oed seithfed don - heb sôn am y fath o swnami fu yn ei herbyn pedair blynedd yn ôl.

Awe Awema

Vaughan Roderick | 11:16, Dydd Gwener, 10 Chwefror 2012

Sylwadau (2)

Go brin fod llawer iawn o ddarllenwyr y blog hwn yn gyfarwydd iawn ac AWEMA cyn trafferthion diweddar yr elusen. Nid fan hyn yw'r lle i groniclo'r rheiny ond mae un agwedd i'r stori yn esbonio efallai pam y bu gwleidyddion a newyddiadurwyr yn gyndyn i feirniadu'r elusen yn ormodol ar hyd y blynyddoedd.

Rhai misoedd yn ôl, yn sgil ymddiswyddiadau nifer o ymddiriedolwyr AWEMA gwahoddwyd Dr Rita Austin i ail-gymryd yr awenau fel Cadeirydd yr elusen. Roedd Dr Austin, sy'n gyn-gynghorydd Llafur, wedi cadeirio AWEMA o'r blaen ac mae ganddi oes o brofiad yn y maes.

Ei phenderfyniad hi a gwaddol yr ymddiriedolwyr oedd peidio gwireddu prif argymhelliad adroddiad annibynnol sef y dylid atal Naz Malik, Prif Weithredwr AWEMA a'i ferch Tegwen o'i swyddi. Wrth i'r feirniadaeth o'r penderfyniad hwnnw gynyddu ac wrth i fwy a mwy o wybodaeth am helbulon AWEMA ddod i'r wyneb defnyddiodd Dr Austin wefan AWEMA i ymateb i'r ffrwgwd.

Dyma i chi flas o'i hymateb yn y Saesneg gwreiddiol.

"It has become increasingly clear in recent days that AWEMA has become the stick with which to beat the Welsh Government. The glee with which the Press and TV convey the partisan attacks of opposition politicians is catching AWEMA in its backwash, creating the unedifying spectacle of a concerted attempt by powerful institutions to characterise AWEMA as a corrupt organisation: a time honoured way of debasing and devaluing the contributions of black and minority ethnic people, often on the basis of scant evidence, which is well known to many of us".

"...powerful institutions - such as party political machines, national broadcasters and commercial newspapers - seek to denigrate, devalue and debase the contributions of minority ethnic communities in their places of settled and long lived residence, is... but one where there are many historic and present day examples."

"As the Chair of a charity, I am accountable and answerable to my trustees, and through them to the people we seek to serve. Not to opposition politicians who seek for their own partisan purposes to take a pop at us by way of embarrassing the Government."

"Another day and another attack by opposition politicians on what happened in 2007"


Mae 'na enghreifftiau eraill ond yn y bôn gellir crisialu'r ddadl yn syml. Mae Dr Austin yn cyhuddo'r gwrthbleidiau a'r cyfryngau o bigo ar AWEMA am resymau gwleidyddol a hiliol.

Gellid dadlau i'r gwrthwyneb. Mae'n bosib nad yw AWEMA wedi cael y sylw dyledus ar hyd y blynyddoedd oherwydd bod gwleidyddion a newyddiadurwyr yn ofni'r union fath o gyhuddiadau y mae Dr Austin wedi eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r dyddiau diwethaf.

Cewch chi farnu p'un sydd gywir.

Saunders, Dafydd, Leanne ac Elin

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012

Sylwadau (10)

Rwy'n teimlo fy mod yn boddi mewn mor o gyn a darpar arweinwyr Plaid Cymru'r wythnos hon! Fe fydd hi'n anodd fy osgoi i - na'r arweinwyr ar y cyfryngau Cymreig nos yfory gyda darlledu dwy raglen yn ymwneud a'r blaid. Maddeuwch i mi am ddefnyddio'r post hwn fel math ar hysbyseb.

Y rhaglen gynaf sydd i'w darlledu ar Radio Cymru am chwech y nos yw un sy'n edrych yn ôl ar ddarlith a draddodwyd bron union hanner canrif yn ôl. 'Tynged yr Iaith' oedd y ddarlith honno wrth gwrs ac mae'r rhaglen yn rhoi cychwyn ar wledd o raglenni i nodi'r hanner canmlwyddiant. Edrych ar y ddarlith a'i chyd-destun mae'r rhaglen yng nghwmni tri wnaeth ei chlywed ar y pryd sef Harri Pritchard Jones, Gareth Miles a John Davies ynghyd a'r hanesydd Hywel Williams.

Mae John yntau'n hanesydd wrth gwrs a Gareth a Harri'n llenorion ond yn fwy pwysig efallai roedd y tri yn rhan o'r bwrlwm wnaeth arwain at y ddarlith ac a ddeilliodd ohoni. John oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith a Gareth oedd y cyntaf o'i rhengoedd i fynnu gwŷs yn Gymraeg gan roi cychwyn ar hanes hir o dor-cyfraith. Mae gan Harri stôr o hanesion ac atgofion o'r cyfnod.

Gwahoddwyd Hywel, nad oedd wedi ei eni yn 1962, ar y rhaglen i roi darlun ychydig yn fwy gwrthrychol o'r ddarlith ond yn wir ef oedd y mwyaf brwd wrth ddadlau o blaid ei phwysigrwydd. Yn ôl Hywel roedd y ddarlith yn foment deallusol o'r pwys mwyaf yn hanes Cymru. Gan fod Hywel wrthi'n sgwennu hanes un gyfrol o'r ynysoedd hyn ar hyn o bryd fe ddylai wybod!

Yr ail raglen sy gen i yw CF99 ar S4C am 9.30. Hon fydd y ddadl gyhoeddus gyntaf rhwng y tri ymgeisydd sy'n weddill ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru. Fe fydd y tri yn cwrdd eto ar ITV ar nos Iau. Fe fydd CF99 yn rhaglen fyw ac fe fydd modd i chi ymateb trwy drydar. Yn y cyfamser os oes gennych awgrymiadau ynghylch pynciau neu gwestiynau i'w codi mae croeso i chi eu hawgrymu trwy adael sylw yn fan hyn.

Sgandalus

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Gwener, 3 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn gwybod pam ond am blaid fach mae'r Democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr wedi bod yng nghanol nifer sylweddol o sgandalau ar hyd y blynyddoedd. Efallai bod diffyg grym a phŵer tan yn ddiweddar wedi gadael gormod o amser ar eu dwylo ar hyd y blynyddoedd!

Amser a ddengys a fydd hanes Chris Huhne yn cael ei ychwanegu at bantheon y sgandalau ond go brin bod y stori hanner mor ddiddorol â helyntion Lloyd George neu Jeremy Thorpe.

Am resymau cyfreithiol amlwg nid nawr yw'r adeg i drafod trafferthion Chris Huhne ond gellir nodi un peth. Mae profiadau'r gorffennol yn awgrymu nad oes yn rhaid i lys gael gwleidydd yn euog o unrhyw drosedd er mwyn rhoi terfyn neu o leiaf taflu cwmwl dros ei yrfa.

Yn achos Lloyd George a'r arfer o werthu anrhydeddau hanner can punt o ddirwy oedd y gosb dderbyniodd Maundy Gregory - yr unig berson i gael ei erlyn o ganlyniad i'r sgandal. Roedd y gost i enw da 'Dewin Dwyfor' llawer yn fwy na dirwy Gregory.

Hawdd anghofio hefyd mai 'dieuog' oedd y rheithfarn ar ddiwedd achos Jeremy Thorpe, David Holmes a'r ddau gymeriad 'lliwgar' yna o Borthcawl John Le Mesurier (nid yr actor!) a George Deakin. Dwn i ddim ai'r cyhuddiadau o berthynas hoyw yntau'r bod ci wedi ei saethu oedd y sioc fwyaf i'r cyhoedd ar y pryd. Y naill ffodd neu'r llall doedd dim modd i Jeremy Thorpe adfer ei enw da.

Beth bynnag ddaw yn y llys felly dyw pethau ddim yn argoeli'n dda i yrfa Chris Huhne ac mae 'na un gwahaniaeth rhwng achosion Lloyd George a Jeremy Thorpe a'r un presennol. Dyw Chris Huhne ddim yn arweinydd ei blaid. O drwch blewyn etholiadol mae'r Democrataid Rhyddfrydol wedi cael dihangfa!


Ym marn Richard Wyn

Vaughan Roderick | 14:15, Dydd Iau, 2 Chwefror 2012

Sylwadau (4)

Mae'n ymddangos bod y wasg Brydeinig, neu ran ohoni o leiaf, wedi deffro i wleidyddiaeth Cymru yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'n debyg eich bod wedi darllen erthygl y Guardian erbyn hyn. Mae'n ymddangos mai 'dim ar hyn o bryd' yw'r ateb cywir i gwestiwn y papur o astudio canlyniadau diweddaraf YouGov/ITV

Am wn i mae canlyniadau'r arolwg yn awgrymu nad yw trwch etholwyr Cymru wedi meddwl rhyw lawer am effaith annibyniaeth i'r Alban ar Gymru hyd yma. Sut arall mae esbonio'r ffaith bod y gefnogaeth i'r gwahanol opsiynau cyfansoddiadol yn debyg iawn i'r atebion a gafwyd ar hyd y blynyddoedd cyn i annibyniaeth i'r Alban ddechrau hawlio'r penawdau?

Mae'r ffigwr yna o ddeg y cant yn cefnogi annibyniaeth yng Nghymru yn un arbennig o ddiddorol gan ei fod wedi aros fwy neu lai yn ei unfan ers blynyddoedd. Rhan o'r rheswm am hynny, mae'n debyg, yw bod bron neb yng Nghymru wedi bod yn dadlau achos annibyniaeth mewn modd difrifol tan yn ddiweddar iawn.

Mae Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn cynnig esboniad pam yn y rhifyn newydd o Barn.

Mae hyn yn rhannol adlewyrchu'r ffaith mai nonsens deallusol a fu polisi cyfansoddiadol Plaid Cymru cyn iddi goleddu annibyniaeth fel nod yn 2003. Ceir crachen yma y gellir yn hawdd ei phigo. Nid dyma'r stori i gyd, fodd bynnag. Oblegid er i'r polisi newydd gael ei fabwysiadu trwy bleidlais unfrydol, mae'n hysbys i bawb sy'n adnabod Plaid Cymru fod rhai o'r enwau mwyaf blaenllaw yn ei rhengoedd wedi bod yn amharod iawn i dderbyn y disgrifiad yma o'i hamcan. Yn anad dim arall, hyn sydd wedi golygu fod annibyniaeth yn parhau'n faen tramgwydd. Wrth gwrs, ni ddywedir hyn yn Camu 'mlaen gan y byddai'n sicr o greu embaras.

Fe fydd yn rhaid i chi brynu Barn i ddarllen gweddill dadl Richard ond mae'n gwneud pwynt dilys iawn wrth awgrymu bod y ras bresennol am arweinyddiaeth y blaid yn ei gorfodi i fwrw ei swildod ynghylch annibyniaeth.

Un pwynt sydd gen i ychwanegu. Os ydy'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth y blaid yn gorfod arddel annibyniaeth er mwyn bod â chyfle o ennill yr etholiad mewnol - fe fydd angen llawer iawn mwy nac 'arddel' i'r blaid droi annibyniaeth yn fantais mewn etholiadau go-iawn.

Fe fydd yn rhaid iddi, i ddechrau, geisio argyhoeddi mwy na deg y cant o'r etholwyr y byddai annibyniaeth er lles pobol Cymru. Nid hawdd fydd gwneud ond onid hynny yw priod dasg plaid genedlaethol?


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.