Maen nhw'n bobol ddigon neis...
Mae'n debyg eich bod wedi sylwi bod cyfran helaeth o Uned Gwleidyddol ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru wedi mudo i'r Alban yr wythnos hon - ac nid er mwyn dathlu 'Burns Night' twy dagu ar hagis a chwisgi drudfawr!
Heb os roedd ddoe yn ddiwrnod pwysig nid yn unig yn hanes yr Alban ond hefyd yn hanes y deyrnas gyfan. Ar ôl dweud fy newid ar lwyth o raglenni ddoe dydw i ddim am fynd dros yr un tir yn fan hyn ond mae un peth wedi fy nharo a allai brofi'n ddiddorol wrth i'r dadleuon cyfansoddiadol ddatblygu.
Rwyf wedi ysgrifennu droeon, hyd syrffed efallai, ynghylch y ffordd y mae rhaniadau a dadleuon mewnol y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn allweddol yn y broses ddatganoli. Roedd Mesur Cymru a'r Alban a Deddf Cymru yn ôl yn y saithdegau a Deddfau Llywodraeth Cymru yn 1998 a 2006 i gyd yn ymdrechion i bontio rhwng safbwyntiau datganolwyr ac unoliaethwyr y blaid. Y tensiynau hynny sydd wedi gyrru'r broses ymlaen ac sydd wedi arwain at rai o broblemau a gwendidau y setliad presennol.
Mae'r tensiynau'n debyg o bara yn y blynyddoedd i ddod er y byddai rhywun yn disgwyl i ddylynwad y rheiny o anian unoliaethol ddirywio o ganlyniad i'r profiad o fod mewn grym yng Nghaerdydd tra'n ddi-rym yn San Steffan.
Mae'n ddigon posib y bydd y tensiynau o fewn blaid arall ac mewn gwlad arall yn fwy pwysig yn y broses o hyn ymlaen. Y Blaid Geidwadwol yw'r blaid a Lloegr yw'r wlad.
Er bod enw llawn y blaid yn cynnwys y gair 'Unoliaethol' mae sylwadau rhai o'u haelodau ar adegau'n swnio'n debygach i genedlaetholdeb Seisnig. Nid chwalu'r undeb yw bwriad yr aelodau hynny sy'n clochdar yn gyson am lefelau gwariant cyhoeddus yr Alban ac yn codi cwestiwn Gorllewin Lothian ar bob achlysur posib. Nid dyna yw ei bwriad ond efallai mai dyna fydd y canlyniad.
Nid gwleidyddion yn unig sy'n mewn peryg o gerdded i'r trap. Cymerwch erthygl o'r o dan y pennawd "If Mr Cameron fails to stand up to the devious, slippery Alex Salmond, the end of the Union will be his wretched legacy". Ynddi mae'r sylwebydd Stephen Glover yn dadlau'n gryf dros barhad yr Undeb ond yn gwneud hynny mewn modd sy'n debyg o wylltio sawl Albanwr a bwydo dicter sawl Sais. Cymerwch y paragraff yma fel esiampl.
For all his fluency and apparent reasonableness, Mr Salmond is a narrow-minded politician who offers his country an uncertain future on the edge of Europe while he and his Scot Nat colleagues would happily enjoy all the fruits of power. How much more inspiring than his medieval bruiser-heroes are the great Scots and Englishmen who together forged Britain into a country which changed the world and improved it in so many fields of human endeavour.
Beth oedd y llyfr yna, dywedwch - 'How to win friends and influence people'?
Un o gwynion cyson y Celtiaid ar hyd y canrifoedd yw methiant honnedig Y Saeson i wahaniaethau rhwng Lloegr a Phrydain a rhwng seisnigrwydd a phrydeindod. yn ol arolwg diweddar yr IPPR a Phrifysgol Caerdydd mae hynny'n newid. Serch hynny ymddengys nad yw pob Sais yn gallu gwahaniaethu rhwng 'amddiffyn yr Undeb' a thynnu blew o drwyn!
Does dim dwywaith bod David Cameron yn unoliaethwr wrth reddf - un a fyddai'n casáu cael ei gofio fel Prif Weinidog olaf y Deyrnas Unedig. Mae'n eironig y gallai rhai o aelodau ei blaid a newyddiadurwyr unoliaethol gyfrannu at sicrhau'r gofeb honno iddo.
Oes angen ychwanegu beth allai ton o genedlaetholdeb Seisnig yn rhengoedd Ceidwadwyr Lloegr olygu i Dorïaid Cymru?
SylwadauAnfon sylw
Sawl tro pan o ni yn yr UDA roedd prif weinidog y DU ar y teledu. Sawl gwaith fe wnaeth y cyflwynydd son am "Prime Minister of England", dim "no, no I'm PM for the UK".
O ganlyniad UK = England ag GB = UK (pam cael Team GB, pan mae G.Iwerddon yn cystadlu 'fyd!?)
Dwi'n cytuno'n llwyr gyda Dewi. Dwi wedi byw yn Lloegr, lle mae'r mwyafrif o bobl dwi wedi cwrdd â nhw'n sôn am yr Undeb fel rhywbeth Seisnig sy'n perthyn i'r Sais ac sy'n bodoli er eu lles yn unig. Yn eu holau nhw, Lloegr sy'n talu am y cyrff datganoledig, am y GIG yng Nghymru ac yn yr Alban, am ein hysgolion, am bopeth heb elwa o gwbl o'u "buddsoddiad" oherwydd effaith "negyddol" datganoli. Os mai eiddo nhwthau ydyn ni, perchenogion esgeulus dros ben ydyn nhw, o ystyried y ffaith eu bod nhw wedi treuilio'r canrifoedd yn anwybyddu ein hanghenion ac yn ein trin fel ffynhonnell ynni, dŵr (ble mae Tryweryn nawr?), a hyd yn oed targed eu gwawd weithiau. Wel, yn ôl y gerdd, Cymro oedd "Taffy"' ond nid "Taffy" oedd y lleidr mewn gwirionedd. Achos mwyaf tlodi a diweithdra yng Nghymru yw triniaeth warthus ein gwlad gan Loegr dros y blynyddoedd. Fel rhybyddiodd Islwyn Ffowc Elis, rhaid i rywrai ar ddwy ochr y ffin gofio mai Cymru yw enw ein gwlad, ac nid Lloegr Orllewinol. A fydd cefnogwyr yr Undeb yn deall y neges, tybed?