³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Yr Angel Moroni, J.R Jones ac Argyfwng yr Euro

Vaughan Roderick | 09:27, Dydd Mercher, 26 Hydref 2011

Bob bore Sul rwy'n canfod fy hun yng nghanol brechdan o grefydd. Oedfa sy'n dod cyn fy rhaglen wleidyddol ar Radio Wales a rhaglen drafod y Parchedig Roy Jenkins sy'n ei dilyn. Does gen i ddim byd i ddweud ynghylch yr oedfa ond mae rhaglen Roy yn un gythreulig o ddifyr - os cythreulig yw'r gair cymwys yn y cyd-destun hwn!

Dydw i ddim am bechu fy nghyfaill Dewi Llwyd trwy awgrymu eich bod yn gwrando ar "All Things Considered" yn fyw ond mae hi ar gael ar iPlayer.

Ddydd Sul diwethaf roedd Roy yn trafod pwysigrwydd Cymru a'r Cymry yn hanes cynnar yr Eglwys Formonaidd. Mae'n stori afaelgar a gellir darllen llawer ohoni ar y wefan "?"

Mae'n ddigon hawdd gwneud sbort ynghylch daliadau crefyddau newydd. Yn wir mae un o sioeau mawr Broadway "The Book of Mormon" yn ennill gwobrau trwy wneud hynny. Cliciwch y fideo uchod am flas ohoni - mae'n werth gwneud.

Newydd-deb am wn i sy'n gyfrifol am y ffaith bod y ffydd Formonaidd, neu Seientoleg o ran hynny, yn ymddangos mor wirion i'r rheiny nad ydynt yn credu.

Wedi'r cyfan dyw credu bod Gardd Eden yn Missouri neu yn y "broffwydoliaeth olaf" ynghylch pwysigrwydd cenadwri i'r Cymry ddim yn fwy gwirion nac ambell i agwedd o Gristionogaeth neu Islam. Mae treigl amser a hanes yn gallu gwneud i bethau hurt ymddangos yn ddigon parchus.

I raddau helaeth mae gwareiddiad yn dibynnu ar ein parodrwydd i gredu mewn pethau gwirion ac nid dim ond yn y byd crefyddol. Cymerwch ein harian fel enghraifft. Ers diweddu'r safon aur yn 1931 does dim gwerth gwrthrychol yn perthyn i'r bunt, yr euro, y ddoler nac unrhyw arian arall. Mae eu gwerth yn gwbwl oddrychol ac yn dibynnu ar ffydd eu defnyddwyr ynddynt.

Mae'n werth cofio hynny wrth edrych ar argyfwng yr euro. Does dim dwywaith bod gan lywodraethau'r Almaen a Ffrainc yr adnoddau i ddatrys yr argyfwng. Cwestiwn o ewyllys yw hwn. Fe wnâ i fachu teitl llyfr enwog J.R Jones a disgrifio'r sefyllfa fel "argyfwng gwacter ystyr".

Yng nghefn, neu efallai ym mlaen, meddyliau etholwyr y ddwy wlad mae 'na gwestiwn syml - beth yw'r pwynt? Ai 'dal i gredu' sydd orau neu ydy hi'n bryd wfftio'r cyfan?

Fe gawn weld.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:52 ar 26 Hydref 2011, ysgrifennodd D. Edwards:

    Dwn i'm os yw'n gwareiddiad yn dibynnu o gwbl ar ein parodrwydd i gredu mewn pethau gwirion. Mae'n gwareiddiad yn dibynnu ar ein parodrwydd i roi'r GORAU i gredu mewn pethau gwirion. Mae yna fwy nac ambell i agwedd i'r crefyddau sefydledig sydd yn wirion: mae eu holl sail yn afresymol. Dyw'r ffaith bod rhywbeth yn gadarn ac wedi bod o gwmpas am flynyddoedd ddim yn brawf ei fod yn wir, nac yn sail i'w barchu. Ac nid crefydd newydd yw Mormoniaeth, ond sect o Gristnogaeth, digon tebyg y Gatholigaeth, Methodistiaeth, ac yn y blaen.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.