³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dydd y Farn

Vaughan Roderick | 10:28, Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011

Mae dydd y farn ar fin cyrraedd i'r ddau Ddemocrat Rhyddfrydol sydd wedi eu gwahardd o'r Cynulliad. Mae 'na ddeufis ers i'r ddau golli eu cardiau adnabod a'u cyflogau. Aelod UKIP John Bufton sy'n bennaf gyfrifol am yr oedi. Pe na bai John wedi gwneud cwyn i'r heddlu fe fyddai'r sefyllfa wedi ei hen ddatrys. Nid beirniadaeth o John yw hynny - jyst ffaith.

Bellach mae adroddiad Gerard Elias ynghylch ffeithiau'r achos wedi ei ddosbarthu i Aelodau'r Cynulliad ac fe fydd yn ymddangos ar wefan y Cynulliad rhywbryd heddiw.

Ymateb un Ceidwadwr amlwg i'r adroddiad oedd mai "Ie i Aled ac na i John yw'r unig beth rhesymol i wneud"

Y rheswm am hynny yw'r cymalau yma yn yr adroddiad sydd yn cadarnhau'r honiad a wnaed gyntaf yn y blog hwn mai methiant i ddiweddaru gwefan Gymraeg oedd wrth wraidd methiant Aled i ymddiswyddo o'r Tribiwnlys Prisiau.

 Ar 24 Mawrth 2011, wrth baratoi i gyflwyno ffurflenni enwebu ymgeiswyr y rhestr, siaradodd â Gareth Evans, Swyddog Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Ddinbych. Nid oedd y ddau wedi cwrdd na siarad â'i gilydd cyn hynny. Dechreuwyd y sgwrs yn Gymraeg gan Gareth Evans, a chytunodd yntau i anfon, drwy gyfrwng e-bost y diwrnod hwnnw, y linc ddiweddaraf at y canllawiau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol ar gyfer ymgeiswyr. Cadarnhawyd y ffeithiau hyn gan Gareth Evans.

 Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, defnyddiodd Aled Roberts y linc Gymraeg - sef yr un a ymddangosodd gyntaf o'r ddwy linc a anfonwyd yn yr e-bost - a dilyn trywydd y wybodaeth oni welodd fod sail yr anghymwyso yn parhau i fod o dan y linc at Orchymyn 2006. Cadarnhaodd Gareth Evans iddo anfon y lincs gan roi'r linc Gymraeg yn gyntaf oherwydd, yn sgîl y sgwrs rhwng y ddau ohonynt, yr oedd o'r farn y byddai Aled Roberts yn defnyddio'r fersiwn Gymraeg. Mae'n glir y byddai'r fersiwn hon wedi bod yn arwain yn anghywir at Orchymyn 2006 bryd hynny o hyd. Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn gallu cadarnhau na gwadu bod rhywun wedi ymweld â thudalennau Cymraeg ei wefan y diwrnod hwnnw.

ï‚· Felly, wedi bodloni'i hun nad oedd wedi'i anghymhwyso adeg ei enwebu, llofnododd ei ffurflen cydsyniad enwebu a'i chyflwyno ar 31 Mawrth 2011 (Atodiad 2).

ï‚· Ym mhob cam o'r broses o'i ddethol a'i enwebu, dilynodd Aled Roberts y canllawiau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol, canllawiau a adlewyrchwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

ï‚· Yn syth cyn llofnodi ei ffurflen enwebu, bodlonodd ei hun, drwy gyfeirio at y canllawiau a ddarparwyd yn Gymraeg ac a oedd yn ei gyfeirio at y linc anghywir bryd hynny at Orchymyn 2006, nad oedd wedi'i anghymhwyso.

 Ni chafodd y canllawiau Cymraeg eu cywiro tan ar ôl yr etholiad.

ï‚· Er bod y canllawiau Saesneg wedi'u newid i gynnwys linc at Orchymyn 2010 ar 11 Mawrth 2011, yr wyf yn derbyn bod Aled Roberts wedi troi at y fersiwn Gymraeg.

ï‚· Yn ychwanegol at hynny, yr oedd hawl ganddo i dybio y byddai'r fersiwn Gymraeg yn adlewyrchu'r fersiwn Saesneg ar bob adeg ac ym mhob agwedd.

ï‚· Er bod Gorchymyn 2010 yn bodoli ac y gellid bod wedi dod o hyd iddo drwy chwilio drwy'r gwefannau cyfreithiol perthnasol, yr wyf yn ystyried y byddai wedi bod yn afresymol disgwyl i unrhyw ymgeisydd wneud hynny pan oedd canllawiau'r Comisiwn Etholiadol ar gael.

ï‚· Felly, yn yr amgylchiadau dan sylw, yr wyf o'r farn fod Aled Roberts wedi gwneud popeth y gellid bod wedi disgwyl iddo yn rhesymol ei wneud wrth sicrhau nad oedd wedi'i anghymhwyso rhag cael ei enwebu neu ei ethol yn Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol.

A fydd hyn yn ddigon i achub Aled? Dwn i ddim ond mae'n werth nodi un peth bach. Fe lenwodd Aled - neu ei asiant - ei ffurflen gydsyniad yn Saesneg.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:03 ar 6 Gorffennaf 2011, ysgrifennodd Dilys:

    Newydd edrych ar y ddadl ar 'Democratiaeth Fyw' a chael fy atgoffa o ddifrif plaid mor wrth-Gymraeg yw'r Blaid Lafur. Byddai George Thomas ei hunan wedi ymfalchio yng nghyfraniadau rhai o aelodau Llafur pnawn yma.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.