³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Afu a Winwns

Vaughan Roderick | 14:06, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Beth ddylwn ni alw'r refferendwm yma ynghylch y bleidlais amgen dywedwch? Y refferendwm PA? Y refferendwm BA? Y refferendwm Afu? Af i am Afu, dwi'n meddwl!

Mae'n debyg eich bod chi'n weddol gyfarwydd â'r dadleuon o blaid ac yn erbyn y newid erbyn hyn ond mae 'na un ffactor benodol Gymreig sydd heb gael rhyw lawer o sylw. Effaith y newid ar y Ceidwadwyr Cymreig yw hynny.

Yn ôl ymchwil gan y Gymdeithas Newid Etholiadol pe bai etholiad 2010 wedi defnyddio'r bleidlais amgen fe fyddai'r canlyniad yn ddigon tebyg i'r un a gafwyd o safbwynt Llafur a Phlaid Cymru. Fe fyddai Llafur wedi ennill 25 sedd - un yn llai na o dan y drefn bresennol a Phlaid Cymru wedi ennill yr un tair sedd. Fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall wedi dyblu eu cynrychiolaeth i chwech. Chwe sedd hefyd fyddai gan y Ceidwadwyr - dwy yn llai nac enillwyd yn yr etholiad go iawn.

Dyw hynny ddim yn newid chwyldroadol ond arhoswch eiliad. Nid deugain sedd fydd gan Gymru yn yr etholiad nesaf ond deg ar hugain. Fe fydd llawer yn dibynnu ar yr union ffiniau wrth reswm ond mae'r newid bron yn sicr o leihau nifer y seddi Ceidwadol ymhellach. Mae'n anodd iawn dychmygu unrhyw ffiniau fyddai'n galluogi i'r Ceidwadwyr ennill dwy sedd yng Ngorllewin Cymru, er enghraifft.

Nawr efallai eich bod chi'n un o'r rheiny sy'n awchu am fap o Gymru heb y mymryn lleiaf o las arni. Efallai eich bod chi, ar y llaw arall, yn credu nad yw sefyllfa lle nad oes gan dalp o etholwyr asgell dde yng Nghymru gynrychiolaeth seneddol yn beth iach. Dyna oedd y sefyllfa rhwng 1997 a 2005 wrth gwrs.

Beth bynnag yw'ch barn fe fyddai'r sefyllfa honno yn fwy tebygol pe bai 'na gyfuniad o'r bleidlais amgen a lleihad yn nifer y seddi. Oes rhywun yn gwybod y cyfieithiad cywir o "law of unintended consequences"?

Ta beth mae'n esbonio pam y mae Ceidwadwyr Cymru mor ffyrnig yn erbyn y newid.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.