Cyfri Croesau
Mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ a, than yn ddiweddar, ITV, wastad wedi gwario'n hael ar raglenni canlyniadau gan wybod eu bod yn denu cynulleidfa sy'n frwdfrydig os nad yw hi bob tro yn fawr. Mae cymryd rhan ynddyn nhw'n sbort hefyd i bobol fel fi sy'n dwlu clebran ynghylch gwleidyddiaeth am oriau, Mae 'na foddhad hefyd mewn bod ymhlith y cyntaf i glywed sibrydion o'r canolfannau cyfri.
Yn yr oes gyfrifiadurol hon mae cyfrinachedd y cownt yn prysur ddiflannu ac mae'n debyg y bydd rhan helaeth o'r canlyniadau Ddydd Gwener yn ymddangos cyn gynted neu'n gynt ar Twitter nac ar ein rhaglen ni. Ta beth am hynny rwy'n gobeithio y gwnewch chi wylio.
Fe fydd y siabang yn cychwyn am 10.30 y bore.
SylwadauAnfon sylw
Vaughan, oes 'na arolwg barn Dydd Gŵyl Dewi gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ eleni, neu rywbeth arall cyn y refferendwm?
Mae ICM yn cynnal arolwg i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ynghylch nifer o bynciau ar hyn o bryd. Oherwydd y refferendwm cyhoeddir y canlyniadau Ddydd Gwener.
Mi oedd gan Y Byd ar Bedwar bol piniwn da iawn nos Lun. Mi faswn yn taeru na chlywais air amdano ar y ³ÉÈË¿ìÊÖ. A oedd amheuaeth fod sail ansicir iddo?
A fydd modd i wylwyr tramor wylio'r cyfri? Naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg?
Gareth, fe fydd y rhaglen Gymraeg ar gael yn fyw ar Clic ar safle S4C.
Henri, Doedd dim byd o gwbwl yn bos ar arolwg Y Byd ar Bedwar er bod y canlyniadau wedi eu cyflwyno mewn modd ychydig yn wahanol i'r arfer - gan bwyslwisio canranau ymysg y rhai oedd yn bwriadu pleidleisio yn hytrach na'r sampl gyfan. Dydw i ddim yn sicr faint yn union o sylw gafodd yr arolwg ar y ³ÉÈË¿ìÊÖ - fe gafodd peth.
Unrhyw sylw, Vaughan, pryd bydd y canlyniad cynta'n cael ei gyhoeddi?
Sex sells! Newydd weld llun o'r ddau bafiliwn ar flog Betsan. Edrych mymryn yn fwy Madonna-aidd na Jane Russell efallai?
Edrych ymlaen at y cyfri ar y teledu, ac yn fwy byth at ganlyniad positif go iawn.