³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llafur Caled

Vaughan Roderick | 15:49, Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2011

Doeddwn i ddim yn y Gynhadledd Lafur dros y Sul ond yn ol pawb fuodd yno roedd y cynrychiolwyr mewn hwyliau da. Dyw hynny ddim yn syndod. Wedi'r cyfan am y tro cyntaf ers blynyddoedd mae Llafur Cymru yn wynebu etholiad heb orfod gofyn y cwestiwn 'pa mor wael fydd pethau'r tro hwn?'

Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o bobol Llafur yn derbyn esboniad Rhodri Morgan am ganlyniadau hanesyddol wael y blaid yn etholiad 2007, yr etholiadau lleol ac etholiad Ewrop sef mai'r etholiadau hynny oedd y rhai cyntaf i'r blaid ei hymladd gyda Llywodraeth Lafur yn ei thrydydd tymor yn San Steffan. Roedd yr efengyl yn ôl Rhodri yn proffwydo y byddai'r gefnogaeth i Lafur yn dychwelyd i'w chryfder arferol ar ôl i gefnogwyr llugoer oddef dos o foddion chwerw gan Lywodraeth Geidwadol.

Mae ambell i academydd ar y llaw arall wedi awgrymu bod y pum mlynedd diwethaf wedi gweld newid mwy parhaol i strwythur gwleidyddol Cymru. Dyw'r academyddion hynny ddim yn dweud bod hi'n amhosib i Lafur ennill 40% neu hyd yn oed 50% mewn ambell i etholiad ond bod y dyddiau lle'r roedd y blaid yn gallu cymryd cefnogaeth felly'n ganiataol wedi darfod.

Yn bersonol rwyf rhywle rhwng y ddwy stôl ond rwyf am nodi un peth. Fe gynlluniwyd system etholiadol y Cynulliad yn y gred y byddai Llafur yn amlach na pheidio yn gallu ennill mwyafrif. Dyna'r rheswm am y nifer cyfyngedig o seddi rhestr nad ydynt yn ddigon i sicrhau Cynulliad cwbwl gynrychiadol.

Mae'r ffaith bod strategwyr Llafur yn cyfaddef y bydd hi'n anodd ennill mwyafrif eleni yn awgrymu eu bod yn derbyn bod y bleidlais graidd yn llai nac y buodd hi.

Mae 'na broblem arall gan Lafur. Yn wahanol i etholiadau San Steffan mae llwyddiant mewn etholiad Cynulliad yn dibynnu ar allu trefniadol pleidiau i gymell eu cefnogwyr i droi allan.

Fel y pleidiau eraill mae'r drefniadaeth Lafur yn dibynnu i raddau helaeth ar gynghorwyr. Yn y rhan fwyaf o lefydd mae'r pleidiau i gyd erbyn hyn yn dibynnu ar rwydweithiau teuluol a chymdeithasol cynghorwyr unigol yn hytrach nac ar ganghennau traddodiadol i ymgyrchu.

Yn y maes hwnnw mae'r fantais enfawr oedd gan Lafur dros y pleidiau eraill o safbwynt nifer ei chynghorwyr wedi derbyn cythraul o glec dros y ddegawd diwethaf. Yn 2008 fe enillodd Llafur 342 sedd cyngor. Mae hynny'n fwy, ond ddim cymaint â hynny'n fwy na Phlaid Cymru (205), y Ceidwadwyr (174) a'r Democratiaid Rhyddfrydol (162). Ar lawr gwlad felly fe fydd Llafur yn cystadlu ar delerau llawer mwy cyfartal nac yn etholiadau'r gorffennol.

Mae 'na hen ddigon o bobol Llafur sy'n deall hyn oll ac mae'r rhan fwyaf yn credu mai cael a chael fydd hi i ennill mwyafrif gweithredol.

Yn wyneb hynny ydy hi'n gall i Carwyn fod cweit mor sarhaus ynghylch y Democratiaid Rhyddfrydol ac i Peter Hain geisio achosi i Ieuan Wyn Jones dagu ar ei goco-pops?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:06 ar 23 Chwefror 2011, ysgrifennodd Henri:

    A Coco Pops! O'n i wedi meddwl gweld dadansoddiad manwl o berfformiad Leighton Andrews o flaen camerau'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn Llandudno. Fydd o'n mynd i ben catch bob tro y bydd rhywun yn gweiddi Coco Pops arno?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.