³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Grrrrr...

Vaughan Roderick | 13:52, Dydd Mercher, 10 Tachwedd 2010

Dyw dod o hyd i enw ddim yn dasg hawdd. Gofynnwch i unrhyw ddarpar riant. Fe fydd 'na drafod, dadlau a channoedd o syniadau cyn cyrraedd penderfyniad.


Hyd yn oed wedyn does 'na ddim sicrwydd bod y penderfyniad cywir wedi ei wneud. Gallai rhieni benderfynu ar enw anarferol ac addas ac yna canfod bod peldroediwr enwog neu ryw seleb arall wedi dewis yr un enw. Och, gwae ni neu och, Cai ni efallai!

Mae'r broblem debyg yn wynebu datblygwyr a chynllunwyr wrth ddewis enwau ar gyfer datblygiadau newydd. Yn sicr mae 'na ambell i erchyll beth o gwmpas. Pwy ar y ddaear oedd yn credu er enghraifft bod "The Hawthorns" yn enw addas ar stad o dai yn Nowlais? Wedi'r cyfan dyw'r dref honno ddim yn brin o ddigwyddiadau a nodweddion daearyddol i ysbrydoli enw addas ac atyniadol.

Dyw hynny ddim yn wir am y llain o dir sy'n gorwedd rhwng y "Roath Basin" a doc "Queen Alexeandra" gyferbyn a ThÅ· Hywel. Wedi cyfan roedd y tir hwn, y rhan nesaf o Fae Caerdydd i gael ei datblygu, o dan y mor a'i donnau tan 1912. Sut felly oedd sicrhau enw addas i ardal fydd yn y pendraw yn gartref nid yn unig i ganolfan ddrama'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ond i boblogaeth tua'r un faint ag un y Bala?

Mae'n bosib dilyn rhesymeg y datblygwyr. Penderfynwyd cael enw Cymraeg yn hytrach nac un dwyieithog trwsgl a chodwyd gap at enw hanesyddol ardal gyfagos heb bechu neb trwy fachu'r enw hwnnw. Y canlyniad yw "Porth Teigr".

Dydw i ddim am fentro i ffau'r llewod trwy fentro fy marn i am y dewis - ond efallai bod 'na awgrym yn y pennawd!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:00 ar 10 Tachwedd 2010, ysgrifennodd Simon Brooks:

    Dwi wrth fy modd yn trafod Cymreictod Tre-biwt - y rhan Gymreiciaf o fwrdeistref Caerdydd yn yr 1890au.

    Ond wele heno Syr Michael Lyons yn ysgrifennu at John Walter Jones, a'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn adrodd yr hanes mewn modd slafaidd braidd.

    Syr Michael Lyons - y dyn nad yw'n barod i gael ei gyfweld ar y cyfryngau Cymreig, ond sy'n disgwyl i'w ddatganiadau camarweiniol gael eu hadrodd air am air ar "donfedd yr Ymerodraeth".

    Mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn mynnu fod ei Ymddiriedolwyr yn cael penderfynu sut mae arian S4C yn cael ei wario yn y dyfodol. Ond nid dyna sbin ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru!

    Cwyn amdani felly, a dyma hi:

    "Annwyl [Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru],

    Fe garwn gwyno ynghylch y stori hon:



    Mae diffyg cydbwysedd yn y stori gan nad oes cyfle i wrthwynebwyr y cynllun i drosglwyddo grym dros S4C i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ fynegi barn. Dim ond barn gorfforaethol y ³ÉÈË¿ìÊÖ a fynegir.

    Dywed y llythyr oddi wrth Syr Michael Lyons at John Walter Jones yn gwbl glir: "The ³ÉÈË¿ìÊÖ Trust [...] will need to have oversight of how this [licence fee] money is being spent".

    Ond mae'r stori gan newyddiadurwyr y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn adrodd, "nad yw'n fwriad gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ i ymyrryd gydag annibyniaeth S4C", fel pe bai hwnnw'n ddatganiad o ffaith.

    Ni ellir cyflwyno'r datganiad olaf hwnnw fel ffaith. Barn ydyw, a dylai rhywun gael ei gyfweld er mwyn cyflwyno dadl yr ochr arall.

    Rwy'n gobeithio fod hyn yn digwydd ar raglenni eraill - ar radio a theledu.

    Fe garwn i'r cwyn gael ei drin fel un ffurfiol."

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.