³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Adrodd Stori

Vaughan Roderick | 12:27, Dydd Mawrth, 19 Hydref 2010

Mae 'na fran i bob deryn du ac am wn i, fe fydd y newyddion diweddaraf ynghylch Saint Tathan yn dod a gwen i ambell i wyneb.


Fe fydd y rheiny sy'n heddychwyr o'u hanian yn falch efallai bod 'na obaith na fydd Bethesda'r Fro, capel awdur " Dwy aden colomen pe cawn" yn cael ei draflyncu gan academi filwrol. Fe fydd 'na ambell i flimp yn y lluoedd arfog oedd yn crynu mewn nerfusrwydd ynghylch gorfod symud i le mor anwaraidd â Bro Morgannwg yn mwynhau teimlad o ryddhad.

Dim ond sinig llwyr fyddai'n amau bod Jane Hutt a David Melding herfyd yn dawel wenu gan wybod bod eu cyfleoedd o ennill ym Mro Morgannwg yn achos y Gweinidog a rhestr Canol De Cymru yn achos y Ceidwadwr wedi eu gwella o beth wmbreth gan y cyhoeddiad.

Peidied neb a meddwl na fydd cyhoeddiadau Llywodraeth y DU yr hydref hwn yn dylanwadu ar ganlyniadau etholiad flwyddyn nesaf. Ar y tir hwn y bydd y frwydr flwyddyn nesaf ac ar hyn o bryd mae maes y gad yn ymddangos yn hynod ffafriol i Lafur ac i raddau llai, Plaid Cymru.

Mae 'na ddau naratif y mae pleidiau llywodraethol y Bae yn ceisio eu cyflwyno i'r etholwyr ar hyn o bryd. Mae'r cyntaf yn un y bu Ieuan Wyn Jones yn son amdano'r bore 'ma sef bod clymblaid San Steffan yn torri'n rhy gyflym a thrwy hynny yn peryglu'r adfywiad economaidd yng Nghymru.

Dyw'r naratif hwnnw ddim yn rhy anodd i'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddadlau yn ei erbyn. Wedi'r cyfan, mae arolygon barn yn awgrymu bod cyfran sylweddol o'r etholwyr yn derbyn bod angen toriadau dyfnion. Ail naratif Llafur a Phlaid Cymru yw'r un allai fod yn wenwyn etholiadol i'r ddwy blaid arall sef bod Cymru yn cael ei thrin yn annheg - bod "San Steffan yn pigo ar Gymru".

Mae cyhoeddiadau fel y rhai ynghylch Sain Tathan, swyddfa basports Casnewydd a bared Mor Hafren yn bwydo i mewn i'r naratif hwnnw a gallai pethau fynd yn waeth i Nick Bourne a Kirsty Williams pan ddaw cyhoeddiadau ynghylch S4C a thrydaneiddio prif lein rheiffordd y de.

Os oes digon o amser gyda chi mae'n werth gwylio sesiwn cwestiynau'r Prif Weinidog i weld cymaint y mae Llafur yn gwthio ac yn godro'r naratif hwn. Dyna oedd testun bron pob cwestiwn gan aelod Llafur ac roedd wedi ei gynnwys yn y rhan fwyaf o atebion Carwyn Jones.

Mae gwrthbleidiau'r Bae yn deall y peryg yn iawn. Ymdrech i wrthsefyll y naratif yw "Bourne Doctrine" y Ceidwadwyr ac addewid Kirsty Williams y bydd hi'n "sefyll lan dros Gymru" os ydy hi'n anghytuno a phenderfyniad yn San Steffan.

Y broblem gyda'r tactegau hynny yw y bydd y ddau arweinydd yn edrych yn wan ac yn ddi-ddylanwad os ydy llywodraeth y DU yn anwybyddu eu protestiadau. Mae'r ddau eisoes wedi colbio penderfyniad y swyddfa basports, er enghraifft. Os ydy'r lle yn cau felly pa gasgliad y bydd yr etholwyr yn cyrraedd ynghylch athrawiaeth Bourne neu safiad Kirsty Williams?

Rwyf wedi ysgrifennu'n aml ynghylch pa mor anodd y hi Lafur ennill mwyafrif flwyddyn nesaf ond mae na un amgylchiad lle y gallai hynny'n brofi'n hawdd i Lafur. Yr hyn mae'r Saeson yn galw'n "lanslide" ac mae'r Americanwyr yn galw'n "wave election" yw'r amgylchiad hwnnw. Dyw'r peth ddim yn debygol ond dwi'n dechrau meddwl nad yw e'n gwbl amhosib chwaith.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:07 ar 19 Hydref 2010, ysgrifennodd Dewi:

    "Dyw'r peth ddim yn debygol ond dwi'n dechrau meddwl nad yw e'n gwbl amhosib chwaith."

    Dim yn gwbl amhosib - yn ôl pob sôn mae'r Blaid Lafur am dargedu Aberconwy, Arfon ac Ynys Môn o Blaid Cymru yn ogystal a Gogledd a Chanol Chaerdydd.

  • 2. Am 08:55 ar 20 Hydref 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Naratif Plaid Cymru dylsai fod 'os gawn ni a'r Cynulliad fwy o bwer gallwn gael ein hunain allan o'r twll yma drwy greu gwaith ac economi newydd - power dros Ystadau'r Goron, pwer dros ddwr Cymru, pwer trethiannol i amrywio trethi' etc.

    Mae 'ymladd yn erbyn toriadau San Steffan' yn swnio'n wan, fel ddwedes di Vaughan, ac mae'n cryfhau naratif Brydeinllyd Llafur h.y. dim ond Llafur all ennill ar lefel Brydeinig.

    Pam nad yw PC yn defnyddio Ron Davies yn gyhoeddus? Lle mae Ron?


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.