Cornel y Beirdd
Rwy'n teithio lan i San Steffan heddiw i gyflwyno rhifyn arbennig o CF99 ynghylch y toriadau.
Yn y cyfamser dyma englyn bach gan Siencyn Sionc i'ch difyrru! Mae'n amlwg nad yw'r bardd wedi ei siomi gan y newyddion ynghylch Sain Tathan
Er Cof
Siom i'r Brifysgol Fomio - a rhyfyg
Athrofa'r Arteithio
fo'n ŵyl i'r rhai fu'n wylo
drwy frad ar Fethesda'r Fro.
SylwadauAnfon sylw
Dyma gerdd arall i ddifyrru darllenwyr y blog. 'Gair at y Cymry' gan Saunders Lewis yn canmol gweithred Tri Pencarreg yn yr ymgyrch dros sefydlu S4C. Cyhoeddwyd yn Y Faner, 4 Ebrill 1980.
"Chwi Gymry Cymraeg:
Mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ a'r deyrnas yn cyhoeddi eich diwedd
Ac na bydd Cymru Gymraeg;
Llofruddiaeth yw nod y llywodraeth
Ers chwe chanrif
A heddiw fe wel ei bodloni."
Rwyf wedi newid un gair o'r testun gwreiddiol.
Tybed a all darllenwyr ddyfalu beth yw e?