³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Pwyll Pwyllgor

Vaughan Roderick | 13:41, Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010

david_davies_bbc226.jpgDydw i ddim yn meddwl fy mod wedi crybwyll hyn o'r blaen ond mae Swyddfa ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru yn NhÅ· Hywel syth o dan ystafell y Cabinet. Hyd yma rydym wedi gwrthsefyll y demtasiwn i ddal gwydr i'r nenfwd i geisio clywed beth sy'n mynd ymlaen!

Efallai bod fy nghlustiau yn fy nhwyllo ond rwy'n credu fy mod wedi clywed sŵn llestri'n cael eu taflu ac ambell i waedd o ddicter yn dod o'r pumed llawr y bore 'ma.

Tybed oes a wnelo'r stori yn y Scotsman unrhyw beth a hynny?

Os ydy'r papur yn gywir mae Pwyllgorau Dethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn bwriadu cynnal archwiliad i weld ydy datganoli wedi delifro ar gyfer pobol y ddwy wlad a'r dalaith.

Mae'n ddigon teg credu y byddai'r llywodraethau datganoledig yn wyllt gacwn pe bai ymchwiliad o'r fath yn cael ei gynnal. Wedi'r cyfan dyw'r llywodraethau ddim yn atebol i San Steffan ond i'w cynulliadau a senedd eu hun.

Coeliwch neu beidio mae Cadeirydd y pwyllgor Dethol Cymreig, David Davies yn llwyr ddeall y sensitifrwydd. Mae David wedi arllwys dŵr oer ar adroddiad y Scotsman gan awgrymu mai dyfodol pontydd Hafren fydd testun ymchwiliad cyntaf y pwyllgor.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.