成人快手

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Canlyniadau

Vaughan Roderick | 11:39, Dydd Gwener, 9 Gorffennaf 2010

mckenzie1970_150.jpgRoedd 'na ddau is etholiad cyngor diddorol ddoe. Dyma'r canlyniadau;

Blaenau Gwent

Canol a Gorllewin Tredegar

Llafur 797
Ann 334

Llafur yn cadw (2008; Laf 808, 740, 712, 691, Plaid Cymru 587, Llais y Bobol 544, 516
Dem Rhydd 539)

Caerffili

Y Coed Duon

Llafur 545
Ann 469
Plaid Cymru 355
Ceid. 170

Llafur yn cipio (2008; Ann 1794, 962, 817, Llaf 700, 681, 513, Plaid Cymru 505, 504, Ceid. 219, 212, 197)

Mae'r ddau ganlyniad yn dystiolaeth bellach bod y gefnogaeth i Lafur yn cryfhau yn ei chadarnleoedd. Mae angen bod ychydig yn garcus ynghylch canlyniad Y Coed Duon. Cyn ei gwymp mewn helynt ynghylch treuiliau roedd y cynghorydd anibynnol Kevin Etheridge yn arbennig o boblogaidd. Dyw methiant yr ymgeisydd annibynol ddim yn syndod efallai ond mae'n ganlyniad sal iawn i Blaid Cymru.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:11 ar 9 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Teithiwr:

    Spin 鈥渄iddorol鈥 o ganlyniad Caerffili. Pleidlais Llafur yn cymwpo 155 pleidlais (o'r bleidlais ucha tro diwethaf), a pleidlais Plaid Cymru yn cwympo 150 pleidlais yng nghanol y tymor mewn Cyngor lle maent yn rheoli. Felly swing o Llafur i Blaid Cymru os unrhywbeth ag eto canlyniad 鈥渟al iawn i Blaid Cymru鈥. Diddorol.

  • 2. Am 19:05 ar 10 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd B Griffith:

    Duw a 诺yr pam y byddai unrhyw un yn pleidleisio Lafur ar 么l y 13 mlynedd trychinebus diwethaf.

  • 3. Am 20:15 ar 10 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Vaughan - dim i wneud 'da'r pwnc yma ond dwi'n gegrwth. Miliwn o bobl (ffigurau'r heddlu) yn gorymdeithio yn Barcelona yn galw ar Sbaen i barchu canlyniad refferendwm ar Stadud Newydd i'r Wlad a gynhalwyd yn 2006 ... a dim gair ar wefan 成人快手 Cymru, 成人快手 Llundain (heb son am Euronews, France24 neu Aljazeera na Golwg360.

    Dwi'n derbyn mwy o wybodaeth ar Twitter na gyda'r 'gwasanaethau newyddion' proffeisynnol. Beth sy'n cyfri fel 'newyddion' dyddie 'ma. I feddwl fod dros filiwn o bobl yn gorymdeithio a hynny ar drothwy gem ffeinal Cwpan y Byd pan gellid disgwyl fod 'na lot o genedlaetholdeb Sbaenaidd ar hyd y wladwriaeth, mae hyn yn stori fawr.

    Af n么l at Twitter am fy newyddion a holi i fy hun pam ydw i'n talu ffi leisans a pam fod angen newyddion 成人快手 Cymru?

    Newyddion: www.vilaweb.cat (g诺glgyfieithwch)

  • 4. Am 08:47 ar 12 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt diddorol. Mae 'na elfen o "herd mentality" mewn newyddiaduraeth weithiau. Yn sicr fe fyddai'r brotest o ddiddordeb i wylwyr Cymreig.

    Fe wna i godi'r peth yn fan hyn ond does gen i ddim lot o ddylanwad dros Euronews, France24 nac Aljazeera!

  • 5. Am 13:52 ar 12 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd D. Enw:

    Flach mai ti ddwedodd fod elfen o 'herd mentality' gan newyddiadurwr. Gallwn i byth ddweud na meddwl y fath beth! Gweld fod stori ar wefan newyddion 成人快手 Saesneg a France24.com ... rwyt ti'n rhy wylaidd Vaughan.

    Mwy stwff ar yr orymdaith a gwleidyddiaeth Catalwnia ar wefan Saesneg yma am Gatalwnia:

    ... mae 'na hefyd digon o bobl sy'n siarad Catalaneg a Chymraeg alle esbonio beth sy'n arwain i 1.3 miliwn o bobl gymryd i'r strydoedd.


  • 6. Am 07:31 ar 13 Gorffennaf 2010, ysgrifennodd Adferwr:

    Tybed pa effaith a gaiff llwyddiant tim Spaen ar hunaniaeth Catalonia ?
    Mae'r tim wedi ei seilio ar gryfderau tim Barcelona, a mawr y bu'r dathlu yno . Y canlyniad gwaethaf posibl i genedlaetholwyr yno .Mae'n un maes lle mae Cymru gyda mantais dros pob un cenedl leiafrifol arall - mae tim peldroed ein hunain gennym . Yr ydym ni'n cwyno fod baner st Sior yn frit yma- dychmygwch petaech yn Gataloniad gwrth-Sbaenaidd heddiw !

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.