³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion

Vaughan Roderick | 14:14, Dydd Gwener, 9 Ebrill 2010

wispa203body_pa.jpgUn o'r pethau braf am y swydd yma yw bod dyn yn clywed sibrydion. Lot o sibrydion.

Wrth reswm, dyw pob un o'r sibrydion ddim yn mynd i gael eu gwireddu. Mae optimistiaeth neu besimistiaeth yn gallu lliwio'r hyn mae pobol yn credu. Ar ben hynny mae 'na resymau da dros geisio arwain newyddiadurwr ar gyfeiliorn ar adegau!

Ta beth, fel y gwnes i yn ystod etholiad y Cynulliad a'r etholiadau lleol rwy'n bwriadu cyhoeddi'r sibrydion mwyaf difyr gan ychwanegu pob rhybudd iechyd posib. Cewch chi farnu eu gwerth nhw.

Beth am gychwyn ym Mlaenau Gwent? Yn ôl Karl y Bwci "does dim arwydd y bydd pobol yn cefnu ar Dai" yn yr etholaeth honno. Cysylltodd cyfaill Llafur a mi i anghytuno. Yn ôl y cyfaill hwnnw mae'r sefyllfa Brydeinig a'r posibilrwydd o lywodraeth Geidwadol yn crisialu meddyliau yn nhopiau Gwent ac mae canlyniadau canfasio Llafur yn awgrymu bod Nick Smith a'i drwyn ar y blaen o ryw bedair mil o bleidleisiau.

Fe wnawn ni groesi'r ffin o Went i Bowys nesaf i etholaeth Brycheiniog a Maesyfed lle mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth eu boddau bod sylfaenydd Creation Records Alan McGee yn trefnu cyngerdd codi arian i Roger Williams. Mae'r cerddor yn byw yn yr etholaeth erbyn hyn ac yn ffan fawr o'r Aelod Seneddol mae'n debyg. Dyw Nick Clegg ddim am ymweld â B&M yn ystod yr ymgyrch, gyda llaw. Arwydd o hyder tawel, efallai.

Yn olaf gair bach gan un o hen bennau Plaid Cymru- dyn sy wedi gweld mwy o etholiadau na fi hyd yn oed- ac wedi ennill bron pob un ohnyn nhw. "Gwylia Cwm Cynon- os nid y tro hwn, y tro nesaf." Does bosib.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:15 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Dwi wedi clywed sïon o hyder Plaid Cymru yng Nghwm Cynon hefyd. Yn ystadegol (sori, ond dwi'n licio ystadegau!) byddai dyn yn meddwl bod yr hyder hwnnw ychydig yn ofer. Mae greddf a 'theimlad' mewn etholaeth yn arwydd da o beth all ddigwydd ond gall hefyd fod yn gamarweiniol tu hwnt - mae 'na fwy o enghreifftiau o reddf wleidyddol yn cael ei phrofi'n anghywir na chywir dybiwn i!

    Ond Plaid Cymru i ddod yn agos yng Nghwm Cynon eleni? Dwi'm yn siwr fy hun ...

  • 2. Am 16:31 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Diddorol iawn, a jyst y peth ar gyfer pnawn Gwener fel hyn!

    Ond faint o goel wyt ti'n ei roi arnyn nhw Vaughan?

    Blaenau Gwent - ydi cyfnod yr ymgeiswyr yn dod i ben yn barod?

    Brycheiniog a Maesyfed - a fyddai peidio ennill hon yn ergyd fawr i'r Toriaid?

    Cwm Cynon - Beth sydd i'w gyfri am yr hyder hwn gan y Blaid?

  • 3. Am 17:03 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    1.Rwy'n rhyw amau mai ar y funud olaf y bydd nifer o etholwyr BG yn gwneud eu pendernniad 2. Dyw B&M ddim yn hanfodol i'r Ceidwadwyr ond fe fyddai'n gamgymeriad i'r DRh gymryd buddugoliaeth yn ganiataol. 3.Yn achos Cwm Cynon rwy'n cymryd mai proffesiynoldeb ymgeisydd PC, Dafydd Trystan, sy'n gyfrifol ynghyd efallai a theimlad rhai o bleidwyr yr etholaeth bod hwn yn "un etholiad yn ormod" i Ann Clwyd. Gweler Ceredigion a Gog. Penfro,1992.

  • 4. Am 20:32 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Mae briadd yn fuan i ddechrau darogan go iawn ond mae ymgyrchoedd yn gallu adeiladu momentwm ei hunain . Mae lledeunu stori yn ffordd dda i ddechrau hynny ac mae cael syniad yn meddwl pobl ei bod yn agos yn ffordd o grisialu ymgyrch o gwmpas dau ymgeisydd. Dyna fe dybiwn sydd yn digwydd yn Cwm Cynon. Mae Dafydd yn ddigon hir ben i wybod hyn ac wedi gweithio yn galed i godi proffil ac mae'n bwysig iddo adeiladu ar gefnogaeth ymddangosiadol. Wedi'r cyfan mae pobl yn hoffi cefnogi ceffyl sydd a gobaith o ennill.

  • 5. Am 21:41 ar 9 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Re 3

    Diolch Vaughan,

    Roeddwn i wedi gadael un gair allan o bwynt 1, 'ydi cyfnod yr ymgeiswyr annibynnol yn dod i ben yn barod?' oeddwn i'n ei feddwl wrth gwrs.

  • 6. Am 11:36 ar 10 Ebrill 2010, ysgrifennodd Dewi Thomas:

    Vaughan,
    Gawni eich barn ar etholaeth Llanelli- dwi'n cael yr argraff bod Plaid Cymru yn reit ffydiog o enill yno. Dwi ddim o Lanelli, ac wrth edrych ar ganlyniadau yn 2005 bysa rhaid i'r Blaid enill 20% yn fwy.

    "Whats the word on the street?"

    Beth ydych chwi yn meddwl wneith ddigwydd yn Llanelli?

  • 7. Am 16:18 ar 10 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Braidd yn gynnar i ddweud. Fel mewn nifer o seddi Cymreig rwy'n amau bod 'na garfan o etholwyr sydd wedi dadrithio a Llafur ond ddim am gael Llywodraeth Geidwadol. Rwy'n amau y bydd llawer yn penderfynu yn ystod dyddiau olaf yr ymgyrch. Yn sicr mae PC yn gweithio'n galed yn Llanelli a dyw Llafur ddim yn ei chymryd hin ganiataol

  • 8. Am 20:50 ar 11 Ebrill 2010, ysgrifennodd monwynsyn:

    Oes unrhyw ddarogan eto ynghlyn a'r nifer syn bendant yn bwriadu pleidleisio ? Ydi'r arolygon wedi adnabod unrhyw duedd. Oes na fyw o ddadrithiad. Oes tuedd at i lawr yn sgil y cwrthrwfwl treuliau ?. Dwi yn amau y gall nifer y pleidleiswyr fod yn arwyddocaol a'r gwahanieth rhwng mwyafrif a dim mwyafrif. Er yn gynnar iawn dwi ddim yn teimlo unrhyw fwrlwm. Dwi yn teimlo fod cryn dipyn o ddifaterwch.

    Rhaid cofio fod dros draean o'r boblogaeth byth yn pleidieisio ac mae son fod nifer y rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio ar i lawr ? Pa mor drylwyr yw'r arolygon o ran patrymau pleidleisio blaenorol ? Fel y gwelaf i bethau mae mwy yn dweud y byddent yn bendant yn pleidleisio nac sydd yn troi allan.

    Gyda llaw dwi yn cael uffach o draffeth wrth geisio anfon sylw. Beth yw'r testun anghywir ?

  • 9. Am 21:43 ar 11 Ebrill 2010, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    O safbwynt danfon sylw... och gwae fi! Mae'r system yn amseru allan, sy'n broblem. Fi'n hun sy'n cymedroli sylwadau. Does 'na ddim system ganolog yn Gymraeg. Ar ôl hir drafod efallai y bydd gen i Blackberry neu i-phone o fewn yr hanner canrif nesaf!

  • 10. Am 21:51 ar 11 Ebrill 2010, ysgrifennodd FiDafydd:

    Wel mae yna ychydig o hwyl etholiadol yma yng Ngheredigion, beth bynnag.

    A dwi wedi cael llond bol ar y sgwigyls anarllenadwy o lythrennau yna y mae'n rhaid i ni eu teipio i mewn hefyd! Does dim synnwyr fod cyfrannu at y blog mor drafferthus.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.