成人快手

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ple gan Paul

Vaughan Roderick | 15:02, Dydd Mercher, 14 Ebrill 2010

paulf.jpg
Ydy Paul Flynn yn disgwyl ras agos yng Ngorllewin Casnewydd? Mae'n bosib ei fod e.

Fel mae'n digwydd roeddwn i yn y cownt yng Nghasnewydd yn pan gafodd Paul ei ethol yn 1987 gan gipio'r sedd o Mark Robinson. Fe symudodd hwnnw i fod yn aelod seneddol yng Ngorllewin Lloegr cyn colli ei sedd yno i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fel byddai Lady Bracknell yn dweud; "To lose one seat, Mr. Robinson, may be regarded as a misfortune; to lose both looks like carelessness."

Ta beth, 2,708 oedd mwyafrif Paul yn 1987. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd wedi cynyddu i 14,537 gyda'r aelod barfog yn derbyn dros 60% o'r bleidlais. Roedd 1987 yn annus mirabilis i Lafur wrth gwrs ac erbyn 2005 roedd y mwyafrif wedi gostwng i 5,458. Fe fyddai angen gogwydd o ryw 7.5% ar y Ceidwadwr, Matthew Williams, i gipio'r sedd y tro hwn.

Dyw hynny ddim tu hwnt i'w gyrraedd yn enwedig o gofio mai 1,401 oedd mwyafrif Rosemary Butler yn 2007. Yn y fath amgylchiadau mae pob pleidlais yn cyfri ac mae 1,278 o bleidleisiau yn drysor gwerth ei chwennych. Dyna'r nifer o bleidleisiau wnaeth Plaid Cymru ei dderbyn yn 2005 ac mae'n esbonio'r neges yma ar yr ymgeisydd Llafur.

Plaid Cymru launched their main policies today. Bring the boys home from Afghanistan. A fair deal for pensioners. Stop Trident. In Newport West they have an simple choice in finding a champion for those three aims. Please don't try too hard in Newport West Plaid. You already have a candidate who is committed to all three issues and is the bookies favourite to win. Think different. Think tactical.

Ymgeiswyr eraill; Veronica Watkins (Dem. Rhydd.) Jeff Rees (Plaid) Huw Moelwyn Hughes (UKIP) Pippa Bartalotti (Gwyrdd)

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:56 ar 14 Ebrill 2010, ysgrifennodd Albert:

    Os ydan ni'n onast, i rywun o'r tu allan mae'n ymddangos bod gwleidyddiaeth Paul Flynn wedi bod yn debycach i wleidyddiaeth Plaid Cymru na Llafur ers blynyddoedd bellach.

    Efallai mai fo ddylai fod yn meddwl am y newid tactegol.

  • 2. Am 23:08 ar 14 Ebrill 2010, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Mae gen i barch mawr i Paul. Un a fyddai llawer mwy cyffyrddus yn eistedd fel Pleidiwr nag yn y Blaid Lafur presennol. Mae felly yn biti garw y bydd Paul yn dal i chwifio鈥檙 faner felen/goch yn yr etholiad yma. Mae gan Blaid Cymru ymgeisydd cryf yn Jeff Rees ac rwyf yn siomedig, ond ddim yn synnu fod ei wefan yn argymell pleidleiswyr gydag arddeliad polis茂au fel 鈥淏ring the boys home from Afghanistan. A fair deal for pensioners. Stop Trident鈥. i bleidleisio dros y Blaid Lafur sydd ddim gyda鈥檙 polis茂au yma yn ei maniffesto nhw!!
    Yn bersonol rwyf yn gobeithio y bydd Paul yn dal i fod yn AS drosom yng Nghasnewydd Dydd Gwener y 7fed ond Paul beth am ymuno gyda dy hen ffrind Ron Davies ac eraill mewn cartref politicaidd fydd yn cynnal dy arddeliadau ti?

  • 3. Am 10:37 ar 16 Ebrill 2010, ysgrifennodd BoioGCG:

    Fe fues yn cyfathrebu trwy gyfres o ebyst i Paul Flynn, ar ol etholiad 2002, yn dilyn sylwad ar ei flog.

    Yr oed yn gwrtais iawn, ac yn ymateb yn brydlon ac yn dadlau ei ochr yn glir, OND pam offynais iddo y cwestiwn canlynol fe aeth pallod a'i ateb dwyaith

    'Who vision of Wales do you most agree with Mr Flynn, Dafydd Wigley's or Neil Kinnock's?'

    Rwy'n credu bod y tawelwch yn gweud y cyfan!

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.