Clychau Rhymni
Yn ôl ym Mis Rhagfyr fe wnes i sgwennu hyn;
Cyn iddo gael ei ddyrchafu i'r Cabinet adfywio'r economi yn ardaloedd tlotaf Cymru, llefydd fel Merthyr, Cwm Cynon a'r hen bentrefi llechi, oedd maes llafur Leighton Andrews . Fel dirprwy weinidog roedd Leighton yn atebol i Ieuan Wyn Jones ond fe, yn amlach na pheidio, oedd yn cynrychioli'r Llywodraeth wrth drefnu a lansio prosiectau.
Mae pethau wedi newid o dan Carwyn. Mae adfywio ardaloedd difreintiedig bellach yn rhan o adran Jane Davidson. Yn fwy pwysig y dirprwy weinidog perthnasol yw Jocelyn Davies o Blaid Cymru. Ofn rhai yn y blaid Lafur yw y bydd hynny'n galluogi i Blaid Cymru hawlio'r clod am lu o brosiectau yn yr union ardaloedd lle fydd Llafur a Phlaid benben a'i gilydd yn 2011. Yng ngeiriau un llafurwr gallai hon fod yn "gythraul o anrheg Nadolig i Blaid Cymru".
Doedd ofnau'r aelod Llafur ddim yn ddi-sail. Un o'r etholaethau allweddol yn 2011 fydd Caerffili a heddiw fe dderbyniodd newyddiadurwyr y datganiad newyddion canlynol gan Lywodraeth y Cynulliad;
"Mae'r Dirprwy Weinidog dros Adfywiant Economaidd, Jocelyn Davies, yn ymweld â Bargod heddiw i gyhoeddi cynllun gwerth £8.3m i adfywio canol y dref."
Yn etholaeth Caerffili mae Bargod wrth gwrs, etholaeth sy'n rhan o ranbarth Dwyrain De Cymru, y rhanbarth y mae Jocelyn yn cynrychioli yn y Cynulliad.
Os nad yw hynny'n ddigon i wneud i bobol Llafur dagu ar eu cornflakes mae 'na waeth i ddod. Mae'r datganiad (a chofiwch mai datganiad Llywodraeth Cymru yw hwn) hefyd yn cynnwys ymateb i'r cyhoeddiad.
Mae arweinydd y cyngor lleol wrth ei fodd;
"The council and the Assembly Government are committed to turning this proud valleys town into a thriving and bustling economic centre for South Wales" medd y Cyng. Lindsay Whittle. Fel mae'n digwydd Lindsay Whittle yw darpar ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Nghaerffili.
Nid Lindsay yw'r unig un sy'n dathlu. "I'm sure that the whole community will be delighted with the news and we now look forward to seeing these ambitious regeneration works progress" yw ymateb yr aelod o gabinet Caerffili sy'n gyfrifol am adfywiant economaidd.
Oes angen dweud mai Ron Davies yw hwnnw?
Cofiwch, mae pobol Bargod wedi hen arfer gweld gweinidogion Plaid Cymru erbyn hyn. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi bod yno ddwywaith yn ystod y chwe mis diwethaf, y tro cyntaf i agor twnnel rheilffordd newydd a'r eildro i agor gwasanaeth parcio a theithio.
Pwy oedd yno i groesawi Ieuan ar y ddau achlysur? Lindsay Whittle a Ron Davies, wrth gwrs.
Ydy Jeff Cuthbert yn teimlo ei fod dan warchae, tybed?
SylwadauAnfon sylw
Wrth gwrs, gallai Plaid Cymru a Ron Davies ddod i gytundeb yn etholiadau'r Cynulliad, lle byddai Ron Davies yn sefyll yng Nghaerffili fel ymgeisydd Annibynnol, a Phlaid Cymru yn peidio rhoi ymgeisydd yn ei erbyn, gan ganfasio dros RD yn yr etholaeth. Byddai hynny wedyn yn lleihau'r risg bod PC yn colli sedd restr, ond eto'n elwa ar gydweithrediad (a gallu a phrofiad) RD yn y Cynulliad.
Gallai hynny esbonio pam nad yw wedi ymaelodi'n swyddogol â Phlaid Cymru.