³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Leighton a fi

Vaughan Roderick | 12:34, Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr 2009

leightonandrews.jpgDim ond unwaith yr wyf wedi sefyll mewn etholiad ac etholiad Undeb Myfyrwyr oedd hwnnw. Fe wnes i golli. I Leighton Andrews. Roedd hynny yn ddigon i'm perswadio mai edrych ar wleidyddiaeth o'r tu fas oedd y llwybr cywir i fi mewn bywyd!

Ta beth, os nad yw pawb yn darllen yr ymysgaroedd yn anghywir, y prynhawn yma fe fydd Carwyn Jones yn cael ei ethol yn arweinydd Llafur. I Leighton y bydd y rhan helaeth o'r diolch am hynny. Etholiad Carwyn i'w golli oedd hwn. Roedd yn weddol saff o'i ennill os oedd ganddo ymgyrch effeithiol a does neb yn well trefnydd ymgyrch na Leighton. Rwy'n gwybod hynny o brofiad!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:43 ar 1 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Dewi Thomas:

    Hynny reit ddiddorol! gai ofyn i ba Goleg?

    Sut oedd Leighton pan oedd en myfyriwr? dwi ddim yn gweld o fel y teip oedd yn mynd allan yn aml? spill!!!

  • 2. Am 18:49 ar 1 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Teg yw dweud nad oedd yn rafin! Dydw i ddim yn gallu cofio beth yn union oedd y swydd ond rwy'n cofio fy mod wedi cael crasfa!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.