成人快手

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ac mae'r Oscar yn mynd i...

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2009

mohammad_asghar.jpg Wel, mae heddiw yn ddiwrnod a hanner! Mae Rhodri yn gadael ac ar ben hynny mae Aelod Cynulliad newydd gyhoeddi ei fod yn croesi'r llawr. Mae Mohammad Asghar wedi ymuno a'r Ceidwadwyr!

Hwn yw'r tro cyntaf i aelod adael un blaid i ymuno ac un arall er bod tri wedi gadael neu wedi cael eu diarddel o blaid ac wedyn wedi eistedd fel aelodau annibynnol. Y tri hynny oedd Rod Richards, John Marek a Peter Law.

Efallai nad yw symudiad Mohammad Asghar yn gymaint 芒 hynny o syndod. Mae e wedi bod yn aelod o'r blaid Geidwadol o'r blaen yn ogystal 芒 phleidiau eraill. Beth yw'r rheswm am y penderfyniad? Yng ngeiriau Oscar ei hun "I believe in the Royal Family and one United Kingdom". Pam wnaeth Plaid Cymru ei ddewis yn lle cyntaf felly?

Cyn i chi ofyn does dim rhaid i aelod rhestr ymddiswyddo mewn achos fel yr un yma. Mae'n bosib dadlau nad oes gan aelod rhestr yr un fath o fandad personol ac aelod etholaeth ac y dylai fe felly ymddiswyddo. Nid dyna mae'r rheolau yn dweud.

Mae 'na gysur ym mhob colled ac mae 'na ddau gysur amlwg i Blaid Cymru yn y golled hon. Yn gyntaf mae'n rhoi modd i ddatrys rhai o'r problemau sy'n deillio o'r Pwyllgor Cyllid, pwyllgor y mae Oscar yn aelod ohono. Yn ail mae llwybr wedi ei agor i Adam Price gyrraedd y Cynulliad yn 2011.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:22 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Vaughan. Yn ol Betsan, "And as a list member, of course, [Mohammad Asghar] gets to hold on to his seat, unlike a constituency AM who'd have to give it up." Ydw i'n deall yn gywir felly bod aelod a etholwyd yn uniongyrchol yn gorfod cadw at yr un un blaid, ond bod gyda aelod a etholwyd yn unswydd er mwyn cynrychioli ei blaid halw i newid fel a mynn? Bysen i wedi gofyn hynny ar ei blog hi, ond sai'n credu bod digon o amynedd gyda Betsan i ddarllen y sylwadau...

    Ta beth, os yw'r dadansoddiad na'n gywir, mae braidd yn rhyfedd a gweud y lleiaf!

  • 2. Am 12:44 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Rhyfedd bod dyn sydd yn arddel daliadau Unoliaethol ac yn Geidwadwr economaidd wedi ymuno a Phlaid Cymru yn y lle cyntaf.

    Natasha Ashgar oedd y cyntaf i ymuno a Phlaid cymru, ac ymunodd Oscar yn sgil hynny; os yw'r adroddiadau yn wir, Natasha oedd y cyntaf i drosglwyddo ei haelodaeth i'r Ceidwadwyr, ac aeth Oscar yn sgil hynny...

    Mae'n rhaid iddo sefyll i lawr fel Aelod Cynulliad. Pan fo etholwyr yn bwrw eu hail bleidlais, pleidleisio dros y blaid wleidyddol mae'n nhw'n ei wneud, nid am yr unigolyn. Pleidleisiodd pobl de ddwyrain Cymru am Blaid Cymru, ac felly cynrychiolydd Plaid Cymru ddylai fod yn cynrychioli pobl yr ardal yn y Cynulliad. Mae peidio a sefyll i lawr yn mynd yn gwbl groes i ysbryd pleidlais gyfranol.

  • 3. Am 12:53 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Does dim rheidrwydd ar aelod yn y naill ddosbarth na'r llall sefyll lawr yn ol y rheolau. Dyna yw fy nealltwriaeth i.

  • 4. Am 12:59 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd wil_cc:

    Wnaeth o ddim hyd yn oed dweud wrth ei staff cyn wneud o.

    Cywilydd llwyr.

  • 5. Am 13:04 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd huwmaldwyn:

    Piti na wnaeth yr Aelod Cynulliad ddweud wrth ei staff cyn ymadael. Tybed ydyn nhw'n cael deffectio hefyd? Wedi'r cwbwl mae ganddynt gontract efo'r Aelod Cynulliad nid Plaid Cymru.

  • 6. Am 13:26 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Alun o Gasnewydd:

    Diddorol iawn. Ddim yn synnu dim

    Wedi adnabod Ashgar am rhai blynyddoedd fel un sy鈥檔 byw yng Nghasnewydd. Siarad am beg sgw芒r mewn twll crwn dyma'r dyn!!! Rwy鈥檔 trio peidio bod yn enllibus fan yma ond gan fy mod yn ei adnabod byddwn yn defnyddio'r term 鈥渙portiwnydd o wleidydd鈥 os gwelais i un erioed! Nid wyf yn meddwl ei fod erioed wedi darllen trwy gyfansoddiad y Blaid!

    Vaughan rhywbeth arall diddorol sy鈥檔 dod allan o hwn i gyd鈥eth mae ei staff swyddfa yn mynd i wneud nawr? Ydyn ni yn mynd i weld JT yn croesi鈥檙 llawr hefyd?!!!

    Diolch fyth ei fod wedi dangos ei liwiau iawn (am y Tro) ta beth!

  • 7. Am 14:01 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Rwyf yn sgwennu post ar wahan ynghylch y staff.

  • 8. Am 14:03 ar 8 Rhagfyr 2009, ysgrifennodd Jiw Jiw:

    Cytuno 'da ti yn y bon, Mabon. Ond oes 'na ryw elfen o gefnogaeth 'bersonol' hefyd yn y ffaith bod etholwyr yn ymwybodol pwy sydd ar frig y rhestr?

    Ta beth, ma fe fel y Gwyddelod 'da Thierry Henry. Dyw e'm yn deg ond dyna'r rheolau presennol a dyna'r sefyllfa.

    Ymddygiad eitha gwael gan Asghar a'r Ceidwadwyr tuag at etholwyr ei ardal, arweinyddiaeth a grwp Plaid Cymru a hyd yn oed Rhodri Morgan ar ei ddwrnod ola' mewn ffor'.

    Ond heblaw am y broblem gyda'r system restr, dyw e'm yn newid bron dim a ma hynna'n gweud cyfrolau trist am Asghar.

    Un cwestiwn sy'n codi, falle, yw ei bod hi'n ymddangos yn hawdd ofnadwy i gael eich dewis ar restr bleidiol: llond llaw o bleidleisiau sydd angen.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.