Trioedd Ynys Echni
1. Rhodri ar ei orau. Heno fe fydd Rhodri Morgan yn cyflwyno yr Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yn anffodus dydw i ddim yn gallu bod 'na ond ar ôl darllen y ddarlith fedra i ddweud bod pobol y Llyfrgell yn mynd i glywed Rhodri ar ei fwyaf Rhodri-aidd. Pwy arall ond Prif Weinidog Cymru fyddai'n gallu cynnwys cyfeiriad at orsaf enwocaf Ynys Môn yn ei frawddeg agoriadol?
2. Un arall! Mae'n debyg eich bod yn cofio'r fusnes ynghylch sianel YouTube "Llywodraeth Cymru". Mae Clouseaus TÅ· Hywel yn dal i geisio canfod pwy oedd yn gyfrifol. Yn y cyfamser rwy'n diolchgar i Dafydd am dynnu fy sylw at sianel YouTube arall. yw hi'r tro hwn. Mae'n ymddangos nad sianel ffug yw hon ond fe wna i ychwanegu sylwadau Dafydd;
"Mae nhw'n cael ychydig bach o drafferth gyda'i collnodau ond mae cynnwys tipyn mwy gwreidiol a diddorol ar hwn.Synnu nad oes llawer o sylw wedi ei roi iddo. Fi yw'r cyntaf i danysgrifio a prin neb sydd wedi gwylio'r fideos"
3. Moch Daear a Mwy. Fe bleidleisiodd aelodau'r Cynulliad o fwyafrif sylweddol o blaid bwrw ymlaen a'r cynllun i ddifa moch ddaear yn gynharach yn yr wythnos. Ymhlith y gwrthwynebwyr roedd Huw Lewis. Ydy hynny'n golygu y byddai Huw yn ceisio stopio'r cynllun pe bai'n Brif Weinidog? O leiaf ni fyddai hynny'n peryglu'r glymblaid... yn wahanol i rai o'r pethau sy'n cael eu dweud yn y ras i arwain Llafur. Mwy am hynny yfory! Yn y cyfamser dyma i erthygl difyr a phwysig (dwi'n meddwl) gan Alun Davies draw ar Wales³ÉÈË¿ìÊÖ.