³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

NA! NA! NA!

Vaughan Roderick | 10:58, Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2009

_40740198_glanclwyd203.jpgRwyf newydd dderbyn e-bost gan ffrind ysgol i mi sy'n byw yn Adelaide yn Ne Awstralia ac oedd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth tan i'r blaid yr oedd e'n aelod ohoni fynd a'i ben iddi.

Ta beth, mae'n rhannu fy marn sinigaidd i ynghylch un agwedd o wleidyddiaeth. Tuedd etholwyr i wrthwynebu unrhyw newid i'w gwasanaethau lleol, hyd yn oed er gwell, yw'r agwedd honno ac ynghlwm iddi mae parodrwydd gweledyddion i fedi pleidleisiau rhad trwy borthi protestiadau.

Cynllun ad-drefnu gwasanaethau iechyd Adeliade oedd wedi cythruddo fy nghyfaill. Fel rhan o'r cynllun hwnnw fe fyddai prif ysbyty'r dalaith yn cael ei ddymchwel gydag ysbyty newydd sbon yn cael ei adeiladu yn ei le. Fe fyddai safle'r hen ysbyty'n cael ei droi'n feysydd chwarae. O fewn chwinciad fe ddechreuodd y cwyno ac o fewn chwinciad arall roedd gwleidyddion wedi dechrau dringo ar y "band wagon".

Digwyddodd rhywbeth tebyg yng Nghaerdydd rhai blynyddoedd yn ôl gyda chynllun i uno dwy ysgol uwchradd. Roedd un ohonynt ymhlith yr ysgolion gorau yng Nghymru o safbwynt ei ganlyniadau ar llall yn ysgol oedd yn iawn ond yn ddim byd sbeshal.

Rhoddwyd y gorau i'r cynllun ar ôl llu o brotestiadau deisebau a chyfarfodydd cyhoeddus. Yr hun oedd yn rhyfedd oedd bod y protestiadau bron i gyd gan rieni'r ysgol aflwyddiannus. Hynny yw, i'r rhieni hynny, roedd sicrhau "bod y plant yn mynd lle es i" a "thraddodiad ein teulu" yn bwysicach na safon yr addysg.

Y pwynt yw hyn. Weithiau mae cau ysgol neu ysbyty yn syniad da ac weithiau dyw e ddim ond nid mesur desibelau protestwyr a chyfri nifer y baneri yw'r ffordd orau o farnu. Fe fyddai'n braf gweld gwleidyddion (yn enwedig aelodau gwrthbleidiau) yn sefyll ar eu traed a dweud "sori, ond dwi'n meddwl bod y cynllun yma'n un da" o bryd i gilydd. Felna mae ennill parch. Yn anffodus nid felna mae ennill etholiad.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:02 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Gwilym Euros Roberts:

    Edefyn diddorol Vaughan.
    Fel un sydd yn erbyn cynlluniau Plaid Cymru i gau ysgolion yma yn Ngwynedd mae safonnau addysg yr ysgolion wedi ei anwybyddu yn llwyr a phob dadl mae nhw yn ei gyflwyno er mwyn eu cau yn rhai ariannol!
    Does dim son nac ystyriaeth yn cael ei roi i'r safon arbennig o addysg sydd yn yr ysgolion yma.
    Does dim disgwyl felly ond i rieni brotestio yn yr achos yma, ac dwi fel sawl aelod arall o'r Cyngor yn barod i sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda nhw.
    Mae methiant Llwyodraeth Cymru'n Un i ariannu addysg plant Cymru yn ddigonol o'u gymharu gyda'u cyfoedion yn Lloegr yn rhanol gyfrifol am y broblem mae Awdurdodau Lleol yn eu gwynebu.
    Engraifft perffaith felly o'r Blaid yn methu yn genedlaethol ac yn lleol er mi fydde nhw'n dadlau na,na,na!

  • 2. Am 14:15 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Digon teg, Gwilym. Dw i'n cadw allan o ffrwgwd Ysgolion Gwynedd! Fe wna i adael honna i "Taro'r Post"!

  • 3. Am 15:10 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd TREFOL:

    GER Os yw'r ddadl yn un ariannol ac os nad oes gan Llywodraeth Cymru na Awdurdodau Lleol y pres i gynal pob un ysgol wledig yna beth sydd i rwystro cymunedau rhag ariannu peth o'r gost eu hunain. Codi treth y Cyngor Cymuned i gadw ysgol ar agor? Pam lai

  • 4. Am 19:30 ar 20 Tachwedd 2009, ysgrifennodd Cofi:

    Yma yng Ngwynedd , ac fel y deallaf , Ceredigion, mae cyllido 'ysgolion bach' bondigrybwyll wedi crogi ysgolion uwchradd ers cenhedlaeth. Yr wyf yn hollol sicr fod safonau a phrofiadau o fewn ysgolion llai na tua 30 o ddisgyblion yn dioddef, ac na wnaiff yr holl 'ofal' ac ' ysbryd cymuned' yn y byd oresgyn na chyfiawnhau hyn. Mae ysgolion cynradd ein stadau mawr yn cael eu hanwybyddu hefyd . Ewch amdani, Gwynedd , chwifiwch y gyllell
    finiog yna'n fuan ac aml.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.