³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Rialtwch

Vaughan Roderick | 15:40, Dydd Sadwrn, 24 Hydref 2009

cinema_projector203.jpgGan fy mod wedi crybwyll problemau "" rhai dyddiau yn ôl fe ddylwn i ddweud bod y safle wedi dychwelyd. Hwre! Galwch draw ond dim cyn gwylio'r ffilmiau!

Dydw i ddim yn gwybod pam (y parti cyd-adrodd yna, o bosib) ond mae'r awgrymiadau'n llifo i fewn ar hyn o bryd. Dyma rhai o'r goreuon.

Gan ein bod wedi bod yn trafod ieithoedd cynhenid yr ynysoedd hyn yn ddiweddar mae'n ddifyr clywed bod cwmni cyfieithu o Lundain yn hysbysebu am gyfieithwyr i drosi Saesneg/Sgoteg Glasgow i Saesneg safonol. Gellir gwylio adroddiad STV ynghylch y stori yn. A nawr dyma gwrs wlplan...

Diolch i Andy am honna ac i Dewi am yr enghraifft yma o "Doric"

Fe gawn i ychydig o Aeleg nesaf - rhan o raglen grefyddol ar ³ÉÈË¿ìÊÖ Alba. Na, fedra i ddim esbonio y set rhyfedd yn llawn creaduriaid Doctor Who a does dim clem da fi beth mae'r cyflwynydd yn gwisgo o gwmpas ei wddw. Tei? Scarff? Tarff?

Un iaith fach arall i chi o nid nepell i ffwrdd. Dyma'r newyddion yn Ffaroeg os mai dyna yw'r term cywir am iaith Ynysoedd y Ffaro.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:55 ar 24 Hydref 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Nid yw'r protestwyr yn hoffi'r gwch o ynysoedd y Ffaro, mae'n amlwg.
    Maent yn dymuno gwawdio pobl y cenedl fechan honno !
    Gydag un llais , maent yn gweiddi : " Twll dy d.. di, Ffaro ! "

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.