Rialtwch
Fe ddigwyddodd rywbeth rhyfedd gyda "Rialtwch" wythnos ddiwethaf.
Fe wnes i gynnwys dolen i gyfweliad hanner awr gyda Richard Burton. Roedd y peth wedi bod ar safle'r "New York Times" am rai misoedd. Cwpwl o ddyddiau wedyn wnaeth y ymddangos yn y "Western Mail"
"FORGOTTEN footage of Richard Burton has been unearthed on the 25th anniversary of his death, showing the screen legend revealing a wealth of behind-the-scenes Hollywood tittle-tattle."
Dydw i ddim yn beirniadu'r papur. Rwy'n cicio fy hun na wnes i feddwl wneud mwy am y peth fy hun! Serch hynny, fe fyddai "credit" neu "hat-tip" i "Obell" wnaeth dynnu fy sylw at y cyfweliad wedi bod yn neis! Ta beth dyma Richard Burton yn canu (neu'n siarad) y gân wnaeth roi enw ar gyfnod yng ngwleidyddiaeth America.
Nid fi yw'r newyddiadurwr cyntaf i fethu troi ceiniog o stori ynghylch Richard Burton, gyda llaw. Am flynyddoedd Ceri Garnon oedd hunan-liwtiwr Cymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn Abertawe. Roedd Ceri yn weinidog a chan wisgo'r het yna fe wnaeth dorri'r newydd am farwolaeth Richard Burton i'r teulu ym Mhont-rhyd-y-fen. Fe fyddai Ceri wedi gallu gwneud ffortiwn trwy werthu'r stori ond fe wnaeth e ddewis peidio gwneud. Fe ddylai rhyw un adrodd y stori yna wrth !
Mae gweddill ffilmiau'r wythnos hon hefyd yn awgrymiadau gan Obell. Dyma ddarllediad rhyfedd iawn gan y Ceidwadwyr. Ydy William Hague yn troi mewn i Winston Churchill?
Ydy chi'n cofio'r dyddiau pan doedd bron dim byd ond hwn i weld ar setiau teledu ym Mhen LlÅ·n...
...nes i hwn gyrraedd?
SylwadauAnfon sylw
Mae Dick Cavett wedi bod yn postio o'i gyfweliadau gyda Burton ers mis Gorffennaf. Mae nhw'n gyfweliadau gwych wrth gwrs, a llawer mwy deallus a threiddgar na 'Parky' 'fyd.
Wrth gwrs mae hwn yn esgus i unrhyw newyddiadurwr diog i 'ddarganfod' y peth dro ar ôl tro. Wnaeth y Mule hyn gynta ym mis Awst.