³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dros y Fenai fawr i Fôn

Vaughan Roderick | 18:59, Dydd Mawrth, 6 Hydref 2009

Gwyneddarms.png
Mae'r post sy'n dilyn yn codi ychydig o embaras i mi. Fe wnaeth Blog Menai synhwyro fy mod wedi anghofio mai yn rhanbarth y Gorllewin a'r Canolbarth ac nid un y Gogledd y mae Meirion Dwyfor ac roedd e'n iawn yn hynny o beth. Wrth fynd heibio, fel Blog Menai, mae'n well gen i "Feirion Dwyfor" i'r enw swyddogol "Dwyfor Meirionydd". Fe ddylai'r ceffyl fod o flaen y cart!

Ta beth, dydw i ddim y fath o berson fyddai'n cuddio embaras trwy gymryd post i lawr! Mae'r ddadl yn wannach nac oeddwn yn meddwl ond dyw hi ddim yn gwbwl ddiwerth. Gallai'r chwe mil gafodd Peter Rogers yn 2007 ynghyd a chefnogaeth i Lais Gwynedd yn Arfon fod yn sylfaen i restr annibynnol yn rhanbarth y Gogledd. Yn yr un modd mae'n bosib y gallai Llais Gwynedd ganfod cynghreiriaid yn y Gorllewin a'r Canolbarth. Dyma'r post gwreiddiol;

Sgwennais air y dydd o'r blaen am gynlluniau Llais Gwynedd ar gyfer etholiad 2011. Fe wnes i anghofio crybwyll ar y pryd bod y grŵp yn bwriadu enwebu ymgeiswyr rhanbarthol yn ogystal ag ymgeiswyr yn nwy etholaeth Gwynedd.

Mae hynny yn ddiddorol oherwydd bod y trothwy i ennill sedd rhanbarth yn y gogledd yn gallu bod yn rhyfeddol o isel. Mae hynny oherwydd bod Llafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr i gyd a'r gallu i ennill seddu etholaethol. Yn 2005 (ar ôl rhygnu trwy fformiwla D'Hondt) fe enillodd Plaid Cymru'r bedwaredd sedd rhanbarth gydag ychydig dros 11,000 o bleidleisiau.

Mae hynny'n sylweddol is na Gorllewin De Cymru, er enghraifft, lle'r oedd y cwota yn bron i 15,000.

Dyw e hi ddim yn gyfrinach bod UKIP a'r BNP yn ystyried rhestr ranbarthol y Gogledd fel un o'u cyfleoedd gorau i gymryd sedd yn 2011 oherwydd y cwota isel ond beth am Lais Gwynedd?

Hyd yn oed os nad yw'r grŵp yn ennill sedd etholaeth mae'n ddigon posib y gallai ddod yn weddol agos at y trothwy ar y rhestr ranbarthol a phe bai rhyw un o Lais Gwynedd yn codi'r ffôn i Peter Rogers i drafod rhestr ar y cyd... wel, pwy a ŵyr?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:07 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd blogmenai:

    Does gan Llais Gwynedd ddim gobaith o gwbl o sedd ranbarthol yn y Gogledd. Yn y Canolbarth a'r Gorllewin mae Meirion Dwyfor - ac yno mae eu holl gefnogaeth bron a bod.

  • 2. Am 21:00 ar 6 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Och gwae fi! Mi wyt ti'n iawn wrth gwrs!

  • 3. Am 00:07 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    "Yn 2005 (ar ôl rhygnu trwy fformiwla D'Hondt) fe enillodd Plaid Cymru'r bedwaredd sedd rhanbarth gydag ychydig dros 11,000 o bleidleisiau."

    2007, ie?

    Oes na fwcis go iawn sy'n cymryd bets ar ganlyniadau etholaethau Cymru? Ydy rhywun yn gallu cerdded i mewn i siop fetio a gofyn . . . be yn union?!

  • 4. Am 09:48 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Nangogi:

    Ydw i'n iawn i feddwl bod y gwahaniaeth yn y trothwy i ennill sedd rhestr yn cael ei ddylanwadu gan y ffaith bod 9 sedd etholaeth yng Ngogledd Cymru, a dim ond 7 yng Ngorllewin De Cymru (ac 8 sydd ymhob un o'r rhanbarthau eraill). Mae'n rhaid bod hynny'n dod â'r cyfansymiau lawr yn gynt wrth "rhygnu trwy fformiwla D'Hondt."

  • 5. Am 10:40 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Diawl mae'n rhaid fy mod yn flinedig wrth sgwennu'r post yna. 2007 wrth gwrs. O safbwynt y bwcis fe brynwyd Jack Brown oedd yn rhedeg "llyfr gwleidyddol" Cymru gan gwmni Ladbrookes rhai blynyddoedd yn ôl. Mae Ladbrokes yn cynnig prisiau ar etholaethau Cymru yn yr etholiad cyffredinol ar eu gwefan ac yn gwahodd pobol i'w e-bostio i ofyn am brisiau mewn etholiadau eraill.

  • 6. Am 14:25 ar 7 Hydref 2009, ysgrifennodd Dewi:

    Ges i 5/2 gan Ladbrokes i'r Blaid ennill Llanelli. Pris digon teg yn fy marn i. (Plaid = 1/10 i ennill Arfon i gymharu)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.