Hwyl a...
Dyma ni yn ôl yn ffwl pelt yn y Bae. Y bore 'ma cafwyd cynadleddau newyddion cyntaf y tymor newydd. Yng nghynadledd Rhodri a Ieuan datgelwyd bod y llywodraeth wedi bod yn paratoi am doriadau gwariant ers dwy flynedd gan gynnal adolygiad o ba raglenni y byddai'n bosib eu dirwyn i ben .
Enw'r adolygiad, coeliwch neu beidio oedd "sbri". Hwyrach bod 'na ambell i fasocist yn y Cabinet!
Fe fydd sesiwn lawn gyntaf y cynulliad y prynhawn yma. Mae gwasanaeth S4C2 wedi dirwyn i ben ond fe fydd sesisiwn gwestiynnau'r Prif Weinidog yn cael ei darlledu ar ³ÉÈË¿ìÊÖ 2 ac mae'n bosib gwylio'r sesiwn gyfan ynghyd a'r pwyllgorau trwy ddilyn y ddolen ar y safle Newyddion. Fe fydd gwasanaeth "Democratiaeth Fyw" yn cychwyn ymhen ychydig wythnosau.