Rhwydweithio
Roedd cyndadau ochor mam o fy nheulu bron i gyd yn gweithio fel llongwyr yn mynd a llechi Gwynedd i bob cornel o'r byd. Mae'n sicr eu bod yn hen gyfarwydd â'r doldrymau, y rhan hynny o Fôr Iwerydd lle mae'r gwyntoedd yn brin ac anwadal.
Yr wythnosau ar ôl yr Eisteddfod yw doldrymau newyddiaduraeth Cymru. Sut ar y ddaear dw i fod i ddal fyny a nifer erthyglau Glyn draw ar flog Cylchgrawn gyda chyn lleied yn digwydd?*
Yn yr hen ddyddiau penblwydd dyn hyna'r byd oedd yn cynnig achubiaeth i ddarlledwyr. Hebddo fe mae newyddiadurwyr yn gorfod bod yn greadigol gan greu straeon allan o ddim!
Rwy'n dwli ar yr ymdrech yma gan Nick Horton ar wefan Saesneg ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru. Gallai'r frawddeg "He's Only in Mwnt, after all" fod yn deitl da i hunangofiant Rhodri!
³ÉÈË¿ìÊÖ
Mae'r stori nesaf hefyd yn cynnwys brawddeg i gofio sef "I suspect if you were a Welsh Reconstructionist Pagan Mabon--as part of an overall mythic cycle--makes perfect sense". Ai cyfeiriad at Mabon ap Gwynfor yw hwnna? Dydw i ddim yn deall gair o'r peth!
Ashveille Citizen-Times
Ai 2009 yw "annus horribilis" Caeredin?
Scotsman
Mae gyrwyr bysus yn gallu bod yn lletchwith ym mhobman ond mae hwn yn haeddu rhyw fath o wobr!
SMH.com
Fe fydd cwmni John Lewis yn agor ei siop gyntaf yng Nghymru cyn bo hir. Mae nawdd eisteddfodol y cwmni a'i yn arwyddion y bydd yr ymgartrefi'n ddigon pleserus! Mae'n biti nad yw rhai o gwmnïau cynhenid Cymru'r un mor frwdfrydig dros y Gymraeg!
* I'r rheiny sy'n cadw cownt dyma'r sgôr ar hyn o bryd yn rhyfel blogs y ³ÉÈË¿ìÊÖ i weld pwy sy'n gallu postio'r nifer fwyaf o eitemau ym Mis Awst. Cylchgrawn 46 (!!!) Gwynfryn 13 Vaughan 13. Fe fydd yn rhaid i mi siapio hi!
SylwadauAnfon sylw
Dwi ddim yn gwybod os yw hyn dal yn wir yn byd newyddiadurol modern, ond dwi wastad wedi meddwl fod ansawdd yn curo nifer bob tro.
Diolch am y cysur er fy mod yn meddwl bod cynnwys Glyn yn dda. Fe wnawn ni weld sut fydd pethau pan fydd y cythraul blogio'n tawelu rhywfaint!
Safle we rhagorol gan siop John Lewis..