Dyma'r Dyn i Arwain Cenedl
Roeddwn i'n meddwl fy mod wedi clywed pob un hanesyn a theori ynghylch is-etholiad hanesyddol Caerfyrddin yn 1966. Siawns bod 'na unrhyw beth newydd i ddysgu ynghylch yr ymgyrch na'r canlyniad.
Roeddwn i'n anghywir. Fe ddysgais rywbeth sydd yn cynnig esboniad o un agwedd o'r is-etholiad sydd wedi fy mhoeni ers tro byd.
Mae'r ddamcaniaeth bod Gwilym Prys Davies yn ymgeisydd sâl i Lafur wedi ei hail-adrodd hyd syrffed. Erbyn hyn mae bron pawb yn ei derbyn. Dyma mae Rhys Evans yn dweud yn ei fywgraffiad o Gwynfor.
"Efallai mai personoliaeth Gwilym Prys Davies oedd y diffyg mwyaf... roedd ei anallu i gysylltu â'r dyn cyffredin... yn golygu fod pobol yn camddehongli ei swildod am ffroenuchelder"
Y broblem i fi'n bersonol yw fy mod yn nabod Gwilym Prys a dyw e erioed wedi fy nharo i fel dyn swil na ffroenuchel. Tan i mi glywed hanesyn ychydig ddyddiau yn ôl roeddwn i'n cymryd bod Gwilym wedi aeddfedu neu newid fel personoliaeth yn y degawdau ers yr is-etholiad.
Mae gen i le i gredu nawr nad yw hynny'n wir. Erbyn hyn rwy'n weddol sicr nad oedd Gwilym Prys yn berson swil na ffroenuchel yn 1966 ond bod gan bobol Sir Gâr reswm da dros gredu ei fod e!
Peth amser cyn yr is-etholiad fe ddarlledodd ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru gyfres deledu o'r enw "Prysur Bwyso"- cyfres lle'r oedd pynciau mawr y dydd yn cael eu trafod mewn fformat oedd yn seiliedig ar achos llys. Ar ddiwedd y rhaglen fe fyddai rheithgor o leygwyr yn dyfarnu ar yr achos.
Alun Talfan Davies oedd y "barnwr". Roedd yr achosion yn cael eu dadlau gan ddau "fargyfreithiwr" sef Elystan Morgan a Gwilym Prys Davies. Fe fyddai'r rhaglen yn gyfle perffaith, byddai dyn yn meddwl, i godi proffil dau ddarpar-wleidydd ifanc yn y dyddiau pan oedd bron pob wan jac o'r Cymry Cymraeg yn gwylio popeth Cymraeg ar y bocs. Fe weithiodd y peth yn berffaith i Elystan ond nid i Gwilym Prys.
Fel mae'n digwydd fy nhad wnaeth gynhyrchu "Prysur Bwyso" a rhai dyddiau yn ôl rhannodd gyfrinach y mae wedi cadw o dan ei het ers blynyddoedd. Yn ôl Dad roedd Elystan wedi gosod amod ynghylch ei ymddangosiad ar y rhaglen, amod nad oedd Gwilym Prys yn ymwybodol ohoni. Yr amod oedd mai Elystan oedd yn cael dewis pa ochor yr oedd e'n dadlau drosti ym mhob rhaglen!
Yn ddieithriad, wrth i'r gyfres fynd yn ei blaen, fe fyddai Elystan yn dewis dadlau'r safbwynt oedd yn boblogaidd ymhlith y Cymry Cymraeg. Roedd Gwilym felly yn gorfod dadlau o blaid achosion amhoblogaidd gan groesholi rhai o'r ffigyrau mwyaf poblogaidd yn y Gymru Gymraeg. Roedd e'n gwneud y gwaith yn dda, hefyd. Yn rhy dda efallai, gan ddod drosodd ar adegau fel cymeriad anghynnes ac ie, ffroenuchel. Mae'n ddigon posib mae'r ddelwedd honno o Gwilym oedd yn andwyol yn 1966 yn hytrach nac unrhyw beth ynghylch y dyn ei hun.
Mae 'na ddau gwestiwn yn codi. Yn gyntaf, ai achos o "video killed the politics star" oedd is-etholiad Caerfyrddin? Yn ail, ac yn fwy difyr, ai Elystan Morgan, yr "Athelstan Organ" yr oedd cenedlaetholwyr y chwedegau yn ei ddirmygu gymaint, oedd yn gyfrifol, trwy hap a damwain, am fuddugoliaeth Gwynfor?
SylwadauAnfon sylw
Gwych o ddarganfyddiad ac un y medraf uniaethu fy hun ag ef fel un a weithiodd yn ddygn dros Gwilym Prys davies yn Is -etholiad Caerfyrddin.pedlerwyd y muth amdano o bentref i bentref a chredaf y byddai wedi bod yn affaeliad mawr i gael Gwilym yn y Senedd.Byddai y Gymraeg a Chymru yn da wahanol heddiw i'r hyn ydyw.Adnabyddwn ac edmygwn Gwynfor Evans,Rhennais lwyfan heddwch gydag yntau,ond a bod mor ddi-duedd ag y mae modd trychineb oedd colli Caerfyrddin.Gallaf ddeall yr hyn a wnaeth Elystan gan na fu ef erioed yn wir Sosialydd,cenedlaetholwr a welodd ei gyfle i fynd i San Steffan ydoedd.
Be sy wedi digwydd efo blog Betsan? Overload of Welsh-bashers dwi meddwl.
"Byddai y Gymraeg a Chymru yn da wahanol heddiw i'r hyn ydyw."
Cywr - dim cynulliad, dim S4C, dim Deddf iaith....ayb
Dave - Mae yna bobl rhyfedd yn y byd a mae Betsan yn eu denu wrth y degau.....
Ti'n wedi cwrdd a'i gwr felly, Dewi...(Sori Betsan!)
Mae Dave Rodway yn llygad 'i le. Does dim modd cael trafodaeth (gall) ar y pwnc dan sylw ar flog Betsan gan fod carfan gwrth Gymreig yn mynnu troi'r drafoaeth at eu hobsesiynnau nhw eu hunain. Mae cyfraniad DR i flog diweddaraf Betsan yn ddadlenol. Druan a Stoney!
Efallai mai nid dyma'r lle i farnu. Ychydig sy'n cyfranu i flog Vaughan. Byddai mwy o ymateb yn fy argyhoeddi mai nid ar fy nghyfer i yn unig y mae VR yn sgwennu.
Mae'n well gen i fy ychydig i i laweroedd Betsan a dweud y gwir!
Rhan o'r rheswm am y gwahaniaeth yw nad oes cymedroli canolog ar flogs Cymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ - fi sy'n gwneud ac rwy'n gallu bod yn o ddiog neu'n brysur ar adegau . Rwy'n llwyr ddeall bod pobol yn rwystredig wrth ddisgwyl am oriau lawer i sylwadau ymddangos oherwydd hynny.
"....mai nid ar fy nghyfer i yn unig y mae VR yn sgwennu" Da iawn Katie. Dylse Vaughan cyfeirio pob un o'i draethodau i un ohonom yn bersonol...