Snogio
Doeddwn i ddim yn y Bae heddiw. Dydw i ddim felly wedi cael llawer o amser i ystyried ond o gael cip olwg sydyn mae'n ymddangos yn ddarn trylwyr iawn o waith.
Rwy'n arbennig o falch bod Syr Roger a'i dîm wedi rhoi sylw i'r ffordd y mae rhai aelodau'n rhenti swyddfeydd gan eu pleidiau, stori gafodd gryn sylw gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ wythnos ddiwethaf. Mae eu hargymhellion yn gwneud synnwyr. Fe fyddai'n hurt i wahardd aelodau rhag defnyddio swyddfeydd canolog a chyfleus sy'n adnabyddus i'w hetholwyr. Ar y llaw arall mae angen sicrhau nad yw'r rhent yn rhyw fath o gymhorthdal cudd i'r blaid. Mae ateb Syr Roger yn un syml. Fe ddylai rhent teg gael ei bennu gan syrfewr annibynnol wedi ei benodi gan y cynulliad. Call iawn.
Lle'r oeddwn i heddiw? Yn snogio gyda Elin Jones! Nid yn llythrennol, wrth gwrs. Roeddwn i mewn cynhadledd a drefnwyd gan Sefydliad Bevan i drafod dwy flynedd o lywodraeth Cymru'n Un lle wnaeth Elin y sylw yma "os ydych chi eisiau clymblaid lwyddiannus mae'n rhaid i chi snogio pob partner posib".
Brinle hyd yn oed, Elin? Fe wna i brynu tocyn!
SylwadauAnfon sylw
Mae'n swnio o Twitter fod dy araith yn ddiddorol a da - oes gobaith am gael ei gweld yma?
Mae hi yn Saesneg ac yn llawn o "typos" a cham sillafiadau. Fi wedi'r cyfan oedd yn gorfod darllen y peth! Fe fydd Sefydliad Bevan yn cyhoeddi'r papurau ar ôl eu caboli ond os oes unrhyw un eisiau gweld y fersiwn amrwd e-bostiwch fi "vaughan.roderick@bbc.co.uk" ac fe wna i ddanfon copi.