Rhwydweithio
Mae'r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi'r lluniau cyntaf o'r cerdyn adnabod cenedlaethol. Does 'na ddim jac yr undeb- allan o barch at genedlaetholwyr Gogledd Iwerddon. Fe fydd fersiwn Cymru'n ddwyieithog wrth gwrs ac fe fydd... Arhoswch eiliad!!! Arhoswch un bly*i eiliad!!! Rwy'n gwastraffu geiriau yn fan hyn!
Dyw'r peth ddim yn mynd i ddigwydd. Mae'r parot yma'n gelain. Mae'n gyn-barot. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo hynny ym mêr ein hesgyrn. Mae'r pleidiau, ac eithrio Llafur, am sgrapio'r peth ac mewn cyfnod o doriadau gwariant mae 'na ddigon o fewn y blaid honno sy'n chwilio am esgus i roi'r gorau i'r cynllun.
Onid yw hi'n bryd i rywun ddweud wrth yr ymerawdwr ei fod e'n borcyn- nad yw ei ddillad ffansi, mewn gwirionedd, yn bodoli?
Ta beth os ydych chi eisiau gwybod mwy darllenwch y Times.
Yn y cyfamser mae'r Albanwyr am ddysgu gwersi o lwyddiant chwisgi "Penderyn"!
Glasgow Herald
Mae Eta wrthi eto. Diawch mae honna'n lein i'r Talwrn! Mae gan wefan Saesneg y ³ÉÈË¿ìÊÖ erthygl ddiddorol am gefndir y terfysgwyr.
³ÉÈË¿ìÊÖ
Wyddoch chi fod yr eisteddfod yn cynnig y "". Wel nid ein heisteddfod ni efallai!
Mae am gynnal arbrawf diddorol yn ystod y brifwyl. Fe wna i adael iddyn nhw esbonio.
"Fel arbrawf bach, 'da ni wedi creu gwefan ar gyfer y 'steddfod o'r enw Stwnsh Steddfod, sy'n cymeryd gwybodaeth o Flickr, Twitter a Google a'i rhoi ar un dudalen cyfleus.
Y bwriad oedd i weld os oedd hi'n bosib i greu gwefan cyflym i ddangos defnydd o wefannau cymdeithasol gan y bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau fel y 'Steddfod. Os bydd y wefan yn llwyddiant, fe wnawn ni ddatblygu y syniad yn bellach ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol ac ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2010."
Mae'r safle yn .
SylwadauAnfon sylw
Byddai gen i gywilydd bod yn berchen ar un o'r erchyll bethau yma pa bynnag faner fyddai arno!
Ond os ydy'r cerdyn ei hun yn sicr o ddod i ddiwedd parot-peithonaidd beth am y gronfa ddata 'genedlaethol' yna? Mae oblygiadau honno'n swnio'n llawer gwaeth na'r cerdyn i mi.
Fedra i ddim anghytuno!
Beth ydy'r rhagolygon ynglŷn â'r gronfa ddata felly?
Fe wna i ofyn i Aled ap! Dydw i ddim wedi clywed llawer am y peth yn ddiweddar.