³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Glyn Cwac Cwac

Vaughan Roderick | 19:19, Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2009

wilcwac-3.jpgYdych chi'n cofio ynys yr hwyaid- yr addurn aeth yn symbol o'r holl helynt ynghylch treuliau? Ydych? Wel, dyma i chi ddatblygiad cyffrous.

Fe fedra i ddatgelu ffaith ysgytwol. Mae gan Glyn Davies nid un, ond dwy o'r ynysoedd hyfryd hyn yn ei ardd ym Maldwyn.

Peidiwch a phoeni. Does dim awgrym o gwbwl bod Glyn wedi ceisio hawlio'u cost o'r trethdalwyr! Gyda chylch yr orsedd hefyd mae'n rhaid bod ganddo gythraul o ardd! Owain Clarke oedd y Capten Cook wnaeth ddarganfod yr ynysoedd hudolus hyn wrth baratoi ffilm ynghylch treuliau i CF99. Mae'n rhaid i chi syllu'n ofalus ar y cefndir y tu ôl i Glyn i'w gweld!

Fe fydd y rhaglen am ddeg ar S4C ac fe fydd Dafydd Elis Thomas ymhlith y gwesteion. Fi sy'n chwarae rhan Dic Pen Moel a Bethan yw Ifan Twrci Tenau'r noson!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:26 ar 8 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Mae sôn am hwyaid yn rhoi cyfle i mi gyfeirio at y criced! Pwy fydd pobl yn eu cefnogi? Yn syml iawn, fe fydda i'n cefnogi Awstralia. Trist neu beidio, yn seicolegol alla i ddim cefnogi Lloegr. Gobeithio y bydd y tywydd yn dda, y criced yn well a'r canlyniad yn dderbyniol felly.

    (Gyda llaw, mae'r llythrennau bach yn y blwch ambell waith yn gwbl amhosib eu deall - o hyd!! I mi beth bynnag. Pam fod dy flog di angen y rhain o gwbl?

  • 2. Am 09:37 ar 8 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Fe wna i ofyn am y llythrennau. Fe wnaeth blogs y ³ÉÈË¿ìÊÖ ddioddef "spam attack" y llynedd. I atal rheiny mae'n nhw'n dda, dw i'n meddwl. O safbwynt y criced rwyf wedi dilyn yr un polisi ers fy arddegau. Rwy'n cefnogi Lloegr yn erbyn Awstralia a De Affrica a phawb arall yn erbyn Lloegr (os nad oes Cymro yn y tim). Beth fyddai Norman Tebbit yn dweud?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.