成人快手

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ar Log

Vaughan Roderick | 15:24, Dydd Gwener, 12 Mehefin 2009

Un o gornelu bach mwyaf diarffordd a mwyaf difyr gwefan Llywodraeth Cymru yw'r . Ffrwyth y Ddeddf Ryddid Gwybodaeth yw'r safle. O ganlyniad i'r ddeddf wrth ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan unigolyn neu gorff mae'n rhaid gwneud yr ateb hwnnw ar gael i bawb arall. Yn y Cofnod Datgeliadau y maen nhw'n cael eu cyhoeddi.

Mae newyddiadurwyr yn cadw llygad barcud ar y cofnod yn rhannol i weld ar ba straeon y mae newyddiadurwyr eraill yn gweithio. Mae cwestiynau gan y cyhoedd hefyd yn aml yn arwain at ddatgelu ffaith ddiddorol neu ddadlennol. Cais gan aelod o'r cyhoedd oedd yn gyfrifol am stori ar "Dragon's Eye" neithiwr ynghylch faint o arian yr elusennau menywod yn derbyn er enghraifft (cofnod datgelu ).

Fel y byddai dyn yn disgwyl mae 'na amryw o gymhellion dros wneud cais. Yn aml mae'n ddigon hawdd dychmygu pam y mae cais yn cael ei wneud. Rwy'n fodlon mentro, er enghraifft, nad yw'r person wnaeth ofyn ynghylch costau cyfieithu'r llywodraeth a'r nifer sy'n defnyddio ei gwefan Gymraeg (cofnod datgelu ) yn ymgyrchydd brwd dros wasanaethau dwyieithog!

Weithiau mae cais yn canfod rhywbeth sydd yn lled ddiddorol ond yn bur ddiystyr. Rwy'n gosod yr ateb i gais y Democratiaid Rhyddfrydol ynghylch gwariant y llywodraeth ar yn y dosbarth hwnnw. Fe fyddai'n stori dda pe bai'r swm wedi cynyddu'n ddifrifol ond dyw e ddim. Fe fyddai'n ddiddorol gwybod sut mae'r ffigwr yn cymharu 芒 Llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon ond does dim cymhariaeth yn cael ei chynnig.

Mae miliwn o bunnau yn lot o arian. Ond ydy'r swm yn afresymol? A fyddai modd cyflawni'r gwaith mewn ffordd ratach? Oes 'na well ffyrdd o weithio? Dydw i ddim yn gwybod a dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn gwybod chwaith.

O safbwynt plaid wleidyddol (ac mae'r pleidiau i gyd yr un mor euog) does dim ots os ydy ffaith heb gyd-destun o unrhyw werth gwrthrychol ai peidio. Nid canfod gwybodaeth yw bwriad y pleidiau ond 'sgota am ffeithiau a allai ymddangos yn sgandalus i'r cyhoedd er mwyn ennill cyhoeddusrwydd. Mae tudalen flaen y heddiw yn profi bod y dacteg yn gweithio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:30 ar 12 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Allet ti esbonio beth sydd wrth wraidd y cais i weld gwybodaeth a gyflwynwyd i IWJ o ran trafnidiaeth. Pwy sy'n anhapus a pham.
    Dwi yn hynod falch o'r bwriad i osogi Port. Am bris Ronaldo fe fyddwn wedi gallu osgoi Penrhyndeudreth hefyd !!

  • 2. Am 06:12 ar 13 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae rhai aelodau Llafur yn cyhuddo IWJ o ohirio gwelliannau i Ffordd Blaenau'r Cymoedd er mwyn ariannu gwelliannau De-Gogledd. Mae IWJ yn dweud bod yr oedi yn y cynllunio wedi digwydd yn ystod y llywodraeth Lafur ddiwethaf. Mae'r pwyllgor am weld pan gyngor mae IWJ wedi ei dderbyn gan ei swyddogion. Mae IWJ yn gwrthod datgelu'r cyngor cyn cyhoeddi'r penderfyniadau terfynol.

  • 3. Am 22:07 ar 13 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Diolch am yr esboniad doedd hyn ddim yn glir o'r adroddiadau a glywais.
    Er nad yn ddiduedd dwi yn croesawy yn fawr y pwyslais ar gysylltiadau De Gogledd. Roedd pobl yn arfer cwyno fod pobl Cymru yn fwy cyfarwydd a daeryddiaeth Israel na Chymru. Heddiw gellid dadlau ei bod yn fwy cyfarwydd a dearyddiaeth Sbaen a Groeg. Credaf fod cysylltiadau gwell yn bwysig er mwyn chwalu'r rhagfarnau De v Gogledd a hyrwyddo ymdeimlad o wlad. Dwi yn siwr y bydd Ieuan yn fwy tebygol o gael ei gofio am wella cysylltiad De Gogledd nac am wella Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Tra'n croesawy ffordd osgoi Porthmadog dwi yn credu y byddai yn posibl gwella cystylltiadau De Gogledd yn sylweddol am gost isel drwy ledu a sythu. Dwi hefyd yn gobeithio na fyddwn yn ailadrodd camgymeriadau ffordd osgoi Groslon a Phenygroes. Engraifft o gynllun pwyllgor os bu un erioed gyda gormod o rowndabowts.

  • 4. Am 18:51 ar 14 Mehefin 2009, ysgrifennodd Ows:

    Vaughan,

    Dwi鈥檔 meddwl bod chdi wedi methu鈥檙 pwynt braidd gyda鈥檙 stori yma a fod yn annheg gyda鈥檙 Dem Rhydd.

    Yn gyntaf, wyt ti鈥檔 deud fysa鈥檙 stori yn 鈥榳ell鈥 os sa ni di gweld codiad yng ngwariant llogi ceir y llywodraeth. Dwi鈥檔 meddwl fod gwario 拢1 miliwn y flwyddyn yn warthus, fy hun

    Yn ail, er fod y Dem Rhydd yn condemio gwariant y llwyodraeth, roeddynt hefyd yn galw am edrych ar ffyrdd o leihau gwario cymaint ar symyd gweision sifil o gwmpas y wlad, fel dywed Kirsty ei hun:

    鈥淭hey (WAH) need to increase their use of video conferencing to reduce travel for civil servants and when the technology is not available the Welsh government should have a pool of low carbon energy efficient cars to reduce the amount they spend on civil servant travel and play their part in lowering CO2 emissions in Wales.鈥

    er dy fod ti yn deud:

    鈥淥es 'na well ffyrdd o weithio? Dydw i ddim yn gwybod a dyw'r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn gwybod chwaith.鈥

    Be ma Kirsty newydd neud uchod? Bach yn annheg Mr. Roderick!

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人快手 iD

Llywio drwy鈥檙 成人快手

成人快手 漏 2014 Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.