io-io
Fel 'na mae cynhyrchwyr teledu a radio. Mae pob un eisiau i bopeth bod yn berffaith. Roedd "Wales Today" eisiau fy nholi i heddiw ynghylch sylwadau Jonathan Morgan yn y stiwdio yn Llandaf. Roedd newyddion S4C ar y llaw arall yn dymuno holi am yr un pwnc ond y tro hwn yn y senedd. Yn ôl ac ymlaen a fi felly fel io-io rhwng ystafelloedd newyddion y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn Llandaf a'r Bae a hynny i gyd trwy draffic yr Urdd.
Yn y ddwy ganolfan mae'r un cwestiwn yn cael ei ofyn. "Oni ddylwn ni wneud y straeon yma?"
Mae'r cwestiwn ynghylch dau bwnc. Yn gyntaf cyflwr Golwg360 a'r ynghylch y ffordd y cafodd y wefan ei chreu. Yn ail (a chofiwch mai pobol y ³ÉÈË¿ìÊÖ sy'n gofyn y cwestiwn) mae'n ymwneud a'r difrod honedig y gallai cynlluniau S4C i ymhel a darpariaeth newyddion Saesneg ITV achosi i wasanaethau Radio Cymru ac Arlein pe bai gwasanaeth newyddion teledu Cymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn dod i ben. Dydw i ddim yn credu ei fod yn annheg i ddweud bod nifer o'r "partneriaid" sydd yn cael eu sibrwd yn eu cylch ar gyfer gwasanaeth newyddion Saesneg S4C hefyd yn ymwneud a "Golwg360". Rwy'n gwrthsefyll y temtasiwn i ddweud "Duw a'n gwaredo"!
Mae'r broblem yn un syml. I'r ³ÉÈË¿ìÊÖ fel prif-ddarparwyr newyddion Cymraeg mae rhain yn straeon o bwys i'n defnyddwyr. Does neb arall yn debyg o roi sylw teilwng iddyn nhw. Ar y llaw arall ydy hi'n bosib i ni fod yn niwtral yn eu cylch? Hyd yn oed os oeddwn ni a fyddai pobol yn ein credu neu a fyddent yn ein gweld fe "bwlis mawr y ³ÉÈË¿ìÊÖ" yn ceisio llorio'r gystadleuaeth?
Does gen i ddim ateb.
SylwadauAnfon sylw
Mae'r ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi riportio digon am broblemau HTV yn y gorffennol, ac yn ddigon di-duedd. Be di'r gwahaniaeth efo'r rhain?
Y byd bach Cymraeg mae gen i ofn! Y gwir amdani yw bod yw bod sefyllfa'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn agos at fonopoli mewn newyddiaduraeth Gymraeg.
I fi mae hyn yn dangos gwir angen am blog/gwefan anibynnol newyddion a barn ar y cyfryngau Cymreig. Mae'r wybodaeth gyhoeddus am beth sy'n mynd mlaen yn y cyfryngau yn andros o isel, ac mae hyn yn cael ei waethygu gan y ffaith nad oes unrhywun o fewn y cyfryngau yn hoffi rhoi eu pen uwch y parapet rhag cael eu blacklistio.
Mae gan yr Alban
Pwy sy'n darparu gwybodaeth felly yma, ac yn bwysicach, pwy sy'n gofyn y cwestiynau caled?
Neb, ymddengys.
Wyt ti ddim yn meddwl felly ma y rhithfro sydd wedi gwneud y job orau o adrodd y stori? Dyw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ddim wedi dweud llawer a dyw'r Western Mail ddim chwaith er fod un stori wedi ymddangos yn Dail y Post.
Mae llawer o'r bobl sydd wedi trafod ffaeleddau y wefan ar flogiau a maes-e yn arbennigwyr yn y maes ac efallai yn edrych ar y peth yn rhy agos ond o leia mae'r peth wedi ei wyntyllu.
Os oeddech chi'n gwylio'r cyfryngau torfol yn unig fyddech chi ddim callach fod unrhywbeth o'i le. (ond ddim am hir, dwi'n deall).
Yr ateb syml i'r cwestiwn yw "ydw". Rwy'n meddwl bod na enghraifftau rhagorol o dyrchu a newyddidura ar wahanol safeloedd. Mae'r gwaith fforensig ynghylch y cylsyltiadau ac India yn arbennig o drawiadol.