Gwinllan a roddwyd
Roeddwn yn ofni hyn! Mae ambell i un wedi fy nghyhuddo o rawnwin surion trwy grybwyll y problemau technegol ar safle Golwg360. Fe wnes i gau'n nhrap am ddyddiau gan bryderu y gallai hynny ddigwydd.
I fod yn gwbwl eglur rwyf yn awchu i weld Golwg360 yn llwyddo am sawl rheswm. Yn bennaf fe fyddai hynny yn arf wrth i ni ddadlau dros ragor o adnoddau i wasanaethau arlein Cymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ.
"Damned if you do, damned if you don't" fel mae'n nhw'n dweud.
SylwadauAnfon sylw
Paid a phoeni V, beth oeddet fod i ddweud, ei fod yn wych?! Cer i maes-e.com i weld y drafodaeth parthed y safle. Siom, siom a mwy o siom. A ddylet deimlo'n wahanol oherwydd dy fod yn gweithio i'r ³ÉÈË¿ìÊÖ?
Sdim angen i ti wisgo'r cap yna Vaughan. Gadwes di'n dawel gan roi digon o amser i golwg fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
Yn farn i, y peth gorau i'w wneud nawr fyddai cau golwg360 lawr am rhyw fis a sortio'r peth mas yn iawn. Byddai'n werth iddynt galw rhyw 6 o bobl ynghyd - pobl blog metastwnsh.com (siwr fydde nhw'n rhatach na chael rhyw 'arbenigwyr' fewn) a gwrando ar eu sylwadau positif nhw.
Mae pawb am i hwn lwyddo, gan gynnwys ochr Gymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ dwi'n siwr. Cau lawr a dechre eto yw'r unig opsiwn nawr. Mae jyst angen ail-wampio'r edrychiad, y cynnwys (plis gawn ni golofnwyr difyr a phryfoclyd), RSS, ymatebion etc. Pam ddim cwmpasu www.maes-e.com mewn i'r wefan?
Lot o drafod ar maes-e.com -
Heb eich gweld ers amser ar y maes Vaughan. Mae croeso i chi gyfrannu unrhyw bryd heb gyfyngiadau'r ³ÉÈË¿ìÊÖ. ;-)