Cipolwg
Dw i wedi bod yn cael cipolwg ar wefan newydd Golwg. Peidiwch â gofyn sut. Dydw i ddim am gynnig adolygiad llawn am ddau reswm amlwg. Yn gyntaf rwy'n gweithio i'r "gystadleuaeth"! Yn ail safle datblygu yn hytrach na'r wefan orffenedig sydd i'w weld ar hyn o bryd. Ar ôl dweud hynny mae gen i ambell i sylw- adeiladol gobeithio!
Mae'n ddiddorol nodi bod y wefan (fel y ³ÉÈË¿ìÊÖ yn nyddiau "Cymru'r Byd") yn cynnwys newyddion tramor. Mewn egwyddor mae'r penderfyniad yn ddigon call. Wedi'r cyfan fe ddylai 'na fod gwasanaeth mor gynhwysfawr â phosib yn Gymraeg.
Ein profiad ni yn fan hyn oedd mai ychydig iawn oedd yn darllen straeon tramor oedd heb ryw fath o ongl neu elfen Gymreig. Ar ddiwrnodau newyddion prysur yng Nghymru dwi'n rhyw amau y bydd yr eitemau tramor yn cael eu gwthio i'r naill ochor. Dyna ddigwyddodd yn y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Fe gawn weld os ydy'r un peth yn digwydd i Golwg.
Mae'r safle hefyd wedi gwneud penderfyniad golygyddol i gyfyngu ar hyd y straeon newyddion. Rhyw ddau gant o eiriau sy 'na mewn stori ar gyfartaled. Fe ddywedodd Dylan ar Raglen Gwilym Owen mai gwahaniaethu rhwng y wefan a chylchgrawn Golwg yw'r bwriad. Rwy'n amau y bydd angen ail-feddwl. Fe fydd angen peth deunydd swmpus os am ennill cefnogaeth y rheiny oedd yn cefnogi "Y Byd".
Fel dwedais i safle datblygu yw hwn ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi siomi ychydig gan y diwyg (hen ffasiwn braidd ac yn llawn gwagleoedd) a'r diffyg deunydd aml-gyfrwng. Mae adran "Lle Pawb" (casgliad o is wefannau gan unigolion a chymdeithasau) ar y llaw arall yn syniad addawol ac ardderchog. Fe fyddai'n braf be bai'n bosib gweld a oedd un o'r is safleoedd wedi ei ddiweddaru heb ei agor ond cwyn fach yw honno!
Rhag ofn fy mod yn ymddangos yn negyddol mae'r safle yn hawdd iawn i ddefnyddio ac yn eglur iawn o safbwynt canfod cynnwys. Ar ddiwedd y dydd cynnwys safonol a diweddaru aml fydd yn cyfri.
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n amau dy fod yn iawn o ran storiau tramor. Y gamp am wn i yw cynnwys storiau tramor sydd ddim i'w gweld mewn llawer o gyfryngau eraill - gall pawb ddarllen am Bakistan neu Affghanistan er enghraiff mewn gwefannau mwy swmpus ond mae 'na niche (a niche yw e) ar gyfer storiau o wledydd Celtaidd/bychain eraill (fel gwna gwefan newyddion ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru i raddai)
e.e. wyddoch chi fod 2 dim o Lydaw yn ffeinal Cwpan Ffrainc ... rhywbeth ddysges i flog gwefan Cymdeithas Cymru-Llydaw
a ffeindiais drwy fynd ar y www.blogiadur.com