Y gwin yn troi'n sur
Diawch, mae 'na ddeunydd darllen amrywiol yn y swydd yma. Dyma fi'n pori'n gyntaf trwy (pdf) sy'n dweud hyn;
"Rhaid i Aelodau'r Cynulliad...ymddwyn yn anrhydeddus bob amser...dylai Aelodau'r Cynulliad bob amser ymddwyn mewn ffordd a fydd yn cynnal a chryfhau ffydd a hyder y cyhoedd yn unplygrwydd y Cynulliad ac osgoi unrhyw ymddygiad a fydd yn dwyn gwarth ar y Cynulliad neu ar ei aelodau'n gyffredinol."
Oes modd cymhwyso datganiad Alun Davies a'r rheol yna, tybed? Ydy dweud hyn am Trish Law yn "dwyn gwarth ar y cynulliad neu ae ei aelodau'n gyffredinol"?
"The current incumbent does little or nothing to fight for Blaenau Gwent. Her contributions to the Assembly are woeful. She has let down the people of Blaenau Gwent and broken the promises she made."
A beth am ymateb Kirsty Williams?
"If he does win I hope he dopes a better job for Blaenau Gwent than he's done for the people of Mid and West Wales"
O son am Kirsty fe wnes i ofyn iddi heddiw a oedd hi'n gysurus a sylwadau Lembit Opik ynghylch y Ffrancod yn ei golofn yn y "Daily Sport". Yr ymateb? "Dydw i ddim yn darllen y Daily Sport. Efallai dylwn i."
Fe wnâi ar dy ran di, Kirsty. Dyma berl diweddaraf aelod Maldwyn.
"Overall, the recovery plan looks good, although not as good as Sport stunna Kelly McGregor (left)"
Ni allaf ddianc rhag hwn.
SylwadauAnfon sylw
Lembit sgwennu i'r Daily Sport!? Mae'r dyn ddim yn ffit i fod yn aelod seneddol. Gwarth.
Allet ti ddim postio llun o Kelly McGregor te, Vaughan? Ma'n anodd penderfynnu os yw Lembit yn iawn neu beidio heb lun 'chan...
Yn ffodus neu'n anffodus mae 'na broblem hawlfraint... a gweddusdra!
'dopes' a better job ?
Yn sicr bydd hynny o fewn gallu Alun Davies. Bydd ei brofiad o hybu ysmygu yn gryn fantais iddo yn y cymoedd, mi dybiwn . Mae Lembit yn amlwg yn dod a
thrafodaethau economaidd astrus i dudalennau'r 'Daily Sport ' .
A yw ei harem yn mynd i'w gynorthwyo yn
ei ymgyrch etholiadol nesaf ?
Dewch a'ch ' Stunnas ' i Wynedd, Lembit !