Da yw swllt
Cyflogau blynyddol;
Prif Weithredwr Cyngor Merthyr (Cyllideb 2009-10 £104 miliwn); £131,500
Prif Weithredwr Ofcom (Cyllideb 2009-10 £136.8 miliwn); £417,500
Prif Weithredwr NASA (cyllideb 2009-10 $19.7 biliwn/£13.3 biliwn); $177,000/ £119,000
Jyst dweud.
SylwadauAnfon sylw
A beth am gyflogau rai o bobl y cyfryngau Vaughan?!
Pwynt teg. Fe wnes i gynnwys Prif Weithredwr Ofcom yn union er mwyn ceisio osgoi'r cyhuddiad hwnnw! Gallwn wedi cyfeirio at gyflogau rheolwyr y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Mae rheiny'n hysbys. Ond cymharu cyflogau rheolwyr o gymharu a'r cyllidebau y maent yn eu rheoli oeddwn i. Doeddwn i ddim yn gweld pwynt cynnwys peldroedwyr, actorion, Jonathan Ross ayb. Mae honna'n ddadl wahanol.
Mae'n anodd cymharu cyflogau yr UDA a Phrydain oherwydd fod trethau incwm a chostau byw mor wahanol. Hefyd mae cwmniau Americanaidd yn dueddol o gynnig llawer o mwy fuddiannau ychwanegol i weithwyr cyflogedig (fel yswiriant meddygol).
Ond yn y cyd-destun Prydeinig, mae cyflog CEO Ofcom yn warthus.
Mae yna job sy'n talu'n ddeche ym Merthyr???
Pasiodd Prif Weithredwr Sir Benfro y 100k blynydde nôl!
Cadwch lan bois bach... Penfro sy'n arwain tra bo'r lleill yn dilyn...
Ar bwnc arall: oes siawns cael barn y Bwci ar ras arweinyddiaeth Llafur Cymru?
Mae hyn yn cymryd y bisged! Warth fod rwyn gwneud job mewn llywodraeth lleol yn cael hynny! Cyflog 8 nyrs.
Mae cyflog Isobel Garner prifweithredwraig Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dipyn llai na un Merthyr (tua £108,000) gyda cyllideb o £200 miliwn!