Owainbevan (4)
Mae fideo Delilah wedi ei dileu o "YouTube". Dyma esboniad ""
We have removed our Why, Why, Why? video from YouTube after we were informed that some Nats and Tories had complained. It's a real shame that these sensitive souls are so easily offended, and find criticism so hard to take!
Dim byd i wneud a chlirio'r hawliau i'r gerddoriaeth na'r lluniau na thorri cyfreithiau etholiadol! Dim byd i wneud chwaeth a'r embaras llwyr i'r Blaid Lafur ar drothwy cynhadledd newyddion ar y cyd rhwng Rhodri Morgan a'i ddirprwy. Mae'r fideo o hyd ar gael ar safle'r ³ÉÈË¿ìÊÖ!
SylwadauAnfon sylw
Ac ar gael ar sawl blog arall, wedi ei gopio a'i gadw.
Gyda llaw, o ran hawlfraint, fel arfer mae perchennog yr hawlfraint naill ai yn anablu'r 'embedding' ynteu yn adio hysbyseb ar y fideo, ond DIM yn ei ddileu.
Mae'r HA HA drosodd.
Nawr mae'n bryd i Rhodri Morgan a'r Blaid Lafur ymddiheuro.
Ma'r fideo a'r wefan (mae'r wefan yn fwy plentynaidd na'r fideo, os yw hynny'n bosib)yn niweidiol tu hwnt i'r Blaid Lafur. Ma ise rhoi stop ar hyn ar unwaith neu mi fydd y bobl yn dod i gredu nad oes gan y Blaid Lafur ddim i'w ddweud ond gwawdio gwrthwynebwyr.
Rhag cywilydd Eluned Morgan ac Alun Davies - a finne wedi disgwyl gwell ganddoch chi.
Mae hi'n amlwg fod y fideo wedi cael ei dileu yn dilyn unigolion mewn blogiau yn gneud hwyl am ben y fideo. Mae Rhodri M yn cael ei ddyfynu ar y wefan yma yn amlwg wedi golli ei ddwylo o'r holl beth sydd ychydig yn wahanil i'r eglurhad y cawn ar wefan Aneurin Glyndwr...mwy o spin!!
Ma rhywbeth odd iawn am blog sydd yn dweud ma eisiau agor i fynu y dadl gwleidyddol ond sydd yn gwrthod sylwadau! Doh Peter!