³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llyfr Mawr y Plant

Vaughan Roderick | 19:13, Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2009

Dydw i ddim yn gwybod o le ddaeth e ond mae llyfr plant wedi glanio ar fy nesg. Mae'n ddigon atyniadol a lliwgar wedi ei anelu at blant o gwmpas yr wyth oed byswn i'n tybio.

Mae'r llyfr yn adrodd hanes crwt o'r enw Mathias a'i wyliau yn Affrica. Yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei gyhoeddi.

Yr unig gŵyn sy gen i yw'r teitl. Onid oedd hi'n bosib dod o hyd i rywbeth mwy bachog na "Mathias and Amadou- Awakening to Development Co-operation"?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:33 ar 3 Mawrth 2009, ysgrifennodd Dyfrig:

    Euro-speak ar ei orau. Fe fum i'n gweithio ar brosiect Ewropeaidd i wella'r defnydd o ieithoedd lleiafrifoedd yn y gweithle dro yn ol. Roedd y gwaith yn cael ei wneud gan gonsortiwn rhyngwladol, ac er gwaetha'r ffaith bod 'na Gymro, 2 Sais a Gwyddel yn rhan o'r consortiwm, roedd y gwaith hyrwyddo a marchnata yn cael ei wneud gan gwmni o Estonia - ond drwy gyfrwng y Saesneg. A doedd dim diben i'r siaradwyr Saesneg cynhenid geisio bathu slogannau a theitlau bachog ar gyfer hyrwyddo'r gwaith; yr Estoniaid oedd a'r gair olaf bob tro. Fe alla i ddychmygu sefyllfa debyg yn y fan hyn - criw rhyngwladol yn eistedd o gwmpas mewn ystafell gynhadledd rhywle yn Ewrop, gyda'r Saeson yn tynnu gwallt eu pennau oherwydd bod yr Estoniaid yn gwrthod derbyn nad yw "Mathias and Amadou- Awakening to Development Co-operation" yn taro'r glust yn iawn.

  • 2. Am 12:13 ar 5 Mawrth 2009, ysgrifennodd Llyr:

    Mae gen i fersiwn Cymraeg o'r llyfr - "Mathias ac Amadou - Deffro i Gydweithredu ar Ddatblygu"! Ac er gwaetha'r teitl mae e ymhlith y 'top ten' o lyfrau'r plant yn ein tÅ· ni!

  • 3. Am 15:59 ar 5 Mawrth 2009, ysgrifennodd Dafydd ab Iago:

    Mae'r fersiwn Cymraeg ar gael yma:

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.