Siop Siafins
Oherwydd bod gen i gysylltiadau teuluol ac un o'r ysgolion dw i'n gadael gohebu ynghylch helyntion ysgolion Treganna yng Nghaerdydd i'm cydweithwyr. Ond mae blogio ychydig yn ormod o demtasiwn i mi heddiw gyda'r troeon trwstan diweddaraf yn ymylu ar fod yn ffars.
Y cefnidir yn gyntaf. Dechreuodd yr helynt ar ôl i gynghorydd Llafur (a gweithiwr etholaeth i Rhodri Morgan) Ramesh Patel ddisgrifio cynllun i gau Ysgol Gynradd Lansdowne a defnyddio'r adeiladu i ehangu un o'r ysgolion Cymraeg lleol fel "ethnic cleansing". Er bod rhai wedi cyhuddo'r ³ÉÈË¿ìÊÖ o lusgo traed ar y stori yma mae'n werth nodi wrth fynd heibio mai ar y blog yma yr ymddangosodd hi gyntaf. Ar ôl i Neil McEvoy, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar gyngor Caerdydd, wneud cwyn swyddogol i'r cyngor fe ymddiheurodd Cyng. Patel am ei union eiriau- ond nid am sylwedd ei sylwadau. Mae'r heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad yn sgil cwyn gan riant.
Ddoe yn y cynulliad, heb enwi Ysgol Lansdowne, awgrymodd Rhodri Morgan ei fod yn cytuno y byddai cau'r ysgol Saesneg yn arwain at "bolareiddio ethnig". Yn sgil hynny y sylwadau hynny cafwyd rhagor o gwynion, y tro yma gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.
Mae'r cwynion y ddwy blaid yn wahanol i'w gilydd. Cyhuddo'r Prif Weinidog o dorri'r cytundeb rhwng y pleidiau i beidio defnyddio hil at ddibenion gwleidyddol mae Cyng. McEvoy a Phlaid Cymru. Y Comisiwn Cydraddoldeb wnaeth lunio'r cytundeb hwnnw ac mae Plaid Cymru wedi galw ar y Comisiwn i ymchwilio i sylwadau'r Prif Weinidog.
Y prynhawn yma fe benderfynodd Rhodri ysgrifennu at y comisiwn hefyd i ofyn am ymchwiliad i gynllun y cyngor i gau'r ysgol. Gallai Rhodri fod ar dir peryglus yn fan hyn- yr union dir oedd yn destun cwyn y Ceidwadwyr.
Mae'r wrthblaid yn llygaid ei lle wrth ddweud bod gan lywodraeth y cynulliad rôl statudol farnwrol yn y saga. Os ydy'r cyngor yn bwrw ymlaen a'r cynlluniau fe fyddai unrhyw apêl yn fater i'r gweinidog addysg. Mae'r Torïaid yn amau bod Rhodri wedi torri'r rheolau a llurgunio'r broses trwy ragfarnu'r sefyllfa.
Yr hyn sy'n cymhlethu pethau yw mai Rhodri yw'r aelod cynulliad lleol. Cymerwyd gofal arbennig felly i sicrhâi mai o'r Blaid Lafur a nid o'r llywodraeth y daeth ei ddatganiad heddiw. Roedd hi'n gamgymeriad felly bod y datganiad hwnnw a'r pennawd "First Minister requests Equality Commision ruling on school closure". Daeth cyweiriad o fewn munudau "Rhodri was speaking in his capacity as AM for Cardiff North". Gorllewin, nid Gogledd Caerdydd yw etholaeth Rhodri, wrth gwrs!
Camgymeriadau diniwed neu arwyddion o banig? Mae'r naill ar llall yn bosib ond gallai'r stori yma fod yn bwysicach ac yn llai plwyfol nac oedd hi'n ymddangos ar yr olwg gyntaf.
SylwadauAnfon sylw
Credaf nad yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ wedi rhoi digon o sylw i'r stori hon. Mae penderfyniad bwriadol y Blaid Lafur i droi hawl rhieni i addysg Gymraeg yn fater hil yn ddifrifol tu hwnt. Dylai gael mwy o sylw ar y ³ÉÈË¿ìÊÖ - trwy gyfrwng y Saesneg yn ogystal a'r Gymraeg.
Mae addysg Gymraeg yn amlddiwylliannol mewn un ffordd amlwg nad yw'n wir am addysg gyfrwng Saesneg - mae'n hyrwyddo bodolaeth dwy iaith yn hytrach nag un. At hyn hefyd, mae addysg Gymraeg yn amlethnig. Y cwestiwn ydy sut i'w gwneud yn fwy amlethnig. Y ffordd orau ydy darparu adnoddau teilwng ar gyfer addysg Gymraeg, a hynny mewn ardaloedd lle bo canran lleiafrifoedd ethnig yn gymharol uchel.
Byddai symud Ysgol Treganna i safle Ysgol Lansdowne yn bodloni'r amodau uchod.
Cwestiwn : I pa raddau y gwnaeth Rhodri Morgan gefnogi addysg Gymraeg gyda'i plant ei hun ?
Ateb: Dim cymaint ag Alun Michael.