Morgan Mâs?
Dyw pethau ddim yn dda yn swyddfeydd y Ceidwadwyr. Mae'n ymddangos bod ymdrech gan Nick Bourne i adrefnu ei gabinet wedi troi'n dipyn o lanast gyda'r aelodau wnaeth hogi eu cyllyll a methu trywannu cyn y Nadolig yn gandryll. "Uffernol" yw disgrifiad un Ceidwadwr o'r sefyllfa.
Y sibryd yw bod Jonathan Morgan, y ffefryn i olynu Nick, wedi gadael y cabinet ar ôl gwrthod derbyn y swydd o lefarydd addysg.
Pam heddiw, Nick, pam heddiw? Ni'n ddigon prysur yn barod yn dadansoddi canlyniadau arolwg barn y ³ÉÈË¿ìÊÖ! Mwy am rheiny am bump!