Y 10 Uchaf- Arfon a Llanelli
Pan wnes i baratoi rhestr "deg uchaf" o'r etholaethau Cymreig mwyaf diddorol yn yr etholiad nesaf fe wnaeth sawl un awgrymu fy mod yn anghywir i gynnwys Arfon ar draul Llanelli. Mae 'na ddadl i'w chael. Yn y bôn mae'r cwestiwn yn ddigon syml- oes gan Blaid Cymru well cyfle o gipio Llanelli na sydd gan Lafur o ennill Arfon?
Sylwch mai "ennill" yn hytrach na "chipio" yw'r ferf yn achos Arfon. Fel Aberconwy mae hon yn etholaeth newydd sy'n cyd-fynd â ffiniau'r hen gyngor dosbarth. Mae Dwyfor wedi gadael felly a Bangor a Dyffryn Ogwen wedi dod i mewn.
Efallai eich bod yn cofio Rallings a Thresher o'r erthygl ynglÅ·n ag Aberconwy. Nhw yw'r academyddion sy'n llunio canlyniadau tybiannol ar gyfer etholaethau newydd- hynny yw amcangyfrif o ganlyniad yr etholaeth yn yr etholiad blaenorol. Maen nhw o'r farn mai Llafur fyddai wedi ennill yr Arfon yn 2005. Dyma'u ffigyrau;
Llafur 8165 (35.5%)
Plaid Cymru 8072 (35.1%)
Ceidwadwyr 3431 (14.9%)
Dem. Rhydd. 2599 (11.3%)
Eraill 748 (3.2%)
Mwyafrif 93 (0.4%)
Ras gyfartal yw honno i bob pwrpas. Roedd canlyniad etholiad cynulliad 2007 yn wahanol iawn.
Plaid Cymru 10260 (52.4%)
Llafur 5242 (26.8%)
Ceidwadwyr 1858 (9.5%)
Dem. Rhydd. 1424 (7.3%)
UKIP 789 (4.0%)
Mwyafrif 5018 (25.6%)
O safbwynt y canrannau dyw hynny ddim mor wahanol â hynny i ganlyniad tybiannol etholiad cynulliad 2003- yr hyn sy'n drawiadol yw'r niferoedd crai. Fe bleidleisiodd bron i hanner etholwyr Arfon yn etholiad y cynulliad canran sy ddim llawer yn llai na sy'n troi allan mewn etholiad cyffredinol. Er mwyn ennill felly fe fyddai'n rhaid i Lafur sicrhâi cefnogaeth etholwyr wnaeth bleidleisio dros Blaid Cymru yn etholiad y cynulliad. Mae hwnnw'n dalcen caled i weithio o gofio amhoblogrwydd Llafur a'r ffaith mai Hywel Williams yw deiliad y sedd i'r rhan fwyaf o'r etholwyr.
Mae 'na un ffactor arall sy'n gwneud Plaid Cymru'n dawel hyderus. Disgrifiwyd hen etholaeth Conwy fel "sedd lle mae pawb yn pleidleisio i'w hail ddewis". Yn sicr roedd pleidleisiau personol a thactegol yn allweddol i lwyddiant Betty Williams. A fydd y cyfan o'r pleidleiswyr hynny'n deyrngar i Lafur mewn amgylchiadau ac etholaeth newydd? Mae hynny'n annhebyg.
Un ffactor arall sy'n werth ei grybwyll yn Arfon yw'r hyn ddigwyddodd yn etholiadau lleol 2008. Yn yr etholiadau hynny collodd Plaid Cymru gyfres o seddi yn sgil y cynllun amhoblogaidd i ad-drefnu'r ysgolion. Ydy hynny'n debyg o effeithio ar ganlyniad yr etholiad cyffredinol yn enwedig os oes 'na ryw fath o ymgeisydd Llais Gwynedd-aidd yn sefyll? Mae hynny'n annhebyg hefyd. Roedd y cynllun ad-drefnu wedi ei gyhoeddi cyn etholiad y cynulliad yn 2007 a does dim tystiolaeth ei fod wedi cael unrhyw effaith o gwbwl ar y canlyniad.
Yn ffodus does dim rhaid dibynnu ar Rallings a Thresher yn achos Llanelli! Dyma'r canlyniad yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Llafur 16,592 (46.9%)
Plaid Cymru 9,358 (26.5%)
Ceidwadwyr 4,844 (13.7%)
Dem. Rhydd. 4,550 (12.9%)
Mwyafrif 7,234 (20.5%)
A dyma'r canlyniad yn etholiad cynulliad 2007.
Plaid Cymru 13,839 (50.1%)
Llafur 9,955 (36.1%)
Ceidwadwyr 2,757 (10.0%)
Dem. Rhydd. 1,051 (3.8%)
Mwyafrif 3,884 (14%)
Yr hyn sy'n drawiadol yw nad yw pleidlais grai Helen Mary Jones cymaint â hynny'n llai na phleidlais Nia Griffith. Ar ôl dweud hynny, mae Helen yn ymgeisydd eithriadol, roedd 'na helynt yng nghylch ysbytai lleol yn 2007 ac mae etholiadau cynulliad yn fwy ffafriol i Blaid Cymru nac etholiadau seneddol.
Ond fe dderbyniodd Llafur grasfa arall yn etholiadau lleol 2008 ac am y tro cyntaf roedd 'na dystiolaeth bod Plaid Cymru yn dechrau herio Llafur yn y dref ei hun yn ogystal â'r pentrefi o'i chwmpas.
Ydy hi'n bosib felly i Blaid Cymru gipio sedd seneddol Llanelli? Ydy - ond fe fyddai angen storom berffaith i wneud hynny.
Ai Llanelli yntau Arfon sy'n haeddu bod yn y deg uchaf? Penderfynwch chi!
SylwadauAnfon sylw
Canlyniadau lleol Llanelli yn syfrdanol llynedd:
Plaid 15
Eraill 10
Llaf 5
Rhydd Dem 1
O gymharu â 2004:
Plaid 5
Eraill 9
Llaf 16
Ceid 1
Ga'i ychwanegu o ran Arfon nad ydi hi'n amhosibl y bydd cynnwys Dyffryn Ogwen a Bangor o les i Blaid Cymru. Yn draddodiadol roedden nhw'n ardaloedd Llafur cryf, ond wrth i Blaid Cymru golli tir ym Meirionnydd a Dwyfor yn ystod etholiad y cyngor y llynedd, cynyddu wnaeth ei phleidlais a nifer ei seddi yn Nyffryn Ogwen a Bangor - fel un sy'n nabod dwyrain yr etholaeth yn dda iawn byddwn yn hollol hyderus yn dweud mai Plaid Cymru aiff â hi yn San Steffan.
Fel Cynghorydd Plaid Cymru yn etholaeth Arfon, dwi'n obeithiol y bydd Hywel Williams yn dal/cipio y sedd, a hynny a mwyafrif sylweddol. Rwyt ti'n tynnu sylw at golledion Plaid Cymru yng Ngwynedd yn etholiadau lleol llynedd, ond roedd y colledion hynny bron i gyd yn Dwyfor a Meironydd. Dim ond 2 aelod sydd gan Lais Gwynedd yn Arfon, a nid oes ganddyn nhw unrhyw fath o gefnogaeth yn nwyrain y sir. Dylid nodi hefyd bod gan Blaid Cymru fwyafrif o gynghorwyr yn ardal Arfon, am y tro cyntaf erioed.
Mae'r etholaeth newydd wedi llyncu Bangor a Dyffryn Ogwen, ond wedi colli rhannau o Ddwyfor. Pan godwyd y newid yma rai blynyddoedd yn ol, roedd pryder y byddai hynny yn peryglu Hywel Williams, oherwydd y byddai'n dod a thon o etholwyr Llafur i mewn i etholaeth draddodiadol Plaid Cymru. Ond edrychwch heddiw ar sefyllfa Bangor a Dyffryn Ogwen. Mae Bangor yn ethol 10 Cynghorydd Sir - 5 PC, 3 Lib-Dem, 1 Annibynnol ac 1 Llafur. Mae Dyffryn Ogwen yn ethol 4 cynghorydd - 2 Blaid Cymru, 1 Lib-Dem ac 1 Llafur. Yn bersonol, dwi'n credu bod dod a'r ardaloedd hyn i mewn i etholaeth Hywel Williams wedi cryfhau ei sefyllfa, a nid ei gwanhau.
Tua 25% nid 35% oedd canran Llafur yn Arfon yn etholiad y Cynulliad
Mi wyt ti'n iawn. "Typo" ar fy ran i -roedd canrannau UKIP a'r mwyafrif hefydd yn wallus. Maen nhw wedi eu cyweirio. Diolch.
I Llanelli fyddwn ni yn anfon gobehbydd gwleidyddol ond fe fydd ennill yn dipyn o her i Blaid Cymru. Wedi dweud hynny mae'n ymddangos fod Llafur ar drai yn genedlaethol ac os y gall y Blaid gael eu hystyried yn her credadwy yna fe fydd gobaith.
Dau mater allweddol i'w ystyried yw'r trefniadaeth lleol a'r ymgeisydd. Gan fy mod yn gyfarwydd a'r ardal byddwn yn mentro dweud Dwi fod trefniadaeth Llafur yn yr etholaeth wedi gwanio dros y 5 mlynedd diwethaf does ond angen edrych ar Gyngor Tref Bangor. Wedi dweud hynny mewn etholiad cyffredionl mae'r sylw ar y ddwy blaid fawr. Petai Llafur ar ei fyny dwi yn meddwl y byddai Arfon yn dalcen caled i'r Blaid ond mae'r pen llanw Llafur wedi bod ac mae pethau ar i lawr iddynt yn yr etholaeth. Gai fentro gofyn pam fod Betty Williams yn ymddeol? Mae yn debyg bod ei hoedran yn ffactor ond fe dybiwn ei bod fel ambell ei focsiwr eisiau cadw record di guro. Petai Aberconwy neu Arfon yn ennilladwy tybed a fyddai wedi mentro aros ??