Hyn a'r Llall
Mae 'na erthygl ddiddorol gan Leighton Andrews ynglŷn â'r defnydd o arian preifat i gyflawni prosiectau cyhoeddus wedi ymddangos ar safle . Nid dadlau o blaid PFI mae Leighton a dyw'r hyn sydd ganddo i ddweud ddim yn groes i bolisi'r llywodraeth. Serch hynny mae'r tôn yn wahanol iawn i'r rhethreg arferol.
Wythnos nesaf fe fydd cartref newydd Cerddorfa ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru yng yn agor gyda pherfformiad o "Badger in the Bag" gan Alun Hoddinott. Pwy fydd yn cynrychioli'r llywodraeth, tybed? Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth neu Elin Jones a'i thwelve bore?
Does 'na ddim "Dau o'r Bae" heddiw. Fe fydd y rhaglen a'r podlediad yn dychwelyd wythnos nesaf.