³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hen Hanes

Vaughan Roderick | 14:11, Dydd Sadwrn, 3 Ionawr 2009

Mi ydw i ychydig ar ei hôl hi wrth sgwennu am gynlluniau i wario dwy filiwn o bunnau ar ddiogelu safleoedd hanesyddol sydd yn ôl y gweinidog treftadaeth yn "rhan annatod o'n cenedligrwydd, ein hiaith a'n diwylliant ni fel Cymry." Maen nhw wedi sefyll ers canrifoedd gwnaeth ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth!

Peidied neb a meddwl nad yw'r penderfyniad yma yn un cyfan gwbwl wleidyddol. Does ond angen edrych ar y rhestr o safleoedd i ddeall beth yw'r bwriad. Glyndyfrdwy, Sycharth, Abergwyngregyn, Abaty Cwm Hir, Ystrad Fflur, Pennal. Mae fel darllen fel mynegai i un o lyfrau hanes Gwynfor Evans!

Roedd gan Gwynfor gymhelliad gwleidyddol fel hanesydd. Does dim byd yn bod ar hynny. Mae'n wir am nifer o haneswyr. Fe gafodd y cymhelliad hwnnw ei gyfleu'n dda gan yr Athro Jac L Williams pan ddywedodd bod "cof cenedl cyn bwysiced a'i hiaith o safbwynt ei pharhad". Mae'n dealltwriaeth o'n hanes, ein mytholeg cenedlaethol os dymunwch chi, yn dylanwadu'n enfawr ar ein gwleidyddiaeth. Dyw hi ddim yn afresymol i ddadlau, er enghraifft, mae'r rheswm y mae Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o gefnogi Plaid Cymru yw bod eu dealltwriaeth o hanes Cymru yn wahanol ac yn fwy dwys na dealltwriaeth y di-Gymraeg.

Rwy'n symleiddio braidd trwy ddweud bod 'na ddwy garfan o haneswyr yng Nghymru ond mae 'na wirionedd yn yr honiad. Ar y naill ochor mae'r haneswyr sy'n gweld hanes y Cymry fel un stori hir -rhyw fath o linyn arian sy'n ein cysylltu ni heddiw a Merched Beca, Owain Glyndŵr, Catraeth a'r Brythoniaid, pobol fel Syr John Lloyd, Gwynfor Evans a John Davies. Yr Athro Dai Smith, efallai, yw'r enghraifft orau o'r garfan arall, pobol sy'n gweld hanes Cymru fel cyfres o chwyldroadau- proses hir o ddinistrio, ail-greu a thrawsnewid. Dyw'r haneswyr hynny ddim yn gwadu bod y Cymry yn genedl ond maen nhw'n dadlau bod bron popeth sy'n ein nodweddu fel cenedl yn gynnyrch canrifoedd olaf yr ail mileniwm. Dadlau dros y fersiwn honno o hanes mae Huw Lewis gyda'i ymgyrch i sefydlu ym Merthyr.

Mae'n rhaid edrych ar gyhoeddiad Alun Ffred Jones yn y cyd-destun hwnnw. Mae dyrchafu safleoedd sydd yn bwysig yn y fersiwn genedlaetholgar o hanes Cymru yn weithred gwleidyddol- yn rhan o ymdrech i "adeiladu'r genedl". Cofiwch, roedd yr arfer o anwybyddu'r safleoedd yma yn y gorffennol yr un mor wleidyddol.

Dadl Cadw a'i rhagflaenwyr oedd bod 'na "lai i weld" yn y safleoedd Cymreig. Mae'n wir nad yw olion Sycharth yn cymharu a Chestyll Edward I ond ai dyna oedd y gwir reswm? Yn Nyffryn Hafren, er enghraifft trysorwyd a diogelwyd Castell Normanaidd . Cafodd Castell Llywelyn yn , sydd mewn cyflwr digon tebyg, ei anwybyddu. Mae'n rhyfeddol nodi na chafwyd unrhyw waith archeolegol nac unrhyw ymdrech i ddiogelu Dolforwyn tan wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Mae'n bosib dadlau mae gwneud yn iawn am gamweddau'r gorffennol mae Alun Ffred felly. Serch hynny fe fydd hi'n hynod ddiddorol gweld sut mae Cadw yn dehongli'r safleoedd yma i'r cyhoedd a pha fersiwn o'n hanes sy'n cael ei gyflwyno.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:53 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd Cywiriadau Iaith:

    Cywiriadau o fewn [cromfachau petryal].

    Nid i'w gyhoeddi y mae hwn, ond byddai'n braf petai Vaughan Roderick yn cael golwg, ac yna godi copi o "Gramadeg y Gymraeg". :)

    i) Mae[n] nhw wedi sefyll ers canrifoedd[;] [ ]wna[iff] ychydig ddyddiau fawr o wahaniaeth!

    ii) Peidied neb [â] meddwl nad yw'r penderfyniad yma yn un cyfan gwbwl wleidyddol.

    iii) Dyw hi ddim yn afresymol i ddadlau, er enghraifft, [mai]'r rheswm [bod y] Cymry Cymraeg yn fwy tebygol o gefnogi Plaid Cymru yw...

    iv) Yn Nyffryn Hafren, er enghraifft[,] trysorwyd a diogelwyd...

    iv) Mae'n bosib dadlau [mai] gwneud yn iawn am gamweddau'r gorffennol mae Alun Ffred felly.

  • 2. Am 22:17 ar 3 Ionawr 2009, ysgrifennodd Dai T:

    hen bryd hefyd ar ol blynyddoedd a milynau o wario ar gestyll Normanaidd

  • 3. Am 01:33 ar 4 Ionawr 2009, ysgrifennodd dewi:

    Rhagorol = cytuno yn llwyr gyda Dai T. Pa wlad arall yn y byd buasai'n gwario miloedd ar "Blwyddyn y cestyll" - dathlu ein concwest!! - Pob hwyl i Alun Ffred!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.