Maes Golwg
Fe wnes i flogio ddiwedd yr wythnos diwethaf am y si y bydd gwefan newyddion Golwg wedi ei seilio ar faes yr eisteddfod. Rwyf newydd dderbyn nodyn gan un o'm sbeis sy'n cynnig esboniad;
"Fi wedi clywed o ffynonellau dibynadwy iawn bod y wefan wedi'i seilio ar faes yr eisteddfod - ond nid yn y ffordd wyt ti'n ei ddisgrifio yn union. Fe fuodd Dylan (Iorwerth) yn siarad â chynrychiolwyr nifer o fudiadau gwirfoddol a sefydliadau cyhoeddus Cymraeg yn ddiweddar yn son am y wefan. Mae e'n cyffelybu'r wefan i'r eisteddfod yn y ffordd y mae'r gwahanol gyrff a sefydliadau yma yn cael stondinau ar y maes felly hefyd bydd gwefannau bach ar wefan Golwg i'r sefydliadau hyn etc. Ac fel maen nhw'n talu am eu stondin ar faes y steddfod felly hefyd byddan nhw'n talu Golwg am fod ar eu gwefan nhw."
Mae'r ysbïwr yn codi cwestiwn diddorol;
"Dwy ddim yn siwr iawn pa mor briodol yw hi i gwmni sy'n derbyn £200k o arian cyhoeddus i wedyn ofyn am rhagor o arian gan gyrff cyhoeddus eraill i gynnal y wefan."
Am wn i mae'r ateb i'r cwestiwn yna yn dibynnu ar beth yn union y mae Golwg yn cynnig. Fe fyddai ceisio codi arian am ddolen i wefan Cymraeg yn beth eithaf siabi ond fe dybiwn i mae cynnig gwasanaeth gweinyddwr (server) a meddalwedd y mae'r cwmni. Fe fyddai codi am wasnanaeth felly yn ddigon rhesymol.
SylwadauAnfon sylw
Fel ti'n dweud, does dim o'i le ar werthu gofod hysbysebu ar y wefan, yn wir byddai rhwyun yn synnu petai nhw ddim, ond cael £200,000 y flwyddyn i gynnal gwasaenth newyddion mae Golwg, nid i gynnal cyfeiriadur o wefannau Cymraeg (mae nifer yn bodoli'n barod ta beth a sy'n costio £0.00)
Hefyd, os bydd Golwg yn defnyddio'r arian yma i gynnig gwasanaeth adeiladu gwefannau a llety (hosting), mae hyn yn mynd i fod yn gystadleuaeth anheg braidd i lawr o fusnesau bychain sy'n cynnig gwasanaeth tebyg - un o'r maesydd prin ble mae nifer o Gymry Cymraeg hen ac ifanc wedi bod yn dechrau busnesau eu hunain ynddo dros y 5-10 blynedd diwethaf.
O ia, a siwans bod gyda nhw ddigon o arian i dalu am eu ddefnyddio lluniau pobl eraill rwan hefyd!
Mae Cymry o gwmpas y byd i gyd edrych ymlaen i gweld y safle we Newyddion Golwg. Mae sialens nhw tebyg iawn i problem Barack Obama trio cadw disgwyliadau lawr ychydig bach!!!
Rhaid cyfadde mae anodd iawn fod yn wahanol i gwasaneth arbennig ³ÉÈË¿ìÊÖ a fod cystal!!!!Sialens a hanner!!!
Sai'n gweld unrhyw broblem gyda chodi arian am 'stondinau' ar wefan Golwg, hyd yn oed os taw "sied-gwyntog - dewch-a-phopeth-sy-isie-arnoch-chi, achos-does-dim-byd-arall-ar-gael-am-ddim" yw'r stondinau sy ar gael. Wedi'r cyfan, mae'r Eisteddfod yn derbyn nawdd weddol hael, ond mae nhw'n codi am bob dim.
Pe bai Golwg yn gwneud arain mawr o'r wefan, falle byddai isie disgwyl ar y sefyllfa'n agosach, ond tybiwn i y bydd y wefan yn gwneud yn dda i beidio a cholli arian, o feddwl taw tair mlynedd yn unig o arian sydd ar hyn o bryd.
Ro'n i'n anhapus iawn gyda'r broses a ddaeth a'r arian at gylchgrawn Golwg, ond rwy'n gobeithio y llwyddith y wefan newydd, ac os taw codi tal am bresenoldeb eraill yw'r ffordd orau mlaen, felly mae.