³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llawenydd Mawr

Vaughan Roderick | 11:36, Dydd Gwener, 28 Tachwedd 2008

Mae'n bleser gen i ledaeni ychydig o newyddion da. Mae Jon Gower a chriw o newyddiadurwyr ac ysgrifenwyr eraill wedi sicrhâi cyllid digonol i lansio gwefan newyddion Saesneg newydd i Gymru.

Fe fydd y wefan wedi ei modelu ar yr gyda rhai o'r dolenni yn eich arwain at ddeunydd allanol ac eraill at straeon ac erthyglau gwreiddiol. Fe fydd gan y wefan yr adnoddau i gomisiynu rhyw hanner dwsin o straeon ac erthyglau gwreiddiol bob dydd a'r bwriad yw y bydd y deunydd hwnnw yn canolbwyntio ar feysydd sy ddim yn derbyn sylw gan y cyfryngau presennol. Fe fydd y safle yn fyw yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

Os nad ydych wedi tanysgrifio i'r podlesiaid mae nawr yn amser da i wneud hynny. Fe fydd John yn trafod y cynlluniau ar rifyn yr wythnos hon. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Diweddariad; Mae'r podediad yn fyw.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:42 ar 28 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Dw'i ddim yn deall y pwynt o'r podlediad.. - Pam ddim bocs fach ar y sgrin a botwm 'Press Play' ?? Efallai fod mantais i 'downloado', ond unwaith rydych wedi gwrando unwaith, wel, pwy eisiau sydd i gadw fe ar eich 'hard disk' ?

    Ond efallai fy mod wedi colli'r pwynt.. [Mae'r ffaith nad os gennyf 'iPod' 'probably yn signficant'..]

  • 2. Am 22:05 ar 30 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Vaughan:

    Paid gofyn i fi! Dydw i ddim yn deall y pethau ma chwaith. Ond mae'n debyg taw ar gyfer yr iPod mae'r pethau 'ma wedi cynllunio.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.