³ÉÈË¿ìÊÖ

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau Olaf

Vaughan Roderick | 15:12, Dydd Gwener, 7 Tachwedd 2008

Dw i wedi gwrthsefyll y temtasiwn i sgwennu ynghylch etholiadau America'r wythnos hon. Dw i'n meddwl bod bron popeth sy 'na i ddweud wedi ei ddweud, ac wedi ei ddweud yn well, gan eraill.

Serch hynny mae gen i ambell i sylwad ac ambell i ddolen yn ymwneud a'r ymgyrch a rhai o'r canlyniadau.

Un peth oedd yn drawiadol iawn oedd yr ymgyrchu firaol, yn bennaf gan gefnogwyr y Democratiaid. Yn ystod yr ymgyrch fe wnes i dderbyn dwsinau o ddolenni i wahanol safleoedd a negeseuon fideo gan gyfeillion o America. Yr un oedd y mwyaf gwreiddiol.

Yr hyn sy'n ddiddorol oedd nad oedd y rhan fwyaf o'r negeseuon hyn ac unrhyw gysylltiad â'r ymgyrchoedd swyddogol. Yma, ym Mhrydain fe fyddai ymgyrchu o'r fath dros ymgeisydd penodol yn groes i'r gyfraith.

Mae 'na ddadl ddiddorol o'n blaenau. Ydy hi'n bosib i rwystro ymgyrchu annibynnol gan unigolion a grwpiau yn wyneb y chwyldro technolegol? Yr ateb, fe dybiwn i, yw nac ydy. Does dim modd gwahaniaethu rhwng sylwad ar flog ynglÅ·n ag ymgeisydd a fideo ar YouTube yn ei ganmol neu ei feirniadu. O dderbyn hynny mae'r cyfyngiadau ar wariant ymgeiswyr mewn etholiadau yn debyg o fod yn weddol ddiystyr yn y dyfodol.

Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod etholiad oedd wedi ei nodweddu gan y defnydd o'r we hefyd wedi gweld dadeni'r dechneg ymgyrchu hynaf ohonyn nhw i gyd- y cyfarfod cyhoeddus. Heb os roedd dawn areithio Barack Obama. Mae'n anodd peidio rhyfeddu at ei ddulliau rhethregol wrth wylio rhywbeth fel .

Yn olaf trist oedd gweld bod wedi methu am yr eil dro i ennill sedd yn y gyngres. Fe fydd yn blest.


SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:06 ar 8 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Glanyrafon:

    Ymddengys bod y fideo Youtube y rhoddwyd dolen iddo fe uchod wedi ei dynnu.

    "This video has been removed due to terms of use violation."

  • 2. Am 20:29 ar 9 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Dyl:

    nid ydwyf yn weld lawer o bobl yn sgwenu goment ar hon, man anodd! lol

    nad yw'r goment yn gael ei bostio weithiau achos "errors", pam ddim defnyddio yr account rydym yn defnyddio i sgwennu "betsan's blog" ar hon?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈË¿ìÊÖ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈË¿ìÊÖ

³ÉÈË¿ìÊÖ Â© 2014 Nid yw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.