Thanciw
Dw i newydd ddarganfod fy mod wedi ennill gwobor yng . Diolch yn fawr i chi gyd. Nawr dw i'n teimlo'n wirioneddol euog am beidio postio ym Mis Awst!
Fel arwydd o ddiolchgarwch ac edifeirwch dyma ambell i ddolen.
Yn gyntaf i Sarah Palin. Gan aros yn yr UDA mae yn safle gwych i gadw llygaid ar yr arolygon barn.
Mae ein cyfeillion yn ³ÉÈË¿ìÊÖ Alba yn paratoi i lansio'r sianel deledu ar yr ugeinfed o fedi. Gellir cael rhagflas ar Sianel 169 ar Sky rhwng wyth a deg bob nos.
Mae Andy Bell sy'n gohebu'n achlysurol o Awstralia i Radio Cymru ac S4C wedi cychwyn sioi newydd ar orsaf radio yn Melbourne. Mae'n cynnwys peth cerddoriaeth Cymraeg ar ei raglen sydd i glywed (yn y wlad hon) rhwng 12 a 2 ar brynhawniau Sadwrn.
..
SylwadauAnfon sylw
Ydy, mae electoral-vote.com yn dda ond un gwell yw www.fivethirtyeight.com -- sy'n rhoi rhagolwg o debygolrwydd y canlyniad terfynol ar sail polau piniwn cenedlaethol a thaleithiol.
Yr ystadegau soffistigedig sy'n fy nenu i, 'no.