Gwasgfa ar Rhodri Glyn
Dw i ddim eisiau dychwelyd at y pwnc yma'n rhu aml ond mae 'na ambell i ddatblygiad yn y ffrwgwd ynghylch y wasg Gymraeg. Tra bod Cymdeithas yr Iaith yn trefnu yn galw ar y llywodraeth i neilltuo swm digonol yn benodol ar gyfer sefydlu papur dyddiol mae'r Torïaid hefyd wedi bod yn ychwanegu at y pwysau. Mewn cynhadledd newyddion heddiw dychwelodd Nick Bourne at y pwnc gan ddweud bod angen rhywle rhwng chwe chan mil a miliwn o bunnau i sefydlu papur ac y byddai'r Torïaid yn pwyso am hynny.
Yn y cyfamser mae 'na sibrydion ymhlith newyddiadurwyr y cynulliad bod cwmni Trinity Mirror yn paratoi cais am arian. Mae'n bosib y bydd y cais hwnnw yn seiliedig ar ffurf estynedig o atodiad "Herald Cymraeg" y Daily Post gyda'r Western Mail hefyd yn ei ddosbarthu. Fe gawn weld.
SylwadauAnfon sylw
Annwyl Vaughan,
Ydy S4C yn fynd i cario ymlaen yn newid amser darlledu CF99 o wythnos i wythnos ac os ydynt os modd wneud yn siwr fod y rhaglennu diweddaraf ar gael ar y we?
Diolch
Twm,
9.30 fydd yr amser am rai wythnosau o leiaf. Mae'r newidiadau amser yn boen i ni hefyd!
Mae'n bosib gwylio rhan o'r rhaglen o'r ddolen uchod ond oherwydd cymhlethdodau'r cytundebau rhwng y ³ÉÈË¿ìÊÖ ac S4C dim ond gwefan S4C sydd a'r hawl i'w ddangos yn ei hyfanrwydd. Am yr un rheswm dyw rhaglenni Cymraeg y ³ÉÈË¿ìÊÖ (yn wahanol i raglenni Gaeleg) ddim ar gael ar i-player.